Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 493.] HYDREF, 1856. [Cyf. XXXIX. DYLANWAD A PHWYSIGRWYDD YMARFERIAD. , ÂNERCHIAD AT DDARLLENWYR IEUAINC SEREN GOMER. GAN y PARCH. EDWARD ROBERTS, BETHEL, BASSALEG. " O Custom, mighty Custom, thee the great world crowneth king I Whether a boisterous loyalty make all the \velkin ring. Or welcome silence render nicer homage to thy sway, Thou art our king, O Custom, from Columbia to Cathay! In Church and State, in synod's harsh and senate's grave array, Prom statesman, noblc, priest, and king, thou bear'st the-palm away; Oft murmured at in hut and hall, but victor in the end, The tyrant of a thousand souls, the giddy million's friend." Mae ymarferiad (habit) yn un o ansoddau neillduol y cymmeriad dynol ag sydd yn deilwng o ystyriaeth y moesolwr a'r athron- ydd. Er mor gynnefin ydym â'r meddyl- ddrych o ymarferiad, efallai, er hyny, fod yn haws dweyd am arddangosion (pheno. mena) y ffaith, nâ rhoi darluuiad boddhäol o'i natur. Yr anianydd moesol a'i gesyd yn mysg yr hyn a elwir yn ffeithiau eithaf- ig (ultimate Jacts); hyny yw, yn un o'r ffeithiau hyny, tu draw i ba rai nis gellir gwneuthur olrheiniad, megys anadliad, cyll- draul, &c. Yr ydym yn hysbys o weithred- iadau y pethau hyn ynom ein hunain ac yn ereill; ond erys y rheswm o honynt yn ddirgelwch dwfn ac annirnadwy. Y darnodiad goreu a allwn ni roddi o ym- arferiad, yw y rhwyddineb hwnw yn nghyf- lawniad unrhyw beth, ac hefyd, pan fyddo a wnelo ein cyffröadau blysiol âg ef', y chwan- nogrwydd hwnw i'w wneyd ng y mae un yn ei gyrhaedd dwy gynnefindra. Mynychder cyflawniad unrhyw beth, pa un bynag fyddo. ai da ai dtwg, sydd yn ei wneyd yn rhwydd a naturiol,—yn ddefod neu arfer. Mae athronyddion yn proffeau egluro pa fodd y mae hyn yn cymmeryd lle, drwy ein cyf- eirío at ddeddf gweithrediad, yn nghyd â deddf crybwylliad neu gymdeithasiad medd- ylddrychau (association o/ ideas). Ond bydd i ni adael arddansoddiaeth y pwnc i'r 55 neb a ddewis ei olrhain; mwy buddiol i ni wneyd ychydig o sylwadau ymarferol oddi- wrth ei arddangosion eglur a dealladwy. Nid annhebyg yw ymarferiad mewn dyn i reddf yn yr anifail direswm ; ond fod yr olaf yn gynnwynol a naturiol, a'r cyntaf yn cael ei ffurfio yn wirfoddol, drwy ddewisiad rhyddweithredydd, a hyny yn aml yn groes i aniau a rheswm. Er fod dyn, fel rhfdd- weithredydd moesol, wedi ei fwriaduiym- godi yn uwch nâ rheolaeth ymarferíad a llyffetheiriau defod, sef i allu llywodraethu ei hunan, ac i weithredu yn rhydd ac yn gwbl ddiymattal, oddiar argyhoeddiad rhes- wm a chydwybod oleuedig, dan dywysiad rhinwedd a gwirionedd.* Er nad yw yr enaid dynol, meddwn, wedi ei fwriadu i fod yn gaeth i ddeddf arferiad ; etto, nid yw y ddeddf hon yn amddifad o ddaioni, ond yn hytrach yn ddarpariaeth ddoeth a da o eiddo y Creawdwr gogyfer âg amgylchiadau dyn- ion yn eu sefyllfa bresenol o ddysgyblaeth a phrawf. Dilys iddi gael ei bwriadu yn help i ddyn i ateb dyben ei greadigaeth, drwy roddi nerth ac unoliaeth i fywyd sant- aidd a dedwydd. Ond fel pob gosodiad dwyfol, y mae wedi ei gŵyrdroi drwy bechod, a'i gwneyd yn beiriant i anwiredd, i dreisio natur, i ddifreinnio hawliau rhinwedd, ac i fod yn fynych yn ddinystr corff ac enaid. Y ddeddf a sefydlwyd er gwneyd bywyd rhin- weddol yn beth hawdd a rhwydd sydd wedi ei gwneyd gan ddyn yn gadwyn haiarnaidd i'w gylymu yn gaethwas i chwantau dinystr- iol, yn foddion i wneyd creulonderau gwaed- lyd yn bethau cyssegredig, ac i wisgo ofer- goelion ynfyd ac ysgeler â rhwysgfawredd parchedig. t * " I call that mind free which retists the bon- dage of habit, which does not mechanically repeat itself and copy the past, which does not live on its old virtues, which does not enstave itself to precise rulea; but which forgets what is behind, listens for new and higher raomtions of conscience, and rejoi- ces to pour itself forth in fresh «nd higher exer- tions."— Channing,