Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 492.] MEDI, 1856. [Cyf. XXXIX. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. DAFYDD REES, GWEINIDOG V BEDYDDWYR YN ABERTEIFI. CAN Y PARCH. T. E. JAMES, CWMBACH. (PARBAD O'R RHIFYN DIWEDDAF.) Yn y rhifyn diweddaf, taflasom gipolwg ar y rhan hanesyddol o fywyd llafurus y di- ireddar Barch. Dafydd Rees, o'r pryd y magwyd ef yn ardal Glanyfferi, hyd ei farw- olaeth yn Aberteifi. Yn awr, priodol yw sylwi ar y nodweddau Cristionogol hyny a addurnent yn benaf ei gymmeriad rhagorol, er cyfiawnder i'w goffadwriaeth ef, ac er addysg i'r oesoedd a ddeuant. Cawn yn y Beibl santaidd, focl prif enwogion crefydd yu cael eu haddurno gan ryw rasusau neillduol, megys Moses mewn llarieidd-dra, Abraham raewn ffyddlondeb, Job mewn amynedd, a Solomon mewn doethineb ; a gwnaed sylw neillduol o honynt, fel rhai a feddent ar y graBUsau hyny. Y mae pethau yn parhau yn nihlith plant yr Arglwydd yn dra thebyg hyd yr awr hon. Er fod yr oruchwyliaeth wedi newid, a'i seremoniau wedi eu syl- weddoli, etto y mae cedyrn crefydd yn gadarn yn eu grasusau neillduol megys cynt. Pan yr ydym yn ysgrifenu yn gyffredin am wa- hanol nodweddau gweinidogion y gair, sonir am y dyn, y cyfaül, y gwladwr, y Cristion, y pregethwr, y gweinidog, &c. ; ac er fod y drefn hon yn un dra chyffredin, etto, wedi ystyriaeth bwyllog, methodd yr ysgrifenydd a chanfod ei threfnusach gyda golwg ar wrthddrych parchus y cofnodion hyn. Y mae yn bosibl sôn am bersonau, heb gry- bwyll am nodweddau; ond cyn y gelíir gwneyd bywgraffiad cyflawn, y mae hyn yma yn apgenrheidioi. Gyda golwg ar Mr. Rees, dilynir y llwybr cyifredin o osod allan ei nodweddau ; a dechreuir drwy sylwi arno fel Dyn. Nid oedd o ran ei berson yn dàliawn, ac nid oedd.yn un o'r rhai bỳraf ychwaith. Yr oedd yn ddyn prydferth yr olwg, a sercbogaidd ei wynebpryd. Un o'r pethau cyntaf a'n tarawai wedi deng mynyd o'i gyfeillach oedd, ei fod yn ddyn didwyll, dihoced, a diddichell. Fel dyu, addurnwyd ef â synwyr cyffredin o'r fath ëangaf. Gwel- wyd llawer yn annghyffredin mewn rhyw dalent neu dalentau; ond yr oedd rhyw "goes fèr " (fel y dywedai un) yn.tŷnu yn pl yn enbyd; eithr gyda golwg ar Mr. Rees, yroedd wedi ci lenwi â'r fath gyflawnder o ' ";f 49; * I synwyr cyffredin, fel yr oedd yn dra ogy- | hyd ei esgeiriau yn yr ystyr hyny. Fel dyn j o synwyr cyflredin o'r fath gryfaf, gwyddai | pa bryd i dewi, a pba bryd i lefaru; pa beth j i'w ddweyd, a pha beth i beidio dweyd. I Gwerthfawrogid ei synwyr cyffredin mawr, j yn neillduol mewn cynnadleddau j a lle í bynag y dygwyddai achosion dyrys, a rbeid- I rwydd i'w dadrus. Nid oedd perygl y I byddai ol-sylwadau anffafriol ar eì bresenol- | deb yn un man, ond bob amser yn ffafriol, | o'r palas i'r bwthyn ; ac yr oedd efe yn un i a fedrai droi yn y cylchoedd hyn oll heb | wridio, gan wneyd ei hun yn artrefol yn i mhob un o honynt. Yr oedd fel dyn hefyd j yn ddiddichell: nid bob amser y medrodd ddangos cyfrwysdra y sarf, ond yr oedd yn gyflawn bob amser o ddiniweidrwydd y go- lomen. Drwy ei ddiniweidrwydd, llwyddodd rhai o odreuon dynoliaeth i weithio eu ffordd, yn ddichellgar, i'w fynwes, gydag amcau i'w fradychu ; ond, er y cwbl, methasant a chael ynddo ddim yn annheilwng o'i enw a'i swydd; ac o ba herwydd, syrthient i warlh a chywilydd, a chawsai Mr. Rees gyflawnder o archoffeiriaid i gydymdeimlo âg ef, ar gyf- rif ei fod yn mesur ereill wrth y ilathen gyf- iawn a berthynai iddo ei hun. Gallesid crybwyli hefyd am dano, ei fod yn ddyn cydwybodol iawn, fel y byddai yn hynod o ochelgar rhag gwneyd cam â neb pa bynag. Yn y meddiant o'i gydwybodol- rwydd, hoffai roddi yn gystal a derbyu ; ac yr oedd yn elyn annghymmodlawn i bob math 0 lwgr-wobrwyaeth. Yr.oeddhefyd yn un tra sefydlog ac annibynol ei feddwl. Pe diddichelidra yn unig a hynodai ei gym- meriad fel dyn, byddai ei beryglon yn aml ac yn Huosog; ond gwrthbwysid y peryglon hyn i raddau dymunol yn yr annibyniaetb a'r sefydlogrwydd meddwl a berthynai i'w gymmeriad ; ac, fel y cyfryw, barnai drosto ei hun ; ac fel uu a feddai ar ei farn, dan- gq?ai hyny raewn llafar, yn unol â'r arwydd- air bwnw, sef " Rbydd i bob meddwl ei farn, a rhydd i bob barn ei lafar*" ogd gochelai rhag gwneyd dim dan ddylanwad pen-gainrwydd, eithr derbyniai argyhó«dd-