Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 491.] AWST, 1856. [Cvf. XXXIX. COTlANT Y DIWEDDAR BARCH. DAFYDD REES, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN ABEBTEIPI. CAN Y PARCH. T. E. JAMES, CWMBACH. Pan y dygwydda i ddyn droi mewn cylch cyhoeddus, y raae a fyno y cyhoedd âg ef fel cu gwasanaethydd. Meddant hawl yn ei lafur pan yn fyw, ac yn ei goffadwriaeth ar ol ei farw. Nid peth o ddyfais ddiweddar yw croniclo hanesion ara ein cewri crefydd- ol; na, y raae hwn yn hen orchwyl. Llawer o fywgraffiadau a addurnant y gyfrol ysbryd- oledig, fel ag y mae lluaws a hunasant er ys miloedd o flynyddau, yn ymddangos yn awr megys pe buasent yn ein hymyl! Megys er doe y canfyddwyd Abraham ar ben Mo- ria, Moses wrth fynydd Sinai, a'r Iesu croes- hoeliedig ar fynydd Calfaria,—y maent oll fel yn ein hymyl! Tuedda bywgraffiadau o wroniaid Seion at lesoli y cyfundeb Crist- ionogol. Yr apostol, pan yn anerch yr He- brëaid crediniol, a ddywedai, " Meddyliwch am eich blaenoriaid, pa rai a draethasant i chwi air Duw; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Solomon, ganrifoedd cyn hyny, a ddywedai, " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Wrth ddarllen bywgraffiadau gwroniaid crefydd, canfyddwn wananol ac amryfal sy- mudiadau yr eglwys Gristionogol tra yn yr anialwch, yn nghyd âg amddiffyniad Rhag- luniaeth a gras arni. Gellir dweyd wrth adolygu sefyllfa gythryblus bechgyn y crwyn defaid a'r crwyn geifr, fod yr Arglwydd wedi gwneyd i ni betbau mawrion, ar gyfrif rhagoriaeth ein rhyddid ni. Ond fel ag y mae dirywiad wedi cymmeryd lle mewn cys- sylltiad â llawer o bethau da, felly hcfyd y mae mewn perthynas i gofiantau; y mae yma yn aml yr anonestrwydd penaf yn cael ei ddangos tuag at y marw, am na chawsai y gwir, ac at y byw am na osodid allan y gwir am dano, pan y gofynir eu sylw at yr hyn a ysgrifenir. Mae y cyhoedd, fel hyn, yn aml mewn dygn ommheuaeth pan yn darllen cofiantau rhai dynion. Ond hyfryd yw meddwl nad oes' berygl gwyro llawer ar y tir hwn, wrth ffurfio ein nodiadau parchusaf am wrthddrych clodadwy y cofiant hwn ; yr hwn, et wedi marw, sydd etto yn llefaru. 43 Cydnabydda yr ysgrifenydd ei hun ya dra anngbymhwys i'r gorchwyl hwn; a hyny, yn un peth, am iddo ddysgwyl wrth y di- weddar haeddglodus Mr. Joshua Morgan Thomas, o Aberteifi, am ymaflyd yn j gorchwyl, yr hwn a fuasai wedi ei wneyd yn orchestol cyn yma, pe cawsai einioes ; eithr y mae efe wedi canlyn ei barchus weinidog i'r "wlad well." Heblaw hyn, methaia ddyfod o hyd i'r hyn a ysgrifenodd Mr. Rees ei hun yn ei fywyd, er ymhoji Uawer, yr hyn, pe cawswn hyny, a wnelai y cofiant hwn yn llawer mwy dyddorawl; gan hyny, nid oes genyf ond ymddibynu ar a gofiwyf, a defnyddio rhai awgrymau a gefais gan gyf- eillion caredig. Dafydd Rkes a anwyd mewn amaethdy, o'r enw Broadlay, yn mhlwyf Llanishmael, ger Glanyfferi, ychydig o filltiroedd islaw Caerfyrddin, Chwefror 13eg neu y 14eg» 1796. Enwau ei rieni oeddynt John ae Anne Rees, y rhai oeddynt aelodau parchus gyda'r Bedyddwyr yn Nglanyfferi; a dy- wadir fod ganddynt law fawr yn ffurfiad yr achos yn y lle hwnw. Dygwyddodd i'r achos gael ei ffurfio yn y lle ar flwyddyn enedigol Mr. Rees, drwy offeryngarwch y gweinidog llafurus ag a fedyddiodd Mr. Rees wedi hyny. Yr oedd rhieni Mr. Rees yn meddiannu cymmeriad da, a gadawsant enw da, ac arogl peraidd, ar eu hol. Bu iddynt saith o blant; ond y maent oll erbyn hyn, oddigerth un, wedi canlyn eu rhieni i'r byd mawr tragywyddol. Preswylia rhai o'i berthynasau yn Broadlay hyd etto. Siar- adai gwrthddrych ein cofiant gyda pharch mawr am y cynghoridn difrifol, a'r siamplau da, a roddesid iddo yn moreu ei oes, yr hyn a fu yn foddion i greu ynddo archwaeth dda at ddaioni a rhinwedd yn gynnar iawn. Di- lynid Ilettygarwch hefyd gan y teulu hwn, yr hyn a roddodd gyfleusdra i Mr. Rees i ennill adnabyddiaeth â phregethwyr enw- ocaf y tymmor hwnw, yr hyn a hoffai yntan yn fawr. Gyda golwg »r ei fywyd bachgeo- aidd, hynodid sf yn benaf gan •iriold«í»í