Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 490.] GORPHENAF, 1856. [Cyf. XXXIX. RHESYMAU DROS ANNGHYDFFURFIAETH.* CAN J- C. PHILLIPS, MYFYRIWR. Gan fod dyn yn fôd rhesymol, priodol iawn yw fod ganddo reswm am ei holl ymddyg- iadau. Canmolodd Crist y Canwriad, a'r wraig o Gunaan, am fod ganddynt resymau dros eu hymddygiadau. Felly, gan ein bod ni yn annghydffurfio âg Eglwys Loegr, fe allai mai nid anmhriodol fyddai rhoddi ych- ydigo'n rhesymau dros ein hymddygiad. Canfyddir ein bod wedi mabwysiadu y cymmeriad o Annghydffurfwyr, ac nid Ym- neillduwyr. Gwrthodwn, feí Bedyddwyr, y cymmeriad diweddaf, am y credwn ein bod yn henach nag Eglwys Loegr, ac y bodolwn oddiar ddyddiau Crist a'i apostolion. Os fclly, uid ydym wedi ymneillduo oddiwrthi. Y cyfryw ag sydd yn dannod yn barhaus i ni ein dechreuad yn y Munsteriaid, yn y flwyddyn 1521, a wnelent yn dda i ys- tyried geiriau y Cardinal Hossius, yr hwn oedd gadeirydd yn Nghynghorfa Trent, yn y flwyddyn 1570, a'r hwn a ddywed,—" Os yw gwirionedd crefydd i'w farnu wrth y parodrwydd a'r sirioldeb a ddengys dyn o nnrhyw blaid i ddyoddef, yna nis gall barnau a golygiadau unrhyw blaid fod yn wirach na sicrach nâ'r eiddo yr Ail-fedyddwyr ; canys ni chafodd neb dros y deuddeg can mlynedd a aeth heibio eu cospi yn fwy gorthrymus." Dyna hwy, yn ol yr addefìad yna, dan erlid- igaeth er y flwyddyn 370, ac mewn bodol- iaeth yn agos i ddeuddeg can mlynedd cyn dechreuad y Diwygiad gan Luther. Pelly, dichon mai annghydffurfwyr sydd fwyaf addas i'w arfer, a rhoddwn ein rhesymau dros beidio cydffurfío âg Eglwys Loegr. Wrth wneyd hyn, rhaid ystyried ein bod yn honi ein hawl ofarn bersonol. Wrth hyn yr ydym yn deall, yr hawl sydd gan bob dyn i chwilio i sail pob athrawiaeth a gyn- nygir iddo i'w derbyn. Perthyna yr hawl hon i ddyn fel bôd moesol a deallgar, ac nis gellir yn gyfreithlawn attal ei gweithrediad : • Wele y Ddarlith a ddarllenwyd yn Ngtayfarfod Blynyddol Coleg Pontypwl, ar noe Fercher, Mai 21iin; ac a gymraeradwywyd gan y pwyllgor i gael vmddangoi yn y Sbrbn. 37 y mae yn angenrheidiol er i'w farn fod yn rhesymol, ac i'w ymddygiad fod yn wir- foddol. Y mae dyn yn atebol i Dduw am ei farn, yn gystal ag am ei weithredoedd. Yna, rhaid ei fod, nid yn unig yn aìluog i chwilio i sail yr hyn a gynnygir iddo i'w dderbyn, ond hefyd fod ganddo hawl i wrthod yr hyn na chynnorthwyir gan res- ymau digonol; ac am fod yr hawl hon yn perthyn i ddyn, y mae ei gweithrediad yn ddyledus. Feily, yr hawl a gyfaddefir, a'i gweithrediad a orchymynir yn ngair Duw. '• Chwiliwch yr ysgrythyrau." " Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda." Hefyd, yr ydym yn ystyried yr ysgryth- yrau fel yr unig awdurdod anffaeledig mewn achosion crefyddol. Os oedd yn angen- rheidiol cael dadguddiad er dysgn crefydd bur i ddyn, wedi cael y dadguddiad yma, rhesymol yw dysgwyl ei fod yn llawn ac yn ddigonol í'r pwrpas y rhoddwyd ef; ac mai hwn yw ein hawdurdod mewn achosion cref- yddol. " At y gair, ac at y dystiolaeth." Sefydiwn ein rhesymau ar yr egwyddorion hyn, gan wrthod pob peth sydd yn groes iddynt; ac i ba ganlyniad y dygant ni, a welir wrth fyned yn mlaen. Cymmerwn hefyd y " Llyfr Gweddi Gyŵedin " fel y rheoi a arferir gan Eglwys Loegr; yna sylwwn, I. Ein rhesymau yn erbyn gioasanaeth cyhoeddus Eglwys Loegr. II. Ein rhesymau yn erbynei suyddogion. III. Ein rhesymau yn erbyn ei chÿfan- soddiad. I. Ein rhesymau yn erbyn gwasanaeth cyhoeddus Eglwys Loegr.—Ý mae genym y gwrthwynebiad mwyaf ì'rffiurfiauo weddi a arferir yn ei gwasanaeth, y rhan fwyaf o ba rai a ddygwyd alian o lyfr yr offeren (mat*- 6ook) Pabyddol. Nid yw yr ysgrythyratt yn cyfeirio at unrhyw ffurf o weddi mewn arferiad, llawer llai yn awdurdodi llywodr- aeth wladol i orchymyn cyfansoddi ffurf o weddi, a gorfodi ei deiliaid i arfer y cyfrjrw» Nid yw yn fwy rhesymol fod gwcinidogion yr eglwys yn cael eu caethiwo i ddgll an-