Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

. ■■ " ... SEREN GOMER. Rhif. 489.] MEHEFIN, 1856. [Cyp. XXXIX. UNDEB CRISTIONOGOL.* CAN Y PARCH. D- EVANS, BRYNHYFRYD, PENYCAE. " Na alwer chwi yn athrawon ; canys un yw eich Athraw chwi, sef Crist ; a chwithau oll brodyr ydjrch." " Wrth hyn y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych, a bydd genych gariad at eich gilydd." " Yr wyf fi yn eiddo Paul, minau yn eiddo Apolos, minau yn eiddo Cephas, minau yn eiddo Crist. A ranwyd Crist ?" " Oa cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifethir chwi gan eich güydd." Yr ansoddair, Cristionogol, yn y testun, a gyfeiria at bawb ag sydd yn dàl perthynas grefyddol â Christ: y berthynas grefyddol maent yn ddàl â Christ yw, eu bod o'r un golygiadau âg ef am athrawiaethau a dyled- swyddau crefydd ; eu boà yn feddiannol ar deimladau parchus a chariadus tuag ato, fel y Dysgawdwr mawr a ddaeth oddiwrth Dduw; eu bod yn ei broffesu ef gerbron dynion; a'u bod yn ei efelychu ef fel eu siamplydd yn mhob peth ag y mae modd i fodau meidrol a ffaeledig yradebygoli iddo ; ac " undeb *' y rhai hyn â'u giíydd a ddy- noda eu rhwymedigaethan, bawb o honynt, pa fodd bynag y gwahanìaethir hwynt yn awr, gan enwad, iaith, neu wlad, i fod mewn heddwch â'u gilydd, a charu eu gilydd, a " chydweithredu o blaid y ffydd a roddwyd Unwaith i'r saint.'' Dyna fel yr wyf fi yn deall y testun. Y mae wedi ei eirio mewn modd agored a rhydd ; gan hyny, gwell yw ei gymraeryd yn yr ystyr hclaethaf ag y gwna ei eiriau ganiatâu. Gwahaniaethir pob cenedl a phlaid o ddynion gan ryw un brif nodwedd neillduol; a'r brif nodwedd, drwy yr hon y bwriadodd Crist i'w bobl ef gael eu hynodi, yw, " bod ganddynt gariad tuag at eu gilydd." Yn ei amser ef a'r apostolion, felly yr oeddynt: "yr oeddynt oU yn gytun yn yr un lle," " yr holl luaws o honynt o un galon, ac o un enaid." Nid yw pelydrau yr haul yn gwneyd i fyny ond un goleuni, na changenau y boncyff ond un pren, nac aelodau dyn ond nn corff; felly, er fod canlynwyr Crist, yn amser yr apostolion, yn rhanedig i wahanol gymdeithasau, etto, ni chyfansoddent ond * Buddugol yn EUteddfod Brynhyfryd, 1866. un cyfundeb, ar yr hwn yr oedd efe ei hun yn ben neu Arglwydd. Nid oedd, y pryd hwnw, ond un eglwys Gristionogol, a hòno " yn forwyn bur i Grist; " a pharhäodd am dymmor maith wedi hyuy gyda'r fath bur- deb a heddwch, fel y gorfodid eu gelynion paganaidd i ddweyd, " Gwelwch fel y maent yn caru eu gilydd." Ond pan edrychwn ar yr eglwys o hyny allan, canfyddwn hi wedi ymranu i amrywiol ddosparthiadau—un yma a'r llall draw ; a'r rhai hyny yn sefyll, nid yn unig oddiwrth eu gilydd, ond yn erbyn eu gilydd. Er nad oes dim yn fwy gwrthun nâ'r meddylddrych o amryw eglwysi gwir Gristionogol, etto, ymddyddenir a gweithredir yn aml, fel pe byddai yn bosibl i'r fath annghyssondeb a gwrthuni fodoli ! Canfyddir cymdeithasau Cristionogol, fel eugelwir, megys amherodr- aethau eiddigeddus, yn ymdderchafu ar ad- feilion eu gilydd, gan ymffrostio yn eu pur- deb a'u rhinweddau neillduol a phriodol eu hunain; a phrin y çaniatânt y posiblrwydd i neb fod yn gadwedig, os na fydd yn aelod o'u heglwys hwy ! Cyhoeddir a dadleuir, nid dros " eglwys Dduw, yr hon a bwrcas- odd efe. â'i briod waed, " ond dros ein heg- Iwys ni; nid dros Seion, " dinas y Duw byw," ond dros ein Seion ni; nid dros was- gariad gwybodaeth achubol o Fab Duw yn mysg yr holl genedloedd, ond dros wasgar- iad syniadau neillduoi enwad neillduol; nid dros Grist, ond drosom ein hunain. Y gwir- ioneddau mawrion a ddylent gylymu Crist- ionogion wrth eu gilydd, a orweddant o dan gruglwyth o gyhuddiadau gorwirebol ac an- nheg; a'r cyhuddiadau bradwrus hyny a'u cadwant oddiwrth eu gilydd. " Gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn." Y mae Cristionogion yn gwadu hawüau eu gilydd i wisgo yr enw rhagornl, ac yn ymdrechu profi nad yw Cristionogion ddim yn Gristionogion. Y rhwygiadau sydd wedi cymmeryd Ue, a wneir yn waeth fyth, drwy fod Cristionog- ion yn cyhuddo ac yn condemnio eu gilydd ; ya cyhoeddi ac yn mwyhau beiau eu |ilydd ;