Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEH. Rhif. 487.] EBRILL, 1856. [Cyf. XXXIX. DEWINIAETH. OAN Y PARCH. O. OWEN, CAERFRLN Tra mae yr henafieitbydd yn casglu i fyny weddillion adfeiliedig hen demlau, palasau, a dinasoedd, neu yn sylwi yn fanwl ar fedelau a cholofnau oesoedd a aethant heibio, er cadamhau rhyw wyddawr bertbynol i'r oes- oedd gynt; tra y mae y seryddwr yn cyfeirio ci yspi'enddrych at ryw ddosran bellenig o'r nèn, yn mhell tu hwnt i'r Uwybr llaethog, mewn ymchwil am heuliau achyfundraethau nad ydynt etto wedi eu darganfod ; a thra y chwilia y daearegydd i sylfaenau y mynydd- oedd tragywyddol am brofion o wirionedd ei gyfundrefn ; a thra y mae yr anffyddiwr yn chwilio am ei resymau gweinion i geisio dad- ymchwelyd y ffeithiau anorchfygol a brofant wirionedd Cristionogaeth ;—tra y maent hwy yn brysur yn eu hymchwilion, yna chwi a ganiatëwch i mi eich gwáhodd i roi tro ar hyd llwybrau yr hen Ddewiniaid. Dichon y bydd y wibdaith yn un lled ddifyrus, er y rhaid i ni roi tro i wlad yr ysbrydion a'r dai- moniaid. Peidied nebadychrynu ; nid ydym yn bwriadu gwneyd ŷr un circle. Ni wisgwn fantell y daroganwr ; nid ymaflwn yn hud- lath y consuriwr ; ac ni ddefnyddiwn yr un enw cyssegredig i orfodi ei fawrhydi Satan- aidd i ymddangos o'n blaen. Ond rhaid i ni gerdded yn arafaidd, oblegid y mae y llwybr yn un dyrys, a thrwy drugaredd, yn un nad yw yn cael ei gerdded yn aml yn ein dyddiau ni. Y mae yr awyrgylch hefyd yn dywyll a chymylog, ac ni byddai yn un niwed i ni gymmeryd llusern oleu gair Duw yn ein dwylaw, i gyfarwyddo ein hymchwiliadau. Yr oedd i'r gair dewin ystyr gwahanol yn moreu oes y byd i'w ystyr presenol. Dewin, yn mysg yr Aifftiaid, y Caldëaid, a'r Perei- aid, ydoedd yr enw a roddent ar eu prif ddysgedigion,—eu hathronyddion a'u hoff- eiriaid. Dynipn cyffelyb i Solon, Plato, Seneca, ac Aristotle, pa rai oeddynt athron- wyr enwog mewn oesoedd diweddarach, oedd dewiniaid yr oesoedd boreuol. Yr oedd maes eu hymchwil yn ëang iawn. 1. Myfyrient egwyddorion rhinwedd, nou athroniaeth foesol. 2. Myfyrient athroniaeth naturiol; chwil- 19 ient ystafelloedd tywyllaf a dirgelaf natuf am drysorau ; chwilient i'rachosion gwreidd- iol o'r dygwyddiadau rhyfeddaf mewn natur. 3. Myfyrient seryddiaeth ; ysgogiadau a chylchdröadau y llu wybrenol; eu dylanwad ar y môr, ac ar y tir, &c. 4. Myfyrientphysygwriaeth; rhinweddau iachäol llysiau a phlanigion ; myfyrient rin- weddau metelau a mwnau ; mewn 'gair, nid oeddynt amgen coleddwyr athronddysg na- turiol a moesol, ac, fel y cyfryw, yr ydym yn rhwym o barchu eu coffadwriaeth, fel dyn- garwyr a chymmwynaswyr y teulu dynol. Y gair magus, o'r hwn y mae magic, neu magician, yn deilliaw, sydd yn tarddu o'r Persiaeg; ac a arferid yn wreiddiol am un yn myfyrio duwinyddiaeth. Dywed Plato nad yw y gelfyddyd o ddewiniaeth " yn ddim ond gwybodaetb o addoliad y duwiau." Magi, yn yr iaith wreiddiol, y gelwid y doethion a ddaethant o'r Dwyrain i addoli yr Arglwydd Iesu Grist pan anwyd ef. Dywed Philo Judas mai dewin enwog oedd Abraham, " tad y ffyddloniaid ;" ac mai drwy y myfyrdodau hyn yn Ur y Caldëaid y daeth i adnabyddiaeth o'r gwir Dduw. Natur yn ei arwain at Dduw natur. Y crëad yn sugno ei feddwl at Greawdwr. Y mae yr henafiaid yn sicrb.au mai efe a ddysgodd y Canaanëaid, a'r Aifftiaid, yr oll o'r ddysg- eidiaetb a feddiannent mewn astronömydd- iaeth ac athronddysg naturiol. Amlwg yw, pa olygiadau bynag sydd genym ni yn awr am ddewiniaid, fel dynion twyllodrua, dryg- ionus, a llygredig, ac yn cyfrinachu â chyth- reuliaid, fod y dswiniaid gynt yn ddynion dysgedig a rhinweddol, ac o'r cymmeriadau dysgleiriaf. Dewiniaid, neu athronwyr, yn yr oesau boreuol, drwy eu dysgeidiaeth a'u doethineb, a gyfodasant eu hunain i fod yn lly wodraeth- wyr a breninoedd. Mae yn debygol nad oedd yr henafìaid wedi cael allan y dirgelwch hwnw niewn llywod-ddysg, mai gwaedoliaeth ac nid doethineb sydd yn rhoddi hawl i lywodraethu ! Nis gwyddent, druain, fod doethineb a rhinweddau tad yn rhoddi hawl