Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 486.] MAWRTH, 1856. [Cyf. XXXIX BUCHEDD LEWIS MORYS, YSWAIN, 0 BENYBRYN, PLWYF LLANBADARN FaŴr, CEREDIGION. GAN Y PARCH. OWEN WIL.LIAMS, WAENFAWR. [PARHAD O'R BH Yn awr, rliaid troi yn ol at Lewis Morys, yr hwn, yn ei ddyddiau olaf, a sefydlodd yn Mhenybryn, hyd ddydd ei farwolaeth, eithr yn barhäol dan y llywodraeth. Oddiwrth a nodwyd am ei lafur Uênyddol, a'i deithiau, &c, gwelir yn amlwg nad oedd yn segur, eithr yn llafurus, diwyd, a ffyddlawn, yn mhob ystyr o'r gair. Ond rhaid addef uad oedd ei swyddau llywoàraethol, a'i ofalon mewn cyfrifyddiaeth, &c, ondpethau hollol wahanoli'w anianawdnaturiol, megys cânu, barddoni, a chasglu henafiaethau. Etto, er gwaethaf y cyfan, ysgrifenodd lawer o lyfrau gwerthfawr, a llythyrau ardderchog, ar wa- hanol bethau henafiaethol at ei amryw gyf- eillion cyffelyb iddo ei hun, yn enwedig at Mr. Pegg, o'r Dref Wèn, ac ereill. Hefyd, y mae yn y " Dyddanwch Teuluaidd" gryn lawer o'i waith barddonol, yn yr hyn y gwelir ef yn fardd enwog yn ddiau. Gellir casglu oddiwrth yr hyn a welsom o'i waith, yn ysgrifenedig ac argraffedig, ei fod y dyn mwyaf talentog yn ei oes, os nad hyd heddyw. Hefyd, ymddengys, oddiwrth ei waith barddonol, ei fod yn ddyn calonog, heinyf, ac yn Uawn llawenydd ; yr hyn, yn ddiau, oedd nerth ei gyfansoddiad a'i iechyd da» y fath lafur dirfawr yr aeth drwyddo. Gadawodd ar ei ol, o'i lafur casgliadol a chyfansoddol, oddeutu 80 o ysgrif-lyfrau, y rhan fwyaf ar wahanol ganghenau henaf- iaethol. Gresyn na cheid gan ryw gym- deithas i argraffu holl lafur rhagorol y gŵr enwog dan sylw, fel y gallo'r byd llênyddol fwynhau ei lafur anmhrísiadwy. Ond y mwyaf gwerthfawr o'i lafur, fel y bernir, yw y " Celtic Remains," yn yr hwn y mae deu- gain mlynedd o'i lafur. Ei brif gyfeillion oeddynt Mr. Pegg, o'r Dref Wèn, a nodwyd yn barod ; y Parch. Edward Richard, Ystrad Meurig; y Parch. Goronwy Owain ; a'r Parch. Evan Evans, sef Ifan Brydydd Hir. Mae llawer o lythyrau y rhai hyn at Lewis Morys, a'r eiddo yntau atynt hwythau, ar gael. Mae rhai o honynt yn y Cambrian RegUter, ac ereill heb eu cy- 13 IFTW DIWEDDAF.j hoeddi. Mae llythyrau gwreiddiol Goronwy Owain at Lewys Morys a'i frodyr, a rhai L. M. ato yntau, ac at ereill, yn Mhenros, gerllaw Caergybi (os ydynt heb bydru), dan ofal a meddiant boneddwr o'r enw Barton Panton, Ysw., eiddo blaenorol ei ewythr Paul Panton, Ysw., Plasgwyn, Pentraeth. Bu Mr. Morys yn athraw prydyddol da iTw ^gydoeewyr, ac yn eu plith, efe oedd cychwynydd Goronwy Owain; a dywedir mai efe a anfonodd yr unrhyw Goronwy i Rydychain i'w wneyd yn offeiriad. Ym- ddengys fod Goronwy yn dra hoff o Lewis Morys, fei y gwelir yn ei furwnad dra ar» dderchog iddo. Yn un man, y mae yn dẃeýd,— " Soniais, sygenais gwynion,—do, ganwaith, Am dêg Wynedd wòndon, Doethacli im' dewi weithon,— Heb Lewis mwy, ba les Mon ?" Ac am L. M., fel athraw y ddysg farddonol, y mae yn dweyd yn mhellach,— " Lle bu'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddea, Fe rodd ugeiniau o hoyw-feirdd gwynion." Ac yn ei nodiad ar y Uinellau olaf byn, dywed Goronwy,—" Mae yr awdwr, gyda phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewis Morys, yn dra diolchgar gydnabod mai iddo ef y mae yn rhwymedig am yr y ch- ydig wybodaeth yn marddoniaeth Gym- rareig a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlawn gredu (nid er gwarth na gogan i neb) y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymmru, ar a haedd- ant yr enw, gyfaddef yr un peth ; ac er nad yw les yn y t>yd i'r awdwr, mewn dyeithr wlad dramor, lle nas deall hyd y nod ei blant eì hun, air o'r iaith Gymmreig; etto, mae yn ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam, a'i wlad gynhenid, yn ei hir alltudedd. A gresyn ganddo, na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaitb a'i wlad ; ond, a fyno Duw a fydd." Yna dywed Goronwy, " Ar y sydd i'r oes hon, Yn fawr-ddysgAwenfeirddion, A gwiw lesfryd i'w glwysfron, Bryd. orsul i'w bro dirion,