Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER.^ i*i Rhif. 485.] CHWEFROR, 1856. [Cyf. XXXIX BÜCHEDD LEWIS MORYS, YSWAIN, 0 BENYBRYN, PLWYF LLANBADARN FAWR, CEREDIGION. GAN Y PARCH. OWEN WIL.L.IAMS, WAENFAWR. Tad Lewis Morys oedd Morys ab Richard Morys, o blwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, yn Môn. O ran ei gelfyddyd, cylch-lestr- wr (cooper) ydoedd, yr hon oedd gelfydd- yd ennillfawr y dydd hwnw, gan yr amledd o benaig, neu ysgadenau, a ddeuai i aber- oedd Môn, a llefydd ereill; ac am hyny, yr oedd ymofyniad parhaus am farilau i'w ball- tu, Morys ab Richard a briododd Margaret, merch Morys Owen, o Fodafon-y-Glyn ; fclly yn gymmydogion er yn blunt. Dyg- wyddodd i'r ferch hon pan yn ieuanc fyned i Aber, gerllaw Bangor, i edrych am rai o'i theulu, ac ar ei dyfodiad adref ar ddiwrnod gwyntog, troes ysgraff Porthaethwy, a bodd- odd pawb oedd ynddi, ond y ferch ieuanc yma; a hyny fu, o herwydd i'w dillad ym* ledu fel diddoslen (wnbrella), a chan nerth y tònau, taílwyd hi i graig, lle y cafodd ei bywyd, ac i ddyfod yn fam planttraanrhyd- eddus. Yn ol priodi, aethant i fyw i Bentre Eirianell, ac wedi hyny i fferm o'r enw Tyddyn Melus ; ond ni wyddom yn mha un o'r ddau le hyn y ganwyd L. Morys, a'r plant ereill. Pa fodd bynag, Mawrth 12fed, 1702, y ganwyd L. Morys, yr hwn a gyn- nyddodd mewn ansoddau gwybodau a dysg awchlaw nemawr o'i gyfoeswyr, fel y nodir, wedi erybwylliad byr am. y plant ereill fel y canlyn:— William Morys oedd 0 gynneddfau rha- gorol, a thrwy eiriolaeth ei frawd, L. M., cafodd arolygiaeth yn Nghaergybi ar dollau halen, glo, &c, lle y gorphenodd ei oes yn onest a ffyddlawn. Yr oedd yn gasglwr Hyfrau digyffelyb, ac yn ddarllenwr cof'us. Ei lyfrau penaf oeddynt lawysgrifau y gogyn- feirdd a'r cyn/eirdd, a beirdd diweddarach. Hefyd, yr oedd yn gasglwr cywrein»bethau, megys cregynau, a mwnau 0 amryw fathau; ac yr oedd yn dra dcallus o lysieuaeth. Y caagliad gwerthfawrocaf o'i lyfrau oedd ys. grif-lyfr 0 waith y beirdd a nodwyd, yr hwn a alwodd yn Delyu Ledr, oddiwrth yr hyn yr ymddengys iddo ysgrifenu y Uyfr hwnw V grwyn, neu iddo ei gael felly. Ond am 7 llyfr yma, ni wyddom ddim atn dano, yn ychwaneg nâ bod y diweddar Barchedig Goronwy Owain, yn ei lythyrau sydd yma, yn mynych sôn am dano, fel casgliad o'r fath werthfawrocaf. Cyfrifìd gardd William Morys yn Nghaergybi yn ogoniant gerddi Môn, yn yr hon yr ymhyfrydai ei garddwr hyd ei oes. Bu farw yn y flwyddyn 1764, mewn henaint têg, ac ar ei ol yn alarus cân- odd y Parch. Eran Evaus (Ieuan Brydydd Hir) ; aô o flaen ei awdl dywed, " Yr oedd ef yn llysieuydd godidog, a rhagorol am ei wybodaeth yn amryw gangenau philoso- phyddiaeth auianol; celfydd yn iaith yr hea Frytaniaid a'r beirdd, a hynod am amryw gampau gorchestol, a rhinweddau da ereill, nad ydynt yn aml yn Nghymmru y tô yma." Flynyddaü yn ol, yr oedd merch i William Morys, o'r enw Mrs. Jones, yn byw yn Tyn'r-ardd, Beaumaris. Richard Morys oedd fab arall o'r briodas a nodwyd, a'r mwyaf talentog yn ei oes n. feddai Cymmru. Yr oedd ef, megys ereill o'i frodyr, yn ysgolhaig cyffredin, a thra hyddysg yn iaith a barddoniaeth ei wlad, ac yn fardd cywrain ei hunan, fel ỳ tystia ei Gywydd Marwnad ar ol y frcnines Caroleina, a fu farw yn y flwyddyn 1737. Trwy gyfryngiad ei frawd Lewis, cafodd yutau swydil dan y goron, sef ysgrifenydd yn y Swyddfa Forawl (Navy Offîce), yr hon swydd a gyfJawnodd yn gywir hyd benaint a phen- llwydni, yn niwedd yr hyn gorphenodd ei oes dan dâl blynyddol y Lly wodraeth. Yr oedd ei sefyllfa yn Llundain yn dra defnyddiol i genedl y Cymmry, dros y rhai yr ymdrechodd hyd eithaf ei allu er eu lles a'u Uwyddiant. Dyma yr amser yr ym- drechodd Esgobion Seisonig Cymmru ddi- leu yr iaith Gymmraeg oddiar wyneb y ddaear. Nid yw'r stwff yma fawr amgen nâ melldith Cymmrn yn dymmorol ac ys- brydol, ac fe ŵyr Duw nad ydynt o un defhydd i hyfforddi cenedl y Cymmry i'r nef j îe, ni allant yn ei byw wneuthur Uyfr o werth dimai i'w hyfforddi i baradwys.