Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 484.] IONAWR, 1856. [Cyf. XXXIX. COHANT Y DIWEDDAR BARCH. MICAH THOMAS, O'H FENNI. CAN Y PARCH. T. LEWIS, LLANDDEWI. RHAN V.—EI GYMMERIAD. " Hb was distinguished for punctuality in the fnlfilmcrit of all liis engagcments, and was one of the few men who do every part of duty in its proper timeandplace." " Disgyned arnoch yn helaeth (ysgrífena y Parch. J. Rowe ataf), nid dylanwad y duwiau gau, ond dylanwad Ysbryd yr Hwn sydd yn cynnysgaethu y sêr â tbafodau, ac yn gwisgo ei weinidogion â nerth, fel y byddoch yn alluog i ddwyn allan gofiant teilwng o'r dyn mawr, y boneddig, y duwin- ydd, yr athraw, yr ysgolor, y pregethwr hyawdl, a'r gweinidog da hwnw i Iesu Grist, sef y diweddar Barchëdig Micah Thomas, o'r Fenni. Mae dyn yn llunio cofiant iddo ei hun, megys y mae y sarff yn llunio ei llwybr yn y llwch, yn amlwg, gŵyrgam, ac agored i'w ddileu; a mynych y mae arall, nad oedd yn syllwr o'r holl ysgogiadau, wrth geisio eu cofnodi, yn cyflawnu amryfusedd: yr yrfa naill ai yn cael ei cholli neu ei cham- synied, a'r pererin yn ei ymdaith ei gam- ddarlunio. Yr oedd yn mywyd a chymmer- iad Mr. Thomas arddigonedd o ddefnyddiau ysplenydd ; gresyn fyddai eu colli, pe byddai eu colli hefyd yn ddichonadwy. Ni raid í chwi ei wisgo, wrth ei ddarlunio, fel mab Jesse, mewn diílad benthyg, gan yr ymddan- gosa yn annghymharol anrhydeddus yn ei ddillad ei hun ; bydd hyny yn fantais i chwi, ac yn urddiant i goffadwriaeth y marw. Cymmwynas â'r byw, o ran hyny, nid â'r marw, yw cofiant gonest i gymmeriad teil- wng; canys nid yw dylanwad buchedd dyn yn terfynu yn angeu. Mae rhai dynion, ar ol marw, yn llefaru gyda mwy o ffraethineb a nerth nâ phan yn fyw. Ychydig o gys- sefindod (priginality) sydd yn y byd. « Y peth 9 fu a fydd, a'r peth a wnaed a wneir.' Y dysgybl, ond odid, a efelycba ei atbraw, a'r athiraw ei athraw; ac, felly, y mae un oes yn dylanwadu ar y Hall o genedlaeth i genedlaetb. Dichon, pe yr olrheinid yn fanwl, y canfyddid fod rfayw beth a wnelai Mile» Edwará», o Drosnant, â ffurfiad cym- meriad Micah Thomas, o'r Fenni ;* ae y mae efe, fel y gwyddis, wedi dylanwadu ar ugeiniau; a digon o dâl i chwi am eich llafur yn nghysswllt â'r cofîant fydd bod yn offeryn i lunio un cymmeriad cyffelyb iddo. Ymegniwcb, gan hyny, a bydded i chwi lwyddo i dderchafu ei brif nodweddau i sylw y byd, gan wybod nas gall eu had-dywyniad fod yn ddim amgen nâ bendith o werth dir- fawr. ' Coffadwriaeth y cyfiawn a fydd fen- dithiol.' Efelly y darllena Dr. Bouthroyd." Ond i ddychwelyd : ymdriniwn yn y rhan hon o'r cofiant â chymmeriad Mr. Thomas, fel Dyn, fel Cristion, fel Pregethtor, ac fel Gweinidog efengyl Iesu Grist. 1. Ei gymmcriad fel dyn.—Gyda golwg ar ei berson, yr oedd yn dàl a llathraidd, ac ya llawn chwech troedfedd o uchder. Yr oedd ei gerddediad yn esmwyth a mawreddog ; er, ar yr un pryd, yn gyflym a di-droi. Cerddai yn gyffredin wrth rate tua phedair milltir yr awr ; ac wrth fyned, ni edrychaí o'i amgylch, fel y gwna rhai, ond cadwai ei lygaid yn gywir o'i flaen ; a gallai un feddwl fod amser yn wir werthfawr yn ei olwg, ac na wnaethai golli gymmaint ag un fynyd heb fod rhyw beth neiîlduol yn galw am ^iyny. Ond, sylwwch, er hyny, y gwnaethai, weith- iau, aros ar yr heol i siarad ychydig eiriau â chyfaill; ond ychydig fyddent, am y barnai mai nid yr heol oedd y lle cyfaddas i an- rhydeddu un a hoffai; ac os buasai ganddo rywbeth o bwjs i ymdrin âg ef, dywedai, "Wel, gyfaill, efallai y gwnewch alw i'm gweled ar yr awr hon, neu yr awr arall." Yr oedd rhywbeth mor wirioneddol fawr ya ei ymddangosiad, fely teimlai yr hwn fyddai yn ei gyfeillach, nad oedd yn sefyll o flaen dyn cyffredin. Yr oedd ei eiriau yn fesur- * Bwriadwyf, can gynted ag y byddo modd, jn- grifenu cofiant i Miles Edwards i Serbn Gohbs. Mae genyf lawer o ddefnyddiau gwerthfawr mtwn llaw} a barnwyf y byddai yn ddyddorawl, yn enw- edig o herwydd na ysgrifenwyd un.iddo, yn ol dim a W« I,— T. L.