Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GÖMER. Rhif. 483.] RHAGFYR, 1855. [Cyf. XXXVIII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. MICAH THOMAS, O'H FENNI. CAN Y PARCH. T. L.EWIS, LLANDDEWI. RHAN IV".—EI BROFEDIGAETHAU. " He that will think and act for himself, sit down, »nd deliberately ouestion the stereotyped religious sentiments of his countrymen, will be persecuted and calumntated." Y ffynnonellau o ba rai y tarddodd prif ofidiau Mr. Thomas, oeddynt y rhai canlyn- ol; sef y cyhuddiad o godi gormod o arian am gadw y coleg, yn nghyd â'r cyhuddiad o'i fod yn tueddu at Arminiaeth. Pa un ai dychymmygol, neu ynte wirioneddol, oedd. yut y pethuu hyn, sydd bwnc, efallai, na wna pawb gytuno o berthynas iddo. Barnwyf, beth bynag, na ddylwn edrych heibio y pethau hyn ; ond y dylaswn osod ffeithiau a phrofion gerbron y darllenydd, a gadael iddo ef dỳnu y casgliad a welo yn oreu. Yn gyntaf,—Cyhuddwyd Mr. Thomas o ymofyu a chodi gormod o arian am fwrdd a lletty y myfyrwyr. Gobeithir mai nid oddiar unrhyw amcan annheilwng y gwnawd y fath gyhudd- iad ; ond mai cynnildeb a gonestrwydd oedd gan y brodyr mewn golwg. Beth bynag, gwnawd y fath gyhuddiad, ac â hyny y mae a fynom ni ar hyn o bryd. Dywedwyd, " Fod yn ofynol cael bwrdd a lletty y my- fyrwyr am lai o bris, neu newid y dréfn ; fod yr athraw wedi arfer cael £24 yn y flwyddyn am fwrdd a lletty pob myfyriwr, heblaw ugeiniau o bunnau bob blwyddyn iddo ef am eu dysgu hwynt."(l) Nid oedd neb yn addasach nâ Mr. Thomas i ateb y fath gyhuddiad ; a chan ei fod wedi gwneyd hyny, gosodwn yr hyn y mae ef yn ddywed- yd o flaen y cyhoedd :—" Terfynaf yr hanes bỳr hwn [sef hanes dechreuad a Uwyddiant y coleg] gyda chyfrifiad cywir a manwl o berthynas i bob trafnidiaeth arianol rhwng yr ysgrifenydd [y Parch. Micah Thomas] a'r GymdeithaB, drwy yr holl amser y buont mewn undeb â'u gilydd, sef o Ionawr laf, 1807, hyd Gorphenaf laf, 1836 ; ac yr wyf yn awyddus neillduol ar i'r fath gyfrif gael eiwneyd, a'i ddangos, a'i gadw, o herwydd y dull annhrefnus y mae cyfrìfon wedi cael cu cadw, ac o herwydd fod rhai, yn anngharedig, 67 wedi dweyd fy mod wedi cael gormod am ddysg a lletty y myfyrwyr. " 1807, Ionawr laf. Treulion ymsymud £ 8. c. o'r Ross i'r Fenni, sef dodrefn.. .. 4 0 0 " Cyflog yn flynyddol am ddysgu y my- fyrwyr, beth bynag fyddai y rhif .. 40 0 0 " Am fwrdd pob myfyriwr yn flynyddol.. 20 0 0 " 1813. Codwyd bwrdd y myfyrwyr yn flynyddol i..........24 0 0 " 1817. Llyfrgell newydd yn cael ei gwneyd ; caniatäwyd yn flynyddol am ìô(coal)..........2 8 0 " 1832. At roddi tea yn y prydnawn i'r myfyrwyr, yr hyn ni roddid o'r blaen, yn nghyd a phob peth perthynol, beth bynag fyddai y rhif, y flwyddyn .. 8 8 0 "D'.S.—Ni roddwyd dodrefn, neu yr hyn oedd yn angenrheidiol, i'r coleg, oddigerth desk, fender, ac estyll i ddàl y llyfrau; ac ni roddwyd hatling tuag at rent a thaloedd hyd 1826; ac o'r amser hwnw hyd derfyn fy nghyssylitiad â'r coleg, telais yn wastad ^20 y flwyddyn at rent y ty yr oeddwn yn byw ynddo, ac yn yr hwn yr oedd y coleg yn cael ei gynnal. A'r hyn oedd dros hyny, a dalwyd gan y Gymdeithas, am, aco'r flwyddyn 1826. Aui y tair blynedd gyntaf wedi 1826, yr excess ocdd ^10 y flwyddyn; am y pump neu chwech mlyn- edd diweddaf, yr oedd yn cyfartalu {averaged) o jé"l6 i jÉ'IS y flwyddyu. " Yt byn a dderbyniais y flwyddyn ddiweddaf am addysg a bwrdd y myfyrwyr;— "1835. Cyflog hanner blwyddyn am £ 8. c. addysg, o Gorph. laf hyd Ion. laf, 1836 20 0 0 " Yr hyn a ganiatäwyd am fwrdd chwech myfyriwr, sef j6'6 y chwarter am bob un 72 0 0 " Etto, tuag at dea bob prydnawn ... 440 " 1836. Cyflog hanner blwyddyn am addysg, o Ion. laf. hyd Gorph. laf. .. 20 0 0 " Am fwrdd saith myfyriwr y chwarter cyntaf, a chwech yr olaf...... 78 0 0 " Tuag at dea dros chwech mis .. .. 4 4 0 " Etto, am lô dros un flwyddyn .. .. 2 2 0 JÍ200 10 0 " Wedi tynu o hyn £lfs tuag at rent, y raae yn aroi am addysg, lletty, dodrefn, traul pethau yn y ty, a cbyflogaumorwynion,&c.,JÉ'180 10s., am chwech myfyriwr am naw mis, a saith am dri mis. Yn y Wynegiad am 1836, y mae yr hyn a roddwyd i mi am fwrdd ac addysg dros y flwyddyn yn cael et gymmysgu a dau chwaiter fy nghanlynydd. " Am fwrdd a Iletty, chwe chwarter, hyd Ebrill laf. -<381 9s. 2g. Yr hyn a dderbyniais I o hyn, sydd fel ynodwyd yn barod, j6"200 io'i.