Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 482.] TACHWEDD, 1855. [Cyf. XXXVIII. HANES BYTO AC YSGRIFEMABAU GRÜFFYDD AB ARTHUR. CAN NICHOLAS AB GWRGANT. fPAIinAD O TÜD. 451.) EI NODWEDDIAD FEL AWDWB. Am gymmeriad awdurol Gruffydd ab Arthur, rhai awdwyr, yn mhlith y rhai y mae Dr. Lloyd, Esgob Llanelwy, ydynt wedi ei goll- farnu ef a'i waith, a gosodant ef allan fel dyn auwybodus a thwyllodrus. Barnwyf eu bod wedi gwneyd camsyniadau mawrion, neu, ynte, wedi gweithredu yn annghyfiawn a rhagfarnllyd; o herwydd y mae Caradoc o Lancarfan, ei gydoeswr, wedi rhoddi tyst- iolaeth mor rhagorol ag oedd alluadwy i un dyn ddywedyd am ddyn arali; a phwy a allasai wybod yn well nâ'i gydoeswr ? Mae yr Athrawon Powell a Davies wedi bod yn ddiwyd ac yn fanwl iawn, ac wedi ysgrifenu yn ddiduedd a gonest—maent wedi beirn- iadu yn dêg, ac wedi dadleu yn alluog yn erbyn William o Newborough a Giraldus Cambrensis, dros gymmeriad Gruffydd a'i ysgrifeniadau. Mae Tbompson, yr hwn a gyfieithiodd " Hanes Prydeinaidd" Gruffydd i'r Saeson- eg, wedi ysgrifenu amddiffyniad gorchestol i'r gwaitb, ac yn cyfiawnhau yr awdwr mewn dull galluog a dysgedig, ac wedi gwrthwyn- ebu yn dêg y cyhuddiad o fod y gwaith yn dwyllodrus; ond yr ydym yn cyfaddef, nad yw wedi sefydlu y gwáith oll drwyddo yn ysgrifen-brawf hanesiol er boddineb i bawb o'r Cymmry, chwaithach awdwyr o genedl- oedd ereill. Barn dawelfryd a diduedd a edrych ar y gwaith fel wedi ei seilio ar dra- ddodiadau ac ysgrifau coeliadwy ; a rhes- ymol yw barnu, nad oedd pob hanesion a allasai y Prydeiniaid, yn gystal a chenedloedd ereill, eu cadw yn yr oesoedd hyny, ond an- nhrefnus ar y goreu; canys y maent oll wedi eu gorchuddio â thywyllwch, oddieithr yr ysgrifeniadau ysbrydoledig a ysgrifenwyd gan Moses. Ond pa beth bynag y\v y dyb a ellir lettya am ei eirwiredd a i awdurdod hanesiol, hyn a allwn ddywedyd heb betruso, fod y gwàith yn cynnwys hanesion difyrus iawn. Ac nid oes sôn am un ysgrifenydd Cymmreig yn un oes o'r byd ag. y mae ei weithrediadau fel awdwr wedi ymledaenu mor bell, ac wedi cael y fath effaith ar lên- yddiaeth Ewrop, ag a gafodd ysgrifeniadau 61 Gruffydd ab Arthur, yn y 12fed a'r 13eg ganrifoedd ; i'e, gellir dywedyd hyd at ddiw- edd y 17eg ganrif. Pa un a yw y " Brut " enwog hwnw yn ddyfeisiad o eiddo Gruffydd ai nad yw, mae hyn yn ymddangos yn ddi- ammheuol—ei fod yn ddarlun cywir a byw- iog o'r traddodiadau a'r ffug-chwedlau ag oeddynt yn cael derbyniad yn yr oesoedd hyny ; ac, yn ol adroddiad Mr. Ellis, yr hwn sydd wedi rhoddi dosparthiad manwl o'r holl waith, efe a ddywedai fod ysgrifeniadau Gruffydd ab Arthúr yn un o gonglfeini trefn- iant y ffug-chwedlau. Bu amser pan yr oedd yr Athronwyr Groegaidd yn blodeuo, a dysgedigion lawer o oes i oes yn byw yn eu plith, ac areithwyr hyawdl Athea yn dysgleirio fel sêr o faintioli annghyffredin, a phrydyddion godidawg yn plethu eu caniadau yn eu mysg, megys Ho- mer, yr hwn oedd yn cael ei ystyried yn dywysog y beirdd Groegaidd. Bu cyfnod pan yr oedd Rhufain yn feistres y byd mewn dysg o bob math, a'r iaith Ladin yn brif- iaith Ewrop ; yr amser hwnw yr oedd Virgil, y prydydd Lladinaidd ardderchocaf a fu er- ioed, yn eu plith ; yr oedd yn deall athron- iaeth, meddyginiaeth, y gelfyddyd o jrif a mesur, yn flodeüydd rhagorol, yn naturiaeth- wr, ac yn hyfedr yn narluniad y ddaear; ac yr oedd yn feddiannol ar y fath dymherau addfwyn, ac mor rhydd oddiwrth genfigen a gwagedd, ac mor barod i roddi cynghor i bob prydydd ieuanc, nes oedd yr holl brydydd- ion Rhufeinig yn ei garu, ac yn ei barchu goruwch pawb. Bu chwyl pan yr oedd awen a dysg mewn rhwysgfawredd yn yr ynys hon. Yr oedd colegau clodfawr yma mewn amryw fanau, yn y wlad ac yn y trefydd; ac yn Nghaer- íleon-ar-Wysg, yr oedd Dyfrig Beueurog âg un coleg dan ei ofal, yn cynnwys dim llai nâ mil o ieuengtyd Cymmru. Yn yr ynys hon yr oedd yr annghymharol Aneurin, y bywiog Daliesin, y duwiol Drahaiarn, aV athrylitbgar Lywarch Hen, y ddau Fÿrddin, Llefoed, Golyddan, Meigant, Elaeth, Tys- sylio, a Chuelyn, ac amryw eieill rhy faith