Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. ——■—— i HYDREF, 1855. Rhif. 481.] [Cyf. XXXVIII. HANES BYWYD THOMAS LLEWELYN, M. A., LL. D., CYNT O'R CASBACH. GAN Y PARCH. WILLIAH ROBERTS, O'R BLAENAU. IParhad o'r Rìdfyn diweddaf.} Yn nesaf, sylwwn ar ymdrecb y Dr. Llew- elyn mewn cyssylltiad âg Argraffiad y Beibl yn 1769. Ymddengys fod y Uwydd- iant a gymmerodd le ar grefydd mewn am- ryw o eglwysi y Bedyddwyr, ac eglwysi yr Ànnibynwyr a'r Presbiteriaid, o 1690 hyd 1718,* ar ol cael gweithred y Goddefiad, ac ar ol sefydliad ysgolion T. Gouge a Hughes, &c, wedi peru fod cryn brinder o Feiblau yn ein gwlad ni, drwy ychwanegu yr ym- ofyniad am danynt yn fawr. Hefyd, pan ystyriom fod yn agos 30 mlynedd wedi uiyned heibio heb un argraffiad o'r Beibl i'r Gymmraeg; sef, mwy nag a fu er pan ddech- reuwyd argraffu Beiblau Cymmreig poblog- aidd cyn hyny, nac wedi hyny. Yr oedd hyny wedi achosi i'r pedwar argraffiad o Feiblau bychain a ddaeth allan yn y 17eg ganrif, sef yn 1630, 1654, 1678, a 1690, fod wedi darfod yn llwyr. Yna cymmerodd y gymdeithas glodwiw, a elwir " Cym- deithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol," y mater mewn llaw; a daeth allan, dan nawdd, ac ar draul y gymdeithas hon, bump o argraffiadau mewn 50 mlynedd, sef o 1718 hyd 1769; a chynnwysai y pump hyny tua chymmaint dair gwaith o Feiblau ag a gyn- nwysai y pedwar yn y ganrif o'r blaen. Ni chynnwysai y pedwar argraffiad o 1630 hyd 1690, ond o 25,000 i 28,000; ond cyn- nwysai y pumpo 1718 hyd 1769, tua 80,000 o Feiblau. Yroedd yr argraffiadau yn 1718 a 1725 gan y gymdeithas enwog a nodwyd, dan olygiaeth y Parch. Moses Williams, o Ddefynog. . Yr oedd sefydliad a llwyddiant ysgoliórf'Grif- fith Jones, Llanddowror, yn nghyd â sefydl- iad a llwyddiant Mcthodistiaeth, yn ngbyd â llwyddiant- enwadau ereill, wedi llyncu i fyny yr argraffiadau hyny, fel na ellid cael Beibl am lai nâ phunt yn 1741; ac.yn fynych nis gellid ei gael heb lawer yn ych- * Yr wyf wedi aynu Hawer at y rhai sydd yn sôn fod crefydd yn marwhau yn y cyfnod h*n yn Nghyrn- mru. " Hanes y Trefnyddion jM " Hanes Row- Unds," " Harrii," &c. 55 waneg, er mai am bedwar swllt a chwe cheiuiog yr oedd y gymdeithas hon yn eu gwerthu, yr wyf yn meddwl, er na allaf gofio fy awduron. A theilwng yw cofnodi, mai pedwar swllt oeddynt gan T. Gouge a S. Hughes yn 1678. I lanw gofyniad y Cymmry yn y cyfnod hwn, daeth y gymdeithas â dau argraffiad arall allan yn 1746 a 1752, dan olygiaeth R. Morris, Ysw., brawd yr enwog Lewis Morris, o Fôn. Dyma 30,000 etto o gopYau o air y bywyd i'r genedl. Yr oedd y gym- deithas uchod yn caniatâu i foneddion hael- ionus gael nifer o honynt yn rhatacb, yn enwedig os dosparthid hwynt yn mysg y tlod- ion ; onide pedwar swllt a chwe cheiniog oedd y pris a roddid am danynt. (Dr. Ll.'s Hisiorical Account, p. 55.) Yr oedd llawer yn cael eu rhoddi yn rhad yn ysgolion Griffith Jones ; ond yr oedd telerau eu dos- parthiad y fath, fel na allai un Ymneillduwr eu cael; canys yr oedd yn rhaid dyfod â " nertifficat oddiwrth weinidog eu plwyf, eu bod yn medru darllen Cymmraeg, ac yn dyfod at eu gweinidog i ddywedyd eu cate- chism, yn ateb y gweinidog yn barchus yng Ngwasanaeth yr Eglwys, gydag Amen yn barchus ar ddiwedd y Gweddiau," &c, cyn cael Beibl. (Gwel •• Hyfforddiad," gan G. Jones. Llundain, 1749.) Darfu y Dr. Jo- seph Stennett gytuno â blaenoriaid y gym- deithas, am gael rhai cannoedd i'r Bedydd- wyr, yn 1746. Ar ol i'r argraffiad ddyfod allan, ac iddynt weled fod cymmaint o alw am y Beiblau, dywedodd yr esgobion wrth Dr. Stennett, "Ai cymhwys yw i ni gyn- northwyo eich pobl chwi, a gadael ein pobl ein hunain mewn diffyg?" Atebai yntau, " Cymhwys i chwi wneyd cyfiawnder â ni, eyn gwneyd elusen i'ch pobl eich hunain. Nid wyf fi yn ceisio ond cyfiawnder yn ol ein cytundeb," &c. (" Hanes y Bedydd- wyr," tud. 55.) Felly, efe afynodd eu cael i sefyll at eu cytundeb. Anfonodd yntau y Beiblau i wahanol barthau Cymmru, i*w dosparthu yn tnhlith yr Ymneillduwyr, ond yn benaf y Bedyddwyr. Anfonodd y Dr.