Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 480.] MEDI, 1855. [Cyf. XXXVIII. HANES BYWYD THOMAS LLEWELYN, M. A., LL. D., CYNT O'R CASBACH, GAN y PARCH. WILLIAM ROBERTS, O'R BLAENAU. Yn Mhenalltau-isaf, yn agos i Hengoed, y ganwyd T. Llewelyn, rywbryd tua 1720, o rieni duwiol, y rhai oeddynt yn proffesù crefydd gyda'r Bedyddwyr yn Hengoed. Tebygol fod ei deulu er ys rhai oesoedd cyn hyny yn gyssylltiedig â'r eglwys hòno, ac amcanaf ddwyn ychydig o ffeithiau i ddangos y tebygolrwydd hwn. Yn ngwaith B. H. Malkin, YswM ar " Ddeheubarth Cymmru,"* mae hanes lled faith am yr enwog Thomas Llewelyn, o'r Rhegoes. Iolo Morganwg ocdd yr un a roddodd y defnyddiau hyny i Mr. Malkin; a chan na wyddai neb yn well am Forganwg a'i henwogion nâ Iolo, ac ar ol hyny Taliesin ei fab, mae yr hyn a ddywedwyd ganddynt yn werth ein sylw. Ymddengys fod Thomas Llewelyn, o'r Rhegoes, yn fardd enwog. Gellir gweled ychwaneg am dano yn vr ystyr hyny yn yr Iolo MSS. Efe a gyfieithiodd y Beibl, neu, o leiaf, ran o hono, yn 1540. Y mae, neu yr oedd, llythyr yn llyfrgell Mostyn, oddiwrth T. Llewelyn at Dr. Richard Davies, yn cynnwys hanes ei ymdrech gyda'r cyf- ieithiad uchod. Barnai Iolo, a hyny gyda Hawer o briodoldeb, fod W. Salisbury, yn 1567, wedi gwneyd Uawer o ddefnydd o'r cyfieithiad uchod gan yr hen fardd. Ym- ddangosodd ysgrif lled faith yn yr " Adol- ygydd," yn ceisio gwrthbrofi tyb Iolo o barth hyny ; ond, i'm tyb I, yn hollol ddi- ffygiol i ateb ydyben. Mae y ffaith amlwg, fod cymmaint o'r Wentwyseg ^n nghyfieith- iad Salisbury, yn profi, debygaf fi, yn eglur, fod yr hen fardd Gwentaidd yn gynnorthwy- wr i'r Gogleddwyr, William Salisbury, R. Davies, &c. Ymddengys hefyd fod T. Llewelyn, o'r Rhegoes, yn bregethwr, ac wedi cael trwy- dded i bregethu gan yr Archesgob Grindal. Daeth yn bregcthwr tra phoblogaidd ; a gol- yga Iolo ef yn dad, neu ddechreuydd, Ym- * Cyf. I., tud. 297. 49 neillduaeth yn Nghymmru. Ni ddywedir i ni pa beth oedd ei farn grefyddol; ond mae rhyw bethau yn yr hanes yn peru i ni dybied ei fod yn barnu yn nghylch bedydd yn debyg fel y barna y Bedyddwyr yn yr oes hon, oblegid y pethau canlynol:—Dywedir ei fod yn teithio o un parth o'r wlad i'r llall i bre- gethu, hyd nes y darfu i'r erlidiwr hwnw, Archesgob Laud, ei esgymuno ef a'i ganlyn- wyr. Yr oedd prif orsaf y symudiad gwerth - fawr hwn yn ydiwedd, fel yrymddengys, yn Mlaen Cannaid, ger Merthyr. Tòrodd y casgliad hwnw 0 ddysgyblion duwiol T. Llewelyn allan ar ol hyny yn dair cangcn ; un, yn Bresbiteraidd, a sefydlodd yn Mer- thyr ; un arall, yn debyg i Grynwyr, a sef- ydlodd yn Mynwent y Crynwyr (Quaker's Yard); un arall, yn Fedyddwyr, a sefydlodd yn Llanharan, wedi hyny yn Llantrisant, ac wedi hyny yn Hengoed. Yn awr, y mae yn naturiol i ni feddwl fod y nodweddau newydd (new features), sydd yn y cangenau hyny yn cael eu cefnogi gan y sylfaenydd. Nid oedd Presbiteriaeth yn beth newydd, canys yr oedd amrysonfa rhwng y Puritan- iaid a'r dosparth Pabyddol oedd yn Eglwys Loegr am bethau fel hyny er ys blynyddau lawer. Ond yr oedd egwyddorion y Bed- yddwyr (sef bedydd drwy drochiad y cred- iniol), yn lled ddyeithr y pryd hwnw yn Nghymmru ; ac felly hefyd yr oedd egwydd- orion tebyg i eiddo y Crynwyr. Gan hyny, tueddir fi i feddwl mai pregethwr yn crbyn defodau a seremoniau oedd T. Ll., yn cy- mhell crefÿdd bersonol ar y bobl; yr hyn sydd anhawdd ei wneyd yn gysson, heb wrth- od gwneyd plant na allantgre.Au. yn grefydd- wyr. Mae yn deilwng o sylw, fod y nod- wedd hwn yn yr holl ddiwygwyr yn y tym- mor yma, yn gystal ag o'i flaen ac ar ei ol ef; sef, dadleu dros grefydd bersonol, yn lle y dull Pabyddol o wneyd yr holl wlad yn grefyddol. Gwelir y nodwedd yna yn Wic- liff, Walter Brute, Siôn Kent, a'r Lolardiaid yn gyffredinol, yn gystal ag yn Udal, J.