Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 479.] AWST, 1855. [Cyf. XXXVIII. YR IUDDEWON. CAN MR. I_. LEWIS, MYFYRIWR, PONTYPWL (PARHAD O'R RHIFYN DIWEDDAF.) Ein ymholiad nesaf fydd, Pa beth yw sef- yllfa yr Iuddewon yn bresenol ? Eu sefyltfa bresenol.—Maent yn genedl neillduol. Mae hon y ffaith ryfeddaf yn hanes y genedl. Mae yr ymsyniad i bobl golli eu gwlad, eu breintiau, a'u hannibyn- iaeth, drwy greulonderau nad oes sôn am eu cyffelyb yn nghroniclau anfarwol hanesydd- iaeth—iddynt gael eu gwasgaru yn mysg holl genedloedd y byd—iddynt gael eu herlid, eu poenydio, a'u llofruddio wrth y miloedd dros ddeunaw cant o flynyddau ; ac etto, yn niw- edd y fath gyfnod hirfaith, iddynt gadw eu ffurf wahaniaethol, a'u neillduolrwydd nod- weddiadol, sydd bron yn anhygoel—y ffaith ryfeddaf, a mwyaf anesboniadwy o fcwn i holl derfynau athroniaeth hanesyddol. Nid yw yr Iuddewon wedi ymgymmysgu ond ychydig â chenedloedd ereill. Maent yr un yn mhob gwlad. Sýrth y gwlithyn i'r gor- nant, a chollir ef ynddi; ymlifa y gornant i'r afon, a chyll ei bodoliaeth yno ; â yr afon yn mlaen yn ei gyrfa esmwyth, chwareua ei thònau wrth odreu y mynydd, ac arllwysa ei dyfroedd i'r eigion trochionog, ac nid oes hanes am dani. Cyffelyb i hynyna yw cen- edlaethau y ddaear: ymgymmysgant â'u gilydd, rhedant y naill i'r ílall, tra yr ym- lnsgant ar hyd gwastadedd amser, nes yr ym- gollant yn eigion ebargofíant. Pwy all wa- haniaethu y Rhufeiniaid, y Saxoniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid, oddiwrth eu gilydd yn Lloegr ? Eithr yr Iuddewon, er na fedd- ant wlad, dinas, na theml i ymfl'rostio yn- ddynt, ac i ddwyn yn mlaen eu hymarfer- iadau crefyddol a gwladol, ydynt yr «n yn Llundain â Chaercystenyn, ar heol Ponty- pwl â Phekin. Er eu bod yn cyfanneddu yn mhob parth, ac yn mysg pob math, etto ni una y wyryf Iuddewig â neb mewn priodas, ond âg un o hâd Abraham. Dysga rhieni eu plant yn egwyddorion eu crefydd, dygant sêl dros eu defodau, ac addolant yn eu syna- gogau. Mae eu neillduolrwydd wedi achosi llawer o'u trucni a'u gofìdiau. Pe buasent mewn rhyw wlad gyda'u gilydd, achanddynt 43 gyfreithiau doeth i'w hamddiffyn, buasai' ganddynt fantais i ennill dylanwad; ond pan y maent mor wasgaredig, ac etto yn cadw eu neillduolrwydd cenedlaethol, nid rhyfedd eu bod yn nôd i bawb gyfeirio eu saethau atynt. Mae amrywiol o bethau yn nghyflwr gwlad- wriaethol yr Iuddewon, a brofant yn ddiym- wad, nad yw Duw Jacob wedi euhannghofio, na'u llwyr adael. Ni wnawd dim yn ben- derfynol a pharhäol tuag at symud gor- thrymder yr Iuddewon hyd ddechreu y ganrif bresenol. Y gydnabyddiaeth gyntaf eu bod yn meddu hawl i gyfiawnder ac uniondeb, a wnaed yn y fl. 1806, gan Napoleon Buone- parte. Y taleithiau Almaenaidd oeddynt y rhai cyntaf i roddi hawliau dinasiaeth iddynt, a'u gwaredu o drueni annhrugarog deunaw o ganrifoedd. Dechreuodd taíeith- iau ereill ar Gyfandir Ewrop estyn dwylaw hwyrfrydig cyfeillach iddynt. Yn Lloegr, ymddangosodd pelydr o oíeuni yn eu ffurf- afen ; ond buan y diffoddwyd 'ef. Pasiwyd gweithred yn y Senedd-dy yn y flwyddyn 1753, yn ffafriol i ryddid yr Iuddewon ; ond fe'i tynwyd yn ol y flwyddyn ganlynol, ac ni ddaeth y pwnc dan sylw drachefn hyd y fl. 1830, a'r pryd hwnw, cafodd ei wrthod yn hollol. Ond dygwyd rhyddhâd iddynt yn Ffrainc y flwyddyn hòno. O fewn yr ych- ydig flynyddau diweddaf hyn, gwnaed yra- drechion llwyddiannus o bryd i bryd tuag at ddwyn ymwared i'r Iuddew gorthrymedig. Yn nghanol chwyldröadau diweddaf y dwy- rain, cydnabyddwyd yr Iuddewon yn yr Aifft, Twrci, Arabia, ac Algiers, yn ddinas- yddion, ac amddiffynwyd eu bywydau, eu heiddo, a'u hanrhydedd. Yn Ngroeg, yn ynysoedd yr Indian Archipelago, yn Neheu- barth Amcrica, a'r Unoî Daleithiau, mae ganddynt synagogau ac ysgolion blodeuog i'w mwynhau, dan nawdd y Ilywodraeth. Mac y gwaharddiad i'r Iuddewon fyned ì mewn i'r deyrnas wedi ei ddileu* yn Norway. Dygwyd deiseb yn ralaen yn ddiweddar yn Denmarc, yn ffafriol i ryddhad yr luddew- on. Yn Lloegr ac yn Holland maent yn