Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Ehif. 478.] GORPHENAF, 1855. [Cyf. XXXVIII. YR IUDDEWON.* CAN MR. L. LEWiS, MYFYRIWR, PONTYPWL. Tybiwn mai afreidiol yw i ni geisio dangos pwy a feddylir wrth yr Iuddewon: y mae pawb sydd yn gyfarwydd â'r ysgrythyrau santaidd yn gwybod pwy ydynt, o ba le y tarddasant, a'u hanes digyffelyb, o alwad Abraham o Ur y Caldeaid hyd ymddangos- iad y Messia. Bu yr Iuddewon unwaith y bobl anrhyd- eddusaf yn y byd ; hwynthwy oeddynt bobl neillduol Duw, etholedigion boreuaf y byd, ac etifeddion gwynfydedig gwlad yr addewid ; yn eu plith y gwnawd gwyrthiau rhyfedd, ar eu rhan yr ymladdwyd y brwydrau mwyaf gorchestawl, er mwyn eu derchafiad y cwympwyd yr amherodraethau mwyaf ar- dderchog, y lloriwyd y teymasoedd mwyaf diysgog, ac y gwnawd yr amddiffynfèydd mwyafdisigl yn gydwastadâ'rllawr. Safodd lampau y nef, ymagorodd y Môr Coch, a chiliodd yr Iorddonen yn ol, er mantais i'r hobl hyn ; ac iddynt hwy y per.thynai yr holl sefydliadau Moesenaidd. Ni ymddiriedai y Jehofa ei gyfraith yn Uaw neb, ond yn eiddo yr Iuddew; ni allai un genedl dan yr haul ymgystadlu â hwynt yn ngorwychder eu Teml, ymddangosiad gogoneddus eu hoffeir- iaid, a difrifoldeb dylanwadol eu gwasanaeth ; yr oedd gwisgoedd eu hoffeiriaid, trysorau eu Teml, a dysgleirdeb eu Shecina, yn tynu sylw y bobloedd, yn hawlio parch cyffrediuol, ac yn ennill cymmeradwyaeth holl genedl- oedd y byd. Gwlad Canaan oedd eu hetifeddiaeth ; ei dolydd meillionog, ei bryniau cribog, a'i ha- fonydd grisialaidd, oeddynt eu cyfreithlawn feddiant: dyma rodd yr Anfeidrol iddynt, ar yr ammod eu bod i'w wasanaethu ac ufydd- hau i'w ddeddfau.. Ni freintiwyd un genedl * Yr ysgrif Gymmreig a ddarllenwyd yn Nghyfar- fod Blynyddol Athrofa Pontypwl, Mai 23ain, gan Mr. Lewisj yr hwn, fel y deallwn, sydd yn debyg o ymsefydlu yn fugail ar yr eglwys sydd yn cyfarfod yn Seion, Trosnant. Mae yr ysgrif Seisnig, a ddar- ílenwyd y dydd canlynol gan Mr. Jeukins, ar y " Gwyrthiau," yn ein meddiant, ac i gael ymddan- gos mor fuan ag y byddo modd. Cairì cin darllen- wyr felly gytle, can belled A hyny, i farnu galluoedd •in brodyr i«uainc—öot-. 37 yn gydradd â hon. Gwnaeth ỳ Jehofa gy- íammod â hwynt, y byddai efe yn Dduw iddynt hwy, ac y byddent hwythau yn bobl iddo yntau, cyhyd ag y gwasanaethent ef- Ymddiriedwyd iddynt yr oraclau bywiol, a chawsant athrawon cymhwys i'w dysgu yn yr egwyddorion santaidd. Yn eu plith y cododd y prophwydi, y rhai a gynhyrfwyd gan yr Ysbryd Glâu i ragfynegu drygfyd blin, neu lwyddiant gorfoleddus. Cawsant Ddafydd, eu pêr-ganiedydd gogoneddus; Solomon, y doethaf ei enaid ; a Samson, y cryfaf ei gorff a ymddangosodd yn mysg marwolion erioed. Am hir amser aeth y genedl yn mlaen yn llwyddiannus : cynnyddodd ei nerth, amlha- odd ei chyfoeth, ac ymöangodd ei therfynau. Gwelodd genedloedd ereill yn codi ac yn cwympö ; amherodraethau ereill yn blaguro ac yn gwywo. Diflanodd breninoedd Assyria, Persia, a Groeg, fel drychiolaethau, tra yr oedd yr Iuddéwon yn cynnyddu mewn gallu a breintiau cenedlaethol. Ond er eu holl fawredd a'u gogoniant, gwelwn bethau yn gwisgo agwedd wahanol. Os tywynodd yr haul arnynt gyda dysgleirdeb di-ail am dym- mor hir, gwelwyd ef yn suddo drachefn islaw y gorwel, yn nghanol cymylau pygddüawl dystryw a marwolaeth. Yn lle haf dymunol, cawsant auaf gerwin; yn He llawenydd, cawsant alar; ac yn lle eu derchafu, cawsant eu gwrthod a'u dymchwelyd ; íe, gwywodd eu blodau braf, syrthiodd eu coronau euraidd i'r llwchr a chwympodd eu gwisgoedd offeir- iadol oddiar eu hysgwyddau: collwyd y deyrnwialen o Juda, peidiodd yr aberthau, ymadawodd y gogoniant, asyrthioddy Deml i adfeilion oesol. Bwr'iadwn sylwi yn y traethawd hwn ar eu gwasgariad, ychydig o'u herlidigaethau,'. eu sefyllfa bresenol, a'r ymdrechion a wneir tuag at eu'hennill i'rffydd Gristionogpl. Év Gwasgariad.—Tybiwn mai buddiol yw sylwi ar achos eu gwasgariad, a'r am- gylchiadau a gymmerasant le, er dwyn oddi- amgylch ddystryw eu sefydjiad gwladol, a'u mynediad hwythau i bedwar bàn y byd.