Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 477.] MEHEFIN, 1855. [Cyf. XXXVIII. HANES BOREUOL CASTELL CAERFFILI; YN NCHYD A THARDDIAD YR ENW- Y mae Caerffili yn sefyll gerllaw i afon Rurani, yr hon sydd yn rhanu Morganwg a Mynwy. Pentref bychan ydyw, oddeutu saith railldir i'r gogledd o Gaerdydd. Nid oes un gwrthddrych haeddiannol o sylw neillduol yno, ond y Castel!, muriau yr hwn, yu eu hadfeiliad, ydynt megys yn hèrio tymhestloedd amser. Nid oes un adfeiliad yn Mhrydain Fawr ynrhoddi drycholwg mor bwysig am yr oesoedd amrysongar (feudal ages) â Chastell Caerffili. Er fod Castell Caernarfon yn fwy perffaith ; etto, nid oedd yn agos mor fawr (yn ei amser blodeuog) íì Chastell Chaerffili yn ei adfeiliad : " Gorhoffolwg Caerffili,—a erys Ar orwych sylfaeni; Addas oes oesoedd iddi, Gwaith di-ail ei adail hi." Gwiìym Morganwg. Y mae tarddiad yr enw, yn ol tyb Clarke a Cliffe,* oddiwrth caer a pwll. Y mae darlun o'r Castell yn y " Wcst of Engîand Journal," fel ag y safai yn ddechreuol; yr hwn a rydd ddrycholwg o'i gryfdwr. Mae yn ddiammheuol iddynt gymmeryd mantais o'r nant fechan, u elwir " Nant-y-Gledir," a'r ffrwd fechan sydd gerllaw iddi, i wneyd gor-ynys, yn amgylchynedig â thir isel a chorsog, ag oedd yn codi yn raddol yn Uwch níì'r tir cyfagos. Yn y man cyntaf, yr oedd cylchffos (moat) yn amddiffyn y gwyneb dwyreiniol, yr hon sydd un o'r siamplau ardderchocaf a mwyaf cyflawn o amddiffynfa yr oesoedd tywyll ac amrysongar ag sydd mewn bodoliaeth yn y wlad hon, nac un- rhyw wlad arall: yr oedd wedi ei gwneyd i fyny o fur allanol, dri chant a thri ugain troedfedd o hŷd ; ac wedi ei choseilio yn gadarn yn y canol, gan borth mawr, a bagad o dỳrau ar bob pen. Yr oedd cylchtlos arall yn nes i mewn, wedi ei huno â llyn, ac yn amgylchu ynys, ar ba un yr oedd yr am- ddiffynfëydd penaf. Yr oedd ynys arall ag oedd wedi ei throi yn waith corn, yn ymuno â hi o'r gorllewin ; ac ar y cyfandir (main * Gwel, " Cliffn't Book o/South Wale*." 31 land), y tu gogledd-ddwyreiniol, yr oedd rhag-fur amddiffynfa, o faintioli mawr, a chryfdwr anferthol. Ac o'r tu allan i'r di- weddaf, yr oedd tair amddiffynfa wahanol. Y rhan wanaf o'r Castell oedd y rhan dde- heuol o honi. Yr hyn a ganlyn sydd ddarluniad byr o'r cwbl :—Yr oedd yr adeiiadau yn y gwahanol gynteddau, yn nghyd â buarth ëang, wedi eu hamgylchynu ;t mur allanol uchel a thrwchus, ac wedi eu cadarnhau gan dỳrau pedair-ochrog yma a thraw, rhwng pa rai yr oeddynt yn cadw i fyny drarawyfa drwy am- rodfa fyddinawl (embattled corridor). Yn y cyntedd allanol yr oedd lluesty milwyr, ac yr oedd mynedfa o honi drwy borth ar- dderchog, wediei ystlysu â dau chvr chwech- ochrog, yn arwain dros bont-dynu (draw- bridge) ag oedd ar y gylchffos i barth tu- fewnol, o'r hwn yr oedd mynedfa ddwyrein- iol i'r llys, neu'r c)ÿitedd helaethaf, drwy borth mawr, wedi ei amddiffyn yn gadarn â phyrth-gylisau (portcullisses),* rbychiau y rhai sydd i'w canfod yn bresenol. Yr oedd y fynedfa orllewinol i'r llys, neu'r cynteddr dros bont-dynu arall, drwy borth bwäog ys- plenydd, wedi ei amddiffyn â rhag-furiau crẁn, o faintioli dirfawr. Mae y llys, yn mha un yr oedd rhes fawrwych o deyrn- drigfanau (state appartments), yn dri ugain a deg o latheidiau o hŷd : yr oedd yn am- gauedig yn y rhan ogleddol gan fur uchel, wedi ei gryf hau â chynnal-furiau ; ac yma a thraw yr oedd dolen-dyllau, er gollwng llaw-ergydion ; a'r ochrau ereill, gan yr adeiladau, ac amddiffynfëydd y mynedfëydd. Mae y neuadd fawr, ar y rban ddeheuol o'r talwrn pedair-onglog, mewu cadwraeth bur dda, ac wedi cadw llawer o'argoelion ei hen- afiaeth fawreddog. Y mae y neuadd hon yrt dri ugain a deg o latheidi o hyd, deg ar hugain o led, a dwy ar bumtheg o uchder ; ac yn derbyn goleuni drwy bedair ffenestr ♦ Portcutlis, a sort of machine like a h»rrow, hung over the gates of a city or castie, to be let duwa to koep an cuauiy out.