Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 476.] MAI, 1855. [Cyf. XXXVIII. COEIANT Y PARCH. JAMES SPENCER, LLANELLI. CAN Y PARCH. W. HUCHES, CLANYMOR. (PARHAD O'R RHIFYN DIWEDDAF.; Diweddwyd y llythyr o'r blaen gyda sef- ydliad Mr. Spencer yn Llanelli, a dechreuad cyfnpd newydd yn ei fywyd fel gweinidog yr efengyl, gydag addewid i ymdrechu rhoddi darluniad yn y ilythyr hwn o'i nodweddion a'i lafur yn y cytnmeriad pwysig hwnw. Cyf• addefaf fy mod yn teimlo hwn yn orchwyl o gryn anhawsder i mi, ac y buasai yn hyfryd- wch genyf, ar ryw olwg, pe buasai wedi syrthio i ddwylaw galluocach. Ond, tra yn ymwybodol o anallu i roddi cyflawn ddar- Ìuniad, gobeithir na fydd dim a ddywedir yn cynnwys cam-ddarlnniad o'm brawd hoff. Adeg ryfedd ar ddyn yw hono, pan y mae yn dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddus ; ac un sydd yn galw am lawer o gydymdeim- lad, pwyll, a thynerwch oddiwrth y rhai y neillduir ef i'w gwasanaethu. Dyna ddyn ieuanc yn gadael ei alwedigaeth fydol, yn gadael ei berthynasau cu ac anwyl, ac efallai ei wlad hefyd, ac yn myned i wasanaethu cynnulleidfa o ddynion na ŵyr efe ond y peth nesaf i ddim am danynt, a'r rhai y mae ei gysur a'i ddefnyddioldeb i fesur mawr yn ymddibynu ar eu cymmeradwyaeth, eu cyd- weithre'diad, a'u fl'yddlondeb. Ac efe etto yn ddigon anmhrofiadol, mae ganddo wa- hanol archwaethau i'w boddloni, a gwahanol gymmeriadau iyrawneydâhwy ; gwybodaeth i'w chyrhaedd, a llafur i'w gyflawni, nes y mae ei ysbryd weithiau ar soddi dan y baich ; ac efe a ddywed gyda chalou drom, " Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Weith- iau poenir meddwl y gweinidog ieuanc yn nechreuad ei weinidogaeth wrth weled ar- wyddion oerfelgarwch a phellder yn y rhai y gallasai ddysgwyl iddynt fod fwyaf gwresog o'i blaid : y rhai blaenaf wedi myned yn olaf. Dechreuodd Mr. Spencer ei yrfa wein- idogaethol yn ddiau gydag ystyriaeth briodol o bwysigrwydd ei swydd; ac er ei galonogi i gyflawni ei dyledswyddau gyda ffyddlondeb a chysur, cafodd y fraint o lafurio yn mysg pobl ag oeddynt yn alluog i werthfawrogi ei weinidogaeth rymus a goleuedig; a'r rhai, yn hytrach nag oeri a dirlasu gyda threigliad amser yn mlaen, a barhausant i feddwl yn 25' uchel am eu gweinidog hyd ddiwedd ei oes. Caniatëir nad yw pob un sydd ar enw gweinidog yn meddu y cymhwysderau angen- rheidiol i hawlio -a gorchymyn parch oddi- wrth y rhai y proffesa eu gwasanaethu ; ond am wrthddrych ein Cofiant, yr oedd yn deil- wng o barch. Yr oedd ynddo bethau a ddylent fod yn barchedig gan ddynion trwy hoíl oesau y byd, os yw daioni, ffyddlondeb, llafur, a'r rhinweddau Cristionogol, yn hawlio cymmeradwyaeth a pharch. Nid oes neb a dybia ein bod am ei ddàl i fyny fel dyn difai: gwyddai ef am ei feiau, a gwyddom ninau am rai o'i anmherffeithiau; a phe buasai yn amgen, buasai yn annhebyg i bawb ereill yn y byd hwn. Ond yr oedd ei ragoriaethau yn llawer, a'i gymmeriad Crist- ionogol a gweinidogaethol yn meddu cyf- lawnder a chyfanrwydd godidog. Gallwn ddweyd heb ofni mynedi eithafion, fod cym- hwysderau Mr. Spencer i'r swydd weinidog- aethol, a bugeiliaeth eglwys Dduw, o radd uchel; fel y gallesid dweyd am dano ar ol ei farwolaeth, nid yn unig fod gweiuidog wedi marw, ond fod " gŵr mawr wedi syrthio." Gosodwn yn rhestr ei gymhwysderau fel y blaenaf a'r pwysicaf o honynt, ei dduwioldeb. Gwyddom nad yw pob Cristion yn gymhwys i fod yn bregethwr, yn ol ystyr arferedig y gair ; ond dylai pob pregethwr fod yn Grist- ion, ac i fod yn Gristion cyn bod yn bre- gethwr. Dylai fod yn credu cyn dechreu Uefaru, ac i lefaru, os llefara o gwbl, oblegid ei fod yn credu. Peth arswydus yw meddwl am ddyn yn pregethu heb ras yn ei galon— heb ffydd yn eigenadwri. Canfyddwn, wrth sylwi ar ddynion, dri dosparth gwahanol i'w gilydd, sef y rhai y gellir yn ddibetrusder benderfynu eu bod yn annuwiol, y rhai y mae eu duwioldeb yn amheüus, a'r rhai y teimlwn yn hollol hyderus am wirionedd eu crefydd. Credwyf mai yn y dosparth olaf o'r rhai a enwwyd y gwnelai pawb aadwaen- ent y Brawd Spencer ei osod ef, oddigerth ambell un o feddwl rhagfarnllyd, a chalon anngharedig. Yn ol a ddywedwyd yn j llythyr o'r blaen, ymddengys fod barn ffafr-