Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. IIhif. 475.] EBRILL, 1855. [Cyf. XXXVIII. COFIANT Y PÁRCH. JAMES SPENCER, LLANELLI. CAN! Y PARCH. W. HUCHES, CLANYMOR. Mae y teimladau a gynyrchir gan adgofion o'r rhai a adawsant y byd hwn yn gwahan- iaethu yn fawr, yn ol natur eu bywyd, a'r perthynasau yn y rhai y safent yn ystod eu harosiad yn mysg y byw. Nis gallasai mamau tyner Bethlehem a'i chyffiniau fyth annghofio yr adyn creulawn Herod Fawr, awdwr y galanastra trychinebus a'u hamddifadodd o'u rhai bychain. Ond yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng y teimladau a grëid ynddynt hwy wrth gofioam hwnw, a'r eiddo y gwrag- edd gweddwon wrth gofio am Dorcas, a Marthag;a Mair wrth gofio am Lazarus. Cofir am ryfelwyr glewion yr oesau a aeth- ant heibio, a'r oes hon hefyd, am amser maitli eto; a chofir tra y byddo byd am genadon enwog y groes, miíwyr da Iesu Grist. Ond bydd y teimlad a genedlir gan yr adgof yn wahanol ryfeddol. Cysylltir â choffadwriaeth y naill ddifrodau arswydus, maesydd wedi eu Uiwio â gwaed, dinasoedd dadfeiliedig.jj attaliad masgnachyddiaeth, a hyrddiad gwragedd a phlant i gyflwr o weddwdod ac amddifadrwydd; ac ag eiddo y lleill, danguefedd, cariad, rhinwedd, a ded- wyddwch. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Ac nid yw yn iawn—nid yw yn Gristionogol, i beidio ymdrechu sicrhau coffadwriaeth hir a pharchus i'r dynion da a gwerthfawr hyny a gysegrasant eu hunain i wasanaethu eu Duw a'u cenedlaeth, ag sydd yn awr yn gorphwys oddiwrth eu llafur. Yn mysg y rhai hyn mae ein hoff frawd Mr. Spencer, gynt gweiuidog y Bedyddwyr yn Llanelh, yr hwn yr amcenir dwyn i sylw darllenwyr y Serbn ychydig o grybwyllion yn ei gylch. Ganwyd gwrthddrych ein Cofiant mewn lle o'r enw Naid-y-march, gerllaw Tre- ffynon, swydd Fflint, yn y fl. 1812. Ei rieni oeddynt James ac Elizabeth Spencer. Nis gallwn lai nâ chyfeirio yn y man hwn at y tebygoliaeth gwladwriaethol oedd rhwng blwyddyn ei enedigaeth a blwyddyn ei farw- olaeth ; yr hyn, er nad yw yu dàl perthynas â'i hanes personol ef, oedd, er hyny, yn perthyn i'w amser ef, ac yn ffaith hynod a tharawiadol. Yr oedd y flwyddyn 1812 yn 19 adeg gyffröus a rhyfelgar yn Ewrop. Dyna y pryd- y cymerwyd Badajos gan Wellington, y cymerwyd Madrid, ac yr aeth Napoleon allan â thros haner miliwn o wyr i ymosod ar Rwsia; a dyna y flwyddyn 1854, wedi tua deugain mlynedd o heddwch, yn un o gyffro a thywallt gwaed arswydus, a Rwsia yn achos o'r aflonyddwch. Ond i ddych- welyd ; nid yw yn ngallu yr ysgrifenydd i ddweyd ond y peth nesaf i ddim am ein brawd ymadawedig cyn iddo gyrhaqdd deu- ddeg oed, heblaw ddartod iddo pan yn blent- yn bychan golli ei dad, trwy yr hyn y tafl- wyd y gofal o ddwyn amryw o blant i fyny yn gwbl ar y weddw. Canfyddir weithiau yn y plentyn hynodion sydd yn creu dys- gwyliadau am fawredd annghyffredin yn y dyn ; a diau fod llawer o brif enwogion' y byd â rhywbeth yn rhyfedd ynddynt pan yn blant. Dywedir am Baratier, ei fod pan yn bum mlwydd oed yn deall, pedair o ieith- oedd : y medrai pan yn naw gyfieithu un- rhyw ran o'r ysgrythyrau Hebreigi'r Lladin; a chyn bod yn ddeg, iddo wneyd Lexicon Hebraeg o'r geiriau anhawddaf. Ond ereill a-ddaethant yn ddynion gwir enwog, er eu bod pan yn blant yn ymddangos yn dra di- ffygiol. Mor bell ag wyf yn gwybod, nid oedd dim yn Spencer pan yn blentyn yn ei hynodi yn mysg plant ereill, oddieithr ci duedd neillduedig, ei duedd i fod witho ei hun, yn wahanol i dueddfryd chwareugar a chymdeithasol plant yn gyfl'redin. Dichon nad oedd hyny yn cael ei achosi gan unrhyw ddylanwad oddiallan, ond ei fod yn gyfan- soddiadol, ac yn naturiol ynddo ; ac felly yn ei nodweddu, i raddau mwy neu lai, trwy ei fywyd. Diangodd drwy hyny rhag llawer magl a themtasiwn ag y mae plant o duedd- iadau rhyddach a gwylltach yn agored iadynt. Clywais un peth tra chanmoladwy am dano fel dyn ieuanc, ag y byddai cystal ei nodi yn awr cyn myned yn mhellach—peth ag na fyddai yn iawn i adael iddo fyned heibio yn ddigrybwylliad, o herwydd ei fod yn arddangosiadol o garedigrwydd ei galon, ac-o'i ddwfn ystyriaeth o'i rwymedigaethau ; yn gystal ag yn eyflwyno i feibion a'merched