Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

...-. SEREN GOMER. Rhif. 473.] CHWEFROR, 1855. [Cyf. XXXVIII. HANES TREF CAERLLEON AR WYSG, HYD Y FLTODYN 1S36. CAN DEWI AB ARTHUR. Wrth ddechreu ysgrifenu traethawd ar Hanes Caerlleon ar Wysg—tref ag a fu gynt yn ddinas enwog ac anrhydeddus, yn arosfa rhai breninoedd coronawg, yu gyrchfa tywysogion brodorawl ynys Pry- dain, yn ymwelfa cenadau tramor, ac yn gladdfa i lawer teyrn a thywysog, yn or- saf rhyfelwyr dewrion, yn wersyllfa y byddinoedd Ilhufeinig, yn drigle esgöb- ion ac archesgobion, yn gawell i'r gref- ydd Gristionogawl, yn eisteddle dysg, ác yn le clodfawr mewn Uawer o ystyriaeth- au ereill—angenrheidiawl, debygwyf, yw rh'oddi ychydig o hanes am dani hi, trwy ddechreu mor foreu ag a allwn gasglu moddion ar faes hanesyddiaeth, am ei dechreuad a'i sylfaeniad; a hyny cyn belled ag mae awdurdod genym o'nblaen yn ysgrifenedig ac yn draddodiado]. Mae yn ddywenydd mawr genyf bob amser, wrth ddarllen hanesion am ddyn- ion, trefydd, a gwledydd, yn ynys Pry- dain, i weled ystyra gwráidd eu henwau, a rhesymau, os gellid eu cael, pahaui eu geJwid felly. Dr. Johnson a -ddÿwèdai, *' Enwau a roddir' i wahaniaethu dynion a phethau." Yn awr ymdreehaf, yn ol y tystiolaethau goreu ag ydynt yn fy ymyl, roddi hanes pwy a adeiladodd y dref dan fy sylw, ac hefyd rhoddi ystyr ei hcnw. Barna rhai awdŵyr rnai Dyfn- wal Moelmud a sylfaenodd ddinas yn y fan, neú yn agos lle y saif yn awr. Yr oedd ef yn byw oddeutu 400 mlynedd cyn geni Crist. Yr haneswyr Lladinaidd (ac mae Uawer o awdwyr Saesonig wedi eu dilyn) a'i galwant ef Mulmutius Dun- wallo; neu, fet arall, Dunwallo Muhnu- tius. Tebygwyf fod y Rhufeiniaid yn ben ar bawb yn' eu dull cywrain yn cyf- ieithu enwau lleoedd a phersonau, neu yn hytrach ÿn eu cyfnewid idd eu hiaith nwý. Achau Dyfnwal a olrheinir fel •' -7 ' ' hyn,—Dyfnwal ab Clydno, Iarll Cerniw, ab Cynfarch ab Prydain ab Aedd Mawr. EreiÚ, yn rhoddi eu sail ar dystiolaeth y " Trioedd," a'i galwant Dyfnwal ab Pry- dain; ond gan nad pa un sydd gywir am ei achau, sonir yn aml am dano mewn hanesion, ac yr oedd yn enwog am ei Iywodraeth ragorol. Y " Trioedd" a grybwyllant yn anrhydeddus am dano, ac a hysbysant mai efe a wnaeth ddos- parth gyntaf ar gyfreithiau, a deddfau, a defodau, a breinniau gwlad a chenedl y Cymry; a gelwir ef yn un o dri phost cenedí y Cymry. Efe a adeiladodd am- ryw ddinasoedd a threfjdd, yn mhlith y rhai y mae y rhai canlynol; sef, Malmes- bury, Tetbury, a Devizes. Teyrnasodd tua 40 uilynedd. Wedi byw yn anrhyd- eddus, efe a fu farw, aca gíaddwyd mewn teml ag oedd ef wedi ei hadeiladu yn Twynovant, sef Llundain, mewn lle a elwir yn awr «Blackwell Hall." Ond nid yw yn ymddangos i mi yn debygol, mai efe a adeiladodd Caerlleon ar Wysg • eithr gan ei fod yn frenin da, ac yn ddeddf- roddwr doeth, a llwyddiant yn ei ganlyn dros yr ynys, rhesymol yw mtddwl i Gaerlleon gynyddu yn ei amser ef, fel ag y barna Ilawer o haneswyr; gan hyny, nid yw yn ìhyfeddod i rai awdwyr briod- oli ei sylfaeniad iddo ef. Beli a Bran, däu fab Dyfnwal, ar ol marwolaeth eu tad, a gyd-deyrnasasant. Btili a reolòdd Lloegr, Cymru, a Cher- niw; a Bran yr holl dir tu draw i'r afou Huraber; a pharasant mewn heddwch â'u giìydd dros bum mlynedd. Ond çy- fododd annghydfod ac eiddigedd rhyng- ddynt, a chyhoeddodd Bran ryfel yn er- byn ei frawd Beli; ac wedi brwydro ych- ydig, collodd Bran y dydd, a ffôdd i Lydaw; eithr gwnaeth ararýw gýnýg- iadau wedi hyny i ddwyn tiriogaethau • ■•'•