Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 472.] IONAWR, 1855. [Cyf. XXXVIII. DYFYNIADAU 0 BREGETHAU AîsTGLADDOL Y DIWEDDAR MR, THOMAS JONES, ABERTEIFI, (GWEL " SEREN GOMER " AM FIS RHAGFYR UIWEDDAF.) " A'th gyoghor y'm harweini; ac wedi hyny Yr holiad cyntaf a ofynir braidd bob amser wedi i ni glywed am farwolaeth un yw, " Pa fodd y darfu iddo farw o ran ei brofiad ? A oedd arwyddion fod ei gyfiwr yn ddiogel ?" Ond yr ymholiad cyntaf a ddylai fod yw, " Pa fodd y bu efe byw ?" Yna, wedi cael gwybod hyny, bydd yn rhwydd dweyd pa í'odd y bu efe farw. Byw yn dduwiol a sicrha farwolaeth ddedwydd. Yr oedd gwas Duw yn y testun yn gwybod sut y darfu iddo fyw, ac yu gwybod gystal â hyny sut y byddai arno wrth farw. " A'th gynghor y'm harweini," dyna ei ddull o fyw; " ac wedi hyny y'm cymeri i ogoniant," dyna drefn ac ymddygiad Duw tuag ato yn ei farw. Mae bywyd pertfaith ac uniawn yn dibenu mewn tangnefedd. Wrth gynghor Duw yma y golygir ei ewyllys, ei feddwl, sef ei air santaidd. Mae y cynghor hwn yn diogelu y galon, yn llyw- odraethu y bywyd, yn dieuogi y gydwybod, ac yn cyfarwyddo i ddaioni. Sylwwn, I. Arymddygiad dyn da tuay at Dduicyn ei fywyd.—Mae yn cymeryd cynghor Duw yn arweinydd iddo ar y ddaear,—" A'th gynghor y'm harweini." Wrth sôn am ymddygiad dyn da, byddaf yn sôn am ym- ddygiad fy anwyl frawd ymadawedig. Un o rai rhagorol y ddaear ydoedd efe; un nad oedd y byd yn deilwng o hono. Canmol- odd ef grefydd yn ei fywyd ; mae ei rinwedd- au yn ei ganmawl yntau heddyw wedi iddo farw. . 1. Cymeredd gynghor Duw yn arweinydd bywyd iddo.—Mae dynion gyda gwahanol alwedigaethau yn ymofyn cyfarwyddyd. Mae gan y morwr ei chart a'i gwmpawd i'w gyfarwyddo i hwylio ei lestr; ac mae y teithiwr mewn lle dyeithr yn ymofyn ar- weinydd i'w gyfarwyddo. Pererin yw y Cristion yn y byd hwn; oddiuchod mae wedi ei eni; a'r Jerusalem, yr hon sydd uchod, yw ei fam. Mae Ueoedd perygíus, ac anialwch gwag erchyll, yn y byd hwn; ac mae yn anhawdd iawn myned trwyddynt y'm cymeii i ogoniant."—Salji lxxiii, 24. i'r nefoedd; wele wirionedd yn gyfarwyddyd. Un oddiuchod oedd ein hanwyi frawd Jones, a chymerodd gynghor Duw yn arweinydd iddo er ys rhagor nâ 40 mlynedd, pan y dechreuodd ar ei yrfa grefyddol. Dyma ei chart ar ei fordaith, y pilot i'w gyfarwyddu dros y bàr, a'r arweinydd a'i tywysodd trwy yr anialwçh. Fe'i harweiniodd heibio i feddau y blŷs, a chreigiau annghrediniaeth, heb gyfî'wrdd âg un o honynt, trwy gadw ar hyd llwybrau gwyliadwi iaeth a gweddi; ac er cymaint o groesffyrdd sydd yn y byd, ni roddodd ei droed amynt, ond cadwodd ganoi ffordd y gorchymynion. Yr oedd law yn llaw â chynghor Duw yn ei fywyd, lygad yn llygad âg ef ar ei yrfa, a nos Saboth olaf ei fywyd, yr oedd gôl yn nghôl â chynghor Duw yn afon angeu. 2. Ymroddodd yn ewyllysgar i gymeryd ei arwain gan gynghor Duw.—Mae rhai dyn- ion i'w cael gyda chrefydd megys o'u han- fodd. Mae rhyw amcan wedi eu dwyn at grefydd heblaw byw yn dduwiol, a gogon- eddu Duw. Maent hwy yn arwain crefydd y ffordd y mynont, yn Ue cymeryd eu hai - wain gan grefydd. Ond cynghor Duw a gaf- odd flaenori gan ein brawd, ac yntau yn cymeryd ei arwain ganddo. Nid cymeryd ei arwain dros ryw dymor ychwaith, hyd nes cwrdd à threialon chwerw a wnaeth ; ond fe a ymbriododd â chynghor Duw, i gydfyw er gwell ac er gwaetb hyd y diwedd. Yr oedu cynghor Duw iddo ef fel y cwmwl niwl a'r golofn dân i Israel; tfordd bynag yr elai y cyfryw, yr oedd Israel i ganlyn. Cynghor Duw oedd cyfarwyddyd ein brawd; ffordd bynag y byddai cynghor Duw yn myned—os ymostwng i'r ordinhadau, âi ar ei ol; os i'r ystafell weddi ddirgel, âi ar ei ol; os i gysegr Duw, âi ar ei ol; os cynghori, cyfranu, a bod yn Uetygar, yr oedd yn ei ganlyn Ue bynag yr elai; a phan ddaeth i lỳn cysgod angeu, yr oedd mor oleu, nee y medrai ganu yn hyderus yn nghanol ymchwydd yr afon dònog,—