Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEtt. Rhif. 469.] HYDREF, 1854. [Cyf. XXXVII. DAIMONIAID. CAN MR. EDWARD WILKS, MYFYRIWR.* Y pwnc y bwriedir ei drin ydyw, bodoliaeth, cymeriad, a dylanwad Daimoniaid, yn ben- odol yn ol fel y mae hyny wedi ei amlygu yn yTe^tament Newydd, heb gymeryd ar- nom ei ddilyn a'i drafod yn ei amrywiol gangenau; canys y mae swyngyfaredd, .heibiaeth, a dewiniaeth, yn nghyd a'r gleb- er ddiweddar am fwrdd-dröad a dôr-glap- iad yn cael eu priodoli i brwyaeth Satan- aidd; ond esgusodir ni am beidio olrhain y cyfryw yn bresenol. Ein hamcan yw nodi bodoliaeth a gweithrediadau Daimon- iaid, yn ol fel yr arddangosir y cyfryw i ni yn yr ysgrythyrau; pa rai, gan fod yn mhell oddiwrth gefnogi ofergoeliaeth, ydynt yn crybwyll yn fynych am feddiant cythreul- ig, a gweithrediadau cythreüliaid. Bydd i ni, wrth fyned rhagom, amcanu cyfarfod â gwrthddadleuon y rhai a welant yn dda i wahaniaethu oddiwrthym yn eu golygiadau, gan geisio eu dadbrofì. Wrth gychwyn, gan hyny, naturiol gofyn, Pwy, neu pa beth yw Daimoniaid y Testa- ment Newydd ? Ẃrth ateb, teimlwn ein hunain yn berffaith awdurdodedig, yn ol yr ysgrythyrau, i haeru eu bod yn ddealltwr- iaethau diledrith, ac nid dynsodweddau ar- eithyddol, neu dduwiau dychymygol y cen- edloedd, fel y golyga rhai. Mae bodoliaeth y Diafol yn feddylddrych a gyflwynir i'n sylw yn fynych yn yr Hen a'r Newydd Destamentau ; ac y mae fod y fath fodau a elwir " ei angylion " yn cael ei ddysgu i ni yn eglur yn y Testament Newydd. Os ydynt yr ysgrifeniadau cysegredig yn eglur a dealladwy ar unrhyw bwnc, y maent felly ar hwn. Llefarant am Ddaimoniaid, nid fel gwrthddrychau parch neu ofn y cenedloedd' ofergoelus, eit'hr fod eu bodoliaeth yn ffaith anwadadwy ac arswydus ; a phe gellid profi, yr hyn adybiwn sydd yn anmhosibl, nad yw yr amrywiol gyfeiriadau atynt yn cynwys dim mwy nag ymadroddion allegol am ddrwg moesol y galon ddynol, byddem yn ♦ Darllenwyd y Ddarlith uchod gan Mr. Wilks yn Ngbyfairfod Blynyddól Colég Pontypwl, Mai Main, 1854. 55 rhwym o uno â'r enwog Andrew Fuller, i ddywedyd fod yr ysgrifenwyr santaidd eu hunain yn alleg-ynfyd. Y mae yn ddiau yn cael ei defnyddio yn y Testament Newydd iaith ffigurol yn fynych wrth lefaru am Satan a'i îsafiaid; er hyny, nid oes anhawsdra mawr i ddeallyr hyn a gyflëir gan y fiìgurau, ac i wybod mai nid flìgur yw y meddylddrych gwreiddiol, ond fod drwyddynt yn cael ei ddesgrifio brif wrthwynebwr Duw, dyn, a dedwyddwch. Ystyriwn ein rhagosodiad yn eithaf diffynadwy yn ol tystiolaeth yr holl ys- grythyr yn gyfunol, neu ranau o'r ysgrythyr yn arbenigol. Pe gorestyngid tystiolaeth yr ysgrythyr i'r chwiliad ieithegol manylaf, byddai y canlyniad yn llawn mor foddhaol i bob meddwl diragfarn ag ydyw yr ysgrythyr fel y mae i synwyr cyffredin dynolryw. Ac yn sicr, y mae y ffaith anwadadwy fod holl dduwinyddion cred am yn agos i ddau cant ar bumtheg o fiynyddoedd o'r un golygiad, yn goelbrawf, os nid yn arbrawf, o rym an- wrthwynebol tystiolaet'h yr ysgrythyr ar y pwnc. Nid yw yr hysbysrwydd a roddir i ni yn ngair Duw am Ddaimoniaid ond go brin ; er hyny, y mae yn ddigonol, ac yn ddigonol eglur, i'n cynorthwyo i gael allan eu hanes. Mae cyfeiriadau mynych atynt yn y Testa- ment Newydd; eithr yn yr efengylau y dygir hwynt fynychaf ac amlycaf i sylw. Sylwedd yr hyn a ddysgir i ni am danynt yw, eu bod yn wreiddioí yn ysbrydion pur a santaidd, ac yn cael eu cyfrif yn mhlith y " tywysogaethau a'r awdurdodau" ydynt o flaen yr orsedd dragywyddol, a'u bod yn agored i aballiad (defectionj, iddynt syrthio o'u cyfiwr cyntefig, ac felly gael eu gyru gan eu Creawdwr cyfiawn a santaidd o drigfanau dedwyddwch, a'u gosod mewn cadwynau tywyllwch i farn y dydd mawr ; ond er hyny, fod iddynt ryddid, trwy oddefiad yr Anfeidrol, yn unol â'u tueddiadau maleisus eu hunain, i ymweled â'n byd ni, i hudo a phoeni yr hiliogaeth ddynol—i ddwyn yu mlaen ryfel barhaus yn erbyn Duw a dyn hyd yr adeg apwy ntiedig, pan y bydd iddynt