Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 466.] GORPHENAF, 1854. [Cyf. XXXVII. BYWYD AC AMSERAU CYSTENYN FAWR.* CAN MR. J. LEWIS, O COLEC PONTYPWL Nis gall hanes bywyd y dyn rhyfeddol hwn lai nâ bod yn ddyddorawl ac yn bwysig yn ngolwg y Cristion, os na fydd felly hefyd yn ngolwg y gwladwriaethwr. Fe allaì, yn wir, y teirala y gwladwriaethwr ddyddordeb wrth glywed hanes ei lwyddiant rhyfeddol, ei orchestion ysblenydd, a'i a!lu annghymharol fel y penaf o dywysogion dynol ; ond bydd yn fwy bnddiol i'r Cristion gael clywed hanes ci fywyd ef, o herwydd yn y cyfnod hwn, a íhrwy ei ymdrechion a'i ddylanwad ef, yr effeithiwyd llawei' o'r cyfnewidiadau mwyaf pwysig yn lioll hanes yr eglwys Gristionogol, canlyniadau pa rai sydd yn parhau hyd y dydd heddyw, a'r rhan fwyaf o honynt i achosi teimladau dolurus i lawer gwir Grist- ion, er bod effeithiau ei gyflawniadau milwrol, a'i allu bydol, wedi peidio cael eu teimlo er ys oesoedd bellach. Yr oedd Crist'onogaeth cyn y cyfnod hwn mewn cyflwr tebyg i eiddo ei Sylfaenydd Mawr—yr oedd mewn amgylchiadau isel yn y byd, heb na phryd na thegwch arni, fel y dymunai y mawrion, y doethion, a'r cyf- oethogion hi. Yr oedd yn agored i wawd a dirmyg y dysgedigion, i elyniaeth y byd, ac i erlidigaethau ei gelynion; heb ddirn idd ei hatnddiffyn ond ei galluoedd naturiol ei hunan, yn nghyd a gofal ffyddlawn ei Syl- faenydd Hollalluog. Ond yn awr, ni a'i gwelwn hi ar unwaith yn cael ei dcrchafu i sylw, i anrhydedd, ac i ddiogelwch bydol, trwy gael ei chofieidio gan y mwyaf gogoneddus a galluog o dywys- ogion dynol; a thrwy ei siampl a'i ddylan- wad ef, gan ereill, o urddas a mawredd, pa * Dnrllenwyd y Pdarlith uchod gan Mr. Lewis, Mai 24ain, yn nghyfarfod blynyddol yr Athrofa; ac un arall dranoeth yn Saesncg, gan Mr. Willcs, ar "Feddiant Cythreulig," yr lion a gailf ymddangos yn y nesaf. Gwrthbrofa hon gyhuddiad Mr. Eiddil Ifor, yn erbyn Athrofa Pontypwl, yn y Rhifyn di- weddaf, gyda golwg ar esgeuluso yr iaith Gymracg, Dywenydd yw gcnym fyncgi i'n cydwladwyr, fod mwyrif myfyrwyr yr Athrofa uchod a'u bryd i ddysgu yn drwyadl athroniaeth yr iaith wèn ; a'u bod yn derbyn pob cefnogaeth i hyny gan cu Hathrawon parchus, a chan y Pwyllgor.—Gol. rai a'i hystyrient yn anrhydedd i gael ymos- twng dan ei iau, ei hamddiffyn â'u hawdur- dod, a'i chynal a'i chyfoethogi trwy gyfranu eu trysorau iddi. Ilyd yma mae y cwbl yn ddymunol; ond rhaid i ni, wedi y cwbl, olrhain i'r cyfnod hwn ddechreuad a chyfod- iad pob peth sydd yn anmhur, yn fydol, ac yn ansantaidd, yn athrawiaeth, dysgyblaeth, ac ymarferiadau yr eglwys Gristionogol, fel y mae yn bodoli yn y cyffredin yn bresenol. Dyma yr amser y dechreuodd gael ei def- nyddio i ateb dybenion gwladwriaethol, pan y dechreuodd rhai ddyfod, gan ymgrymu iddi am ddernyn o arian a thamaid o fara (1 Sam. ii. 36); a chan ddywedyd wrth ei hurddasolion, " Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara ;" pan y cafodd ei throi o'i dyben eyntefig, sef achub ac ardderchogi yr enaid ag anrhydedd ysbrydol, ac iechydwriaeth dragywyddol, i fod yn foddion i foddloni blys mwyaf Uygr- edig y cnawd, ac i gyrhaedd pob peth ag oedd yn ddymunol o ddaioni tymorol, ac o atdderchogrwydd bydol. Y mae yn wir ddymunol i weled brenin- oedd yn dyfodyn dadmaethod, a breninesau yn dyfod yn fammaethod i Gristionogaeth ; oud nid oes gan neb sydd yn deall ac yn gwerthfawrogi ei hysbrydolrwydd, ei phur- deb, a'i heffeithioldeb hi, achos i lawenhau wrth ei gweled yn cael ei huno â'r, a'i gwneud yn ddarostyngedig i'r, wladwriaeth, beth bynag fyddo y manteision a'r urddas y dichon iddi gael oddiwrth y fath undeb. Pe buasai Cystenyn Fawr wedi dyfod yn Grist- ion, ac wedi defnyddio ei alluoedd nerthol, a'i ddylanwad goruchel, i ledaenu Cristion- ogaeth, uid ag arfau cnawdol, ond ysbrydoî, buasai ei droedigaeth yn un o'r dygwydd- iadau mwyaf gwynfydedig yn holl hanes yr eglwys Gristionogol; ond bai mawr Cys- tenyn, fel llawer un ar ei ol, oedd, meddwl fod ei gyfreithiau ef ei hunan yn fwy addas i lywodraethu, a'i allu ef yn fwy nerthol i gynal, ac i ledaenu Cristionogaeth, nâ'r rhai gosodcdig gan Dduw i'r dybenion hyny.