Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 403.] EBRILL, 1854. [Cyf. XXXVII. CYNGHORION I WEINIDOG IEUANC* GAN Y PARCH. E. THOMAS, ABERTEIFI. " Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth : aros ynddynt; canys os gwnai hyn, ti a'th geidw dy hun a'r rhai a wrandawant arnat."—1 Tim. iv. 16. Mab yr adnod hon yn cynwys un o gyng- horion " Paul yr henafgwr " i'w " fab anwyl yn y ffydd," Timotheus, yr hwn " a adaw- odd efe yn Ephesus, fel y gallai rybyddio rhai na ddysgent ddim amgen, ac na ddal- ient ar chwedlau, ac achau anorphen, y rhai gydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeil- adaet'h dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd." Cyfarwyddo ac anog y gweinidog ieuanc i " wneud felly " oedd dyben pwysig y cyng- horion hyn. Diameu eu bod yn dra dylan- wadol, gan eu bod yn dyfod oddiwrth Apos- tol ac henafgwr at ddyn ieuanc a feddai ar y syniadau uchaf am ei arweinydd, a phob parodrwydd blaenorol i wrandaw arno. Mae Paul yn anerch Timotheus fel ei fab ; a'i fabhefyd yn yr ystyr bwysicaf, sef ei fab " yn y ft'ydd." Felly yr oedd sefyllfa Paul a Thimotheus, gyda golwg ar eu gilydd, yn wahanol iawn i'r eiddot ti a finau, anwyl frawd. Pan mae Paul yn cynghori Timo- theus, mae un o radd uwch yn cynghori un o radd îs ; canys yr oedd ef yn apostol, tra nad oedd Timotheus ond efengylwr ; ond yr ydym ni yn hollol gydradd, ac mewn sefyllfa i gynghori ein gilydd yn gystal ag y gall y naiíl gynghori y llall. Er hyn, dichon i air o gynghor fod yn fuddlol; ac os bydd y cynghor ei hun yn deilwng, ac yn cael ei roddi a'i dderbyn yn yr ysbryd y dylai, dios y hydd felly. Gan hyny, fe grefir dy sylw tra y dygir ger dy fron yr ystyriaethau can. lynol:— I. Sylwaar ddybenpwysig âÿ weinidog- aeth. II. Ar y dyledswyddau sydd i ti i ymes- tyn atynt er cyrhacdd y dyben hwn. Ond, yn gyntaf, dyben dy weinidogaeth.— Mue hwn idd ei w^eled yn amlwg iawn yn y y testun, sef cadw—cadw hunau ac ereill; " ac felly ti a'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat." Gallwn sylwi ar hyn, 1. Mai cadw yw y dyben pwysicaf a all * Sylwedd Pregeth a draddodwyd yn Nghapel y Graigi -Castellnewydd Emlyn, Rhagfyr 2/ain, 1853, ar neillduad y Brawd John Owen, Athrofa Hwlffordd. 19 fod byth gan ddyn, ac yn ngolwg angel. Gallwn ddweyd mwy,—dyma ddyben penaf Duw ei hun. " O holl weithredoedd Nef yn un, V benaf oll oedd cadw dyn." Cynllun achub yw dyfais yr holl ddyfeision ; cadw enaid yw dyben yr holl ddybenion ; ac anfoniad y Mab i'r byd " i geisio ac i gadw yr hyn a golîasid " yw gweithred fawr yr holl weithredoedd. Yr amcan mawr hwn sydd yn dangos i ni wybodaeth yr Hollwy- bodol, gallu yr Hollalluog, a nerthoedd tos- turi y Duw y dywedir mai " cariad yw." I'r dyben hwn yr " ymofynodd ac y manwl- chwiliodd y prophwydi," ac ar y pethau sydd ynddo " mae yr angylion yn chwenych ed- rych." Nid ydym am ddiraddio dybenion ac amcanion ereill; ond yr ydym yn tybied fod pob dyben yn myned o'r golwg yn ymyl y dyben ardderchog hwn—cadw enaid. Mae ctiwilio i ddirgelion natur yn ddyben pwysig, ac yn orchwyl buddfawr ; mae gen- ym barch mawr i, a meddyliau uchel am, y rhai sydd yn raesur a phwyso y ddaear, yn egluro treigliadau y planedau, ac a esboniant ogoniant a mawredd yr haul. Yr ydym yn cydnabod dybenion pwysig, a clrylchoedd uchel, breninoedd, gwîadyddwyr, meddygon, ac athronyddion ; ond mae mwy o ogoniant a phwysigrwydd mewn ymdrech un dyn, trwy yr efengyl, i gadw enaid pechadur arall, nag sydd yn holl amcanion a gweithredoedd creaduriaid ardderchocaf y ddacar a'r nef- oedd. Cadw enaid oedd yr unig ddyben y rhoddodd Duw ei Fab i'w gyrhaedd; ac os hyn yw dyben penaf Duw, rhaid mai hwn ddylai fod dybeh penaf dyn i'w gyrhaedd. 2. Dyma unig ddyben yr efengylfendig- edig.—" Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur: y ncb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig ; eithr y ncb ni chredo a gondemn- ir." Marcxvi. 16. Niphregethid yr efeng- yl i bob dyrt pe na buasai yn ddyledswydd ar " bob dyn yn mhob man i edifarhau;" ond yr ydym\yn gweled yraa fod yr efengyli gael ei phregethu i bob creadur, fel y byddo i bob creadur gredu, a bod yn gadwedig. Trwy edifarhau mae cael maddeuant, ac felîr