Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEli. Rhif. 462.] MAWRTH, 1854. [Cyf. XXXVII. PREGETH, Â DRADDODWYD I EGLWYS Y BEDYDDWYR YN MHENUEL, CASLLWCHWR, AR NEILL- DUAD Y BRAWD D. PHILLIPS YN FUGAIL ARNI. CAN Y PARGH. DANIEL DAVIES, ABERTAWY- " Ha wyr Israeliaid, cynorthwywch."—Actau xxi. 28. Mae gwahaniaeth hanfodol rhwng rhoddi dau ystyr, sef llythyrenol ac ysbrydol, i'r Ysgrythyrau Santaidd, a dethol brawddegau tarawiadol allan o honynt fel arwydd-eiriau, i gyfleu ein syniadau ar bynciau hollol wa- hanol i'r rhai a drinid gan awdwyr y brawdd- egau hyny. Nis gellir gwneuthur y blaenaf heb fod mewn perygl o vVyrdroi gair yr Arglwydd ; ond mae yr olaf yn cael ei arfer gan ysgrifenwyr o chwaeth ac athrylith ; ac yn eu plith mae yr ysgrifenwyr ysbrydoledig yn rhoddi amrai enghreifftiau o'r arferiad. Caniatêwch, gan hyny, i minau ddilyn y cynllun hwnw ar yr achlysur presenol. Ẅele gyrahelliad yn cael ei roddi gan ddyn- ion drwg, dan lywodraeth nwydau drwg, i ddynion drwg ereill idd eu cynorthwyo yn un o'r gweithredoedd gwaethaf a allasai dyn gyflawni, sef ceisio diffodd goleuni y cenedl- oedd, ac attal cylchrediad afon bywyd trwy erchyll fro marwolaeth. Yr oedd pregethu Crist i'w genedl ei hun yn dramgwydd i'r luddew ; ond pan bregethid ef yn oleuni i'r cenedloedd, ac yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear, yr oedd yn cynddeiriogi ac yn colli pob ymbwyll, fel un wedillwyr wallgofi. Yr oedd gwaith Paul yn pregethu fod y cenedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd- gorff, ac yn gyd-gyfranogion o'i addewid ef yn Nghrist trwy'r efengyl, wedi cyffroi rhag- farn, cenfigen, a malais y genedl Iuddewig yn f'wy yn ei erbyn ef nâ'r lleill o'r apostol- ion ; am ei fod ef mewn modd mwy arbenig yn apostol y cenedloedd, ac yn llafurio mwy yn eu plitb. Am hyny, pan gawsant ef yn Jerusalem ar un o'rgùyliau blynyddol, hwy a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylaw arno, gan lefain, " Ha wyr Israel- iaid, cynorthwywch." Ond yn ofer y gwaeddent am gynorthwy, oblegid hawddach íuasai iddynt attal llanw y môr, rhwystro .cylchdro y ddaear, neu guddio yr haul, na cliyfyngu cariad Duw, aberth Crist, a gras yr efengyl i hâd naturiol Abrabam ; gan fod 13 y Goruchaf wedi rhoddi, trwy lŵ, y cenedl- oedd yn etifeddiaeth, a therfynau y ddaear yn feddianti'r Brenin a osodasai efe ar Seion ei fynydd santaidd. Yn ofer, gan hyny, y llefent hwy, " Ha wyr Israeliaid, cynorth- wywch ;" ond pan y mae gueision Crist yn ymdrechu llenwi y ddaear d gwybodaeth a gogoniant yr Arglwydd, a thaflu goleuni yr efengyl ar holl gysgodau marwolaeth, mae ganddynt addewid y digelwyddog Dduw, na fydd eu llafur yn ofer, na'u hymdrechion yn afiwyddiannus. " Gogoniant yr Arglwydd a ddadguddir, a phob cnawd yn nghyd a'i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn." Esa. xl. 5. Gan fod genym y fath gefnogaeth, y mae genym ysbryd i weithio, a chalon i lei'ain raewn hyder ar ein brodyr, " Ha wyr Israeliaid, cynorthw'ywch." Er fod ein uerth a'n digonedd ni o Dduw, nid ydym wedi ein gwneuthur yn annibynol ar ddynion. Y mae ein defnyddioldeb a'n llwyddiant yn ymddibynu, i raddau helaeth, ar gyd-ymdrech aelodau yr eglwysi sydd dan ein gofal. Er fod y canwyllau wedi eu gwneuthur a'u goleuo gan law oruwch-nat- uriol, y mae y canwyllbrenau, sef yreglwysi, sydd yn cynal gair y bywyd, yn angenrheid- iol i'n dala i fyny, er rhoddi mantais i'r byd weled ein goleuni. Er fod y fuddugoliaeth yn cael ei rhoddi i Israel trwy dderchafiad dwylaw Moses, yr oedd yn angenrheidiol cael Aaron ac Huriddìd ei freichiau ; am hyny, " Ha wyr Israeliaid, cynorthwywch." Os ydym wedi bod yn llwyddiannus i enill eich sylw at y deisyfiad a gyflwynir genym, ac os ydych yn teimlo un jiarodrwydd i gyd- synio à'r cais, tybiwyf fod tri o ofyniadau yn ymgodi yu naturiol yn eich meddyliau :— I. Pa fodd y gallwn gynorthwyo eiu gweinidog ? II. Pa hawl sydd ganddo i ofyn am eiu cynorthwy ? III. Os cynorthwywn, pa fantais a fydd hyny i ni ?