Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

,- SEREN GOMER. r hif. 461.] CHWEFROR, 1854. [Cyf. XXXVII. WFIÀNT Y PARCH. HENRY EVANS, CÁERFYRDDIN. CAN Y PARGH. H. W. JONES, TABERNACL ■' 1 Ow 1 'madaol wnaeth pob mwynder, daeth arnaf drymder dwys,— Mae 'mhrtod yn y dyfnfedd, yn gorwedd dan y gwys; Mi ofnais íil o weithiau yr hen ergydion hyn: A ofnais a ddaeth arnaf—gweddiaf ar Dduw gwyn."-rrCrWEDDW. «ìrifenu BuchdraetbyO fÿwydau ein cy- lion a'n hanwyIia*cP^&iadiiwedig o'r byd ,n i dragywyddoldeb, sydd" waith rhwydd a naturiol gan y byw i'ẁ gyfiawni, er mwyn talu teyrnged o barch i gymeriadau rhin- weddol y meirw, ac ymgynyg at enill eu gor- fucheddwyr i yfed o'u hysbryd, a'u hefel- ychu yn eu rhagoriaethau crefyddol. Gwedi eu colli o'n cymdeithas—eu cadeiriau yn wag yn y teulu ac yn yr eglwys—eu lleoedd nid edwyn hwynt mwyach; ac wedi gosod eu cyrff ì orwedd yn y bedd, yr hwn a elwir yn "dir annghof;" eto, teimlwn awyddfryd cryf i gadw eu henwau yn barchus yn ein cof; a phan y meddyliom am nerth y teim- lad hwn, gallwn dystiolaethu y byddant mcwn coffadwriaeth tra dalio cof ei orsedd. Treigliadau a dygwyddiadau Rhagluniaeth a effeithiant yn rymus, ar raiachlysuron, i ddi- leu argraffiadau cryfion, ac i'w claddu mewn ebargofiaeth ; ond ni ddilëir gwrthddrychau ein serch fyth o'n cof. Bodolant yn ein meddwl, a byddant' fyw yn ein teimlad, er pob peth. Mae eu cofion yngydwèedig â'n bodoliaetb. Dywedir fod y dyfroedd, drwy ddisgyniad cyson a pharhaus, yn treulio y ceryg; ond damweiniau bywyd, pa un ai llawen ai trist, ni ddilcasant Rahel o gof Jacob, y plant o deimladau Rahel wylofus, na'r gwr o gofion y weddw, yr hon yn alarus a gŵynai, " Mi gollats ddarn o'm calon, Mi gefais loeson lu, Pan aeth fy mhriod hawddgar I lwch y ddaear ddu." Mae y teimlad hwn yn naturiol a chanmol- adwy. Cydgordia ag iaith yr ysgrythyrau, —"Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwr- iaeth." Salm cxii. 6. Ni orchuddir hwynt gan ddirmyg a chabledd y gelyn, ond ym- ddysgleiriant fyth fel yr haul. " O, melus yw'r Uawenydd sydd Yn fynych yn fy enaid prudd, Wrth féddwl am y brodyr «u A acth i'r fro ncfolaidd iry." ■7 Gwrthddrycb^cin sylw yn bresenol yw, ein hanwyl frawd Henry Evans, pregethwr cynorthwyol yn y Tabernacl, Caerfyrddin. Brodor ydoedd o'r dref hon. Ganwyd ef yn Heol-y-Prior, yn y fiwyddyn 1800. Ei rieni oeddynt Thomas ac Ëlizabeth Evan&. Dilynai ei dad yr alwedigaeth o lifio coed. Gan mai felly oedd amgylchladau ei rieni, gorfu iddo ef fyned yn lled ieuanc i wasan- aethu; a bu yn was yn y Pantau, Penlau, Bwlchgwyn, a Nantbendigaid; a rhoddodd foddlonrwydd neillduol i'w feistri yn mhpb un o'r lleoedd hyn. Pan yn gwasanaethu. yn y lle olaf, cadwedigaeth ei enaid a wasgai yn ddwys ar ei feddwl, a phenderfynodd restri ei hun gyda chanlynwyr yr Oen. Hyd yr amser hwn, yr oedd gwrthddrych ein Cofiant yn arferol o wrandaw yr efengyl rai gweithiau gyda'r Methodistiaid, a mwynhâi y weinidogaeth yn eu plith. Canfyddodd y brodyr hyn fod gair Duw yn effeithio ar Henry, a chymhellasant ef i uno â'u cym- deithas. Er ei fod ef yn barchus îawn o honynt hwy, ac yn caru bod yn eu cyfarfod- ydd a'u cyfeillachau, eto nis gallasai uno â hwynt, o herwydd ei fod yn Fedyddiwr o farn, ac y teimlai nas gallasai fod yn gefnog- wr mewn un modd i daenelliad babanod. O ganlyniad, penderfynodd fwrw ei goelbren yn mhlith y Bedyddwyr yn Ffynon-Henry ; ac yn y flwyddyn 1823, bedyddiwyd ef ar broffes o'i ffydd yn Nghrist gan y Parch. David Evans, gweinidog y lle. Ei oedran yn cymeryd iau Crist arno oedd tair mlynedd ar hugain. Dechreuodd ei daith grefyddol yn nerth a bywiogiwydd ei gyfansoddiad, a rhoddodd hufen ei fywyd i wasanaeth ei Brynwr. Ei ofid oedd, na fuasai wedi dech- reu yn foreuach. Gwedi uno â'r eglwys uchod, cymhellwyd ef ar unwaith i gyflawni gwahanol ddyledswyddau y cylch crefyddol; ac yn fuan cafodd ci anog i weddio yn gy- hoeddus. Peth da yw plygu crefyddẃyr ^fêuainc at y ddyledswydd hon ar ddechreu