Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN Rhif. 460.] IONAWR, 1854. "Cyf. XXXVII. 'TY ADDÜLIAD STEPNEY. GAN Y PABCH. W. ROBERTS, BLAENAU. Y Ty Addoliad uchod sydd gynllun gwel- edigo'r hyn oedd yn ateb oreu i'r YmneiH- duwyr yn amser erlidigaeth Siarl yr Ail. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1G74 ; sef yr amser yr oedd Siarl wedi tynu llinyn erlid- igaeth mor dỳn, nes oedd yn mron a thòri. Wedi iddo gael dyfod i'r orsedd trwy addaw pob rhyddid a goddefiad, dechreuodd erlid, er mor dêg oedd ei addewidion, can gynted ag y gallodd gael pethau yn barod. Gwnaeth Ddeddf yr Unffurfiad, yr hon a droes allan dros ddwy fil o'r dynion goreu a feddai y deyrnas; a gwnaeth ddeddfau drachefn er gallu difodi Ymneillduaeth o'r tir, fel y tybiai ef. Gwnawd ÿ Conventicle Act yn 1664. Yr oedd yr Act hon yneynwys gwa- haiddiad i bumpjo bersonau (heblaw teulu y tj') fod yn bresenol mewn unrhyw dŷ. Os delid y nifer uchod o hobl, heblaw y teulu, mewn tŷ, caenteu gwysio oll, euprofi, athri mis o garchar, neu dalu pum punt o ddirwy bob un. Os ceid htty'mor rhyfygus a dyfod yr ail waith i'r fath le i addoli eu Duw, y gosb oedd chwe mis o garchar, neu ddeg punt o ddirwy ar bob un o honynt. Os dygwyddai iddynt ddyfod y drydedd waith, yr oedd y gosb yn saith mlynedd o alltudiad, Reu gan punt o ddirwy. tíefyd-, nid oedd- ynt yn cael eu profi yn y dull arferol, a rheithwyr i farnu eu bod yn euog neu yn ddieuog; dim ond Hw y cylmddwr oedd.yn ddigon i'w condemnio. Hefyd, adnewydd- wyd hen Act oedd wedi ei gwneud yn amser Elizabeth, yn yr hor. yr oedd alltudiaeth an\ beidio myned i'r Eglwys. Yn y flwyddyn 1665, y gwnawdDeddf y Pum Milltir. Cy^. nwysai hon fod yn rhaid i'r enwogion oedd , wedi gadael eu heglwysi, ar ol rhoddi Deddf yr Unflnrfiad mewn grym, beidio myned o fewn pum milltir i'r lleoedd y buasent yn gweinidogaethu yn flaenorol; nac ychwaith i unrhyw dref fwrdeisiol; nac ychẁaith i unrhyw le y buasent gynt yn pregethu yn achlysurol. Gwelir mai dybenion melldig- edig y ddeddf hon oeddynt, yn laf, Ceisio gorfodi y pregethwyr enwog hyny i gydym- ffurfio â'r Eglwys, trwyeunewynu. Tybid, ond eu gorfodi i fyned yn ddigon pell oddi- wrth y rhai a arferent fod yn bobl eu gofal, na fuasai y rhai hyny yn cydymdeimlo â hwynt, nac yn eu porthi hwy, na'u pìant anwyl; gan hyny, y buasai raid i'r pregeth- wyr edrych ar eu gwragedd a'u plant mewu eisieu ymborth, neu gydymff'urfio yn ol y ddeddf. Gofidus yw meddwL|gd yr ystryw- iau hyn wedi taflu llawerpregethwr enwog. a'i deulu anwyl, i gyflwd.o eisieu ymborth ; ond hyfryd yw meddwl, na ddarfu iddynt, er hyny, gydymffurfio. Yr ail ddyben oedd, gwahanu y pregethwyr oddiwrth bobl eu gofal, fel na phregethent iddynt. ac ita chy- •surent hwy, er mwyn i'r bobl fyned i'r Ej*>