Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Hhif. 458.] TACHWEDD, 1853. RHYDDID. [Cyf. XXXVI. LLYTHYR. XXI. VCAN Y PARCH- O. MtGHAEL, PONTAROCWY. " Y creadur yn ocheneidio am ryddid plant Duw." àr yr ail o Fai, bu i hap gyfarfod â Siarls, yr hon a hwbiodd bethau tua'r terfynedd; er holl ofalwch Warwic gyda'rllynges, glan- iodd y llong Promdence, oddiwrth y fren- ines o Holaud, ar ororau swydd Gaerefrog, yn llwythog o gadgyinhorth i'r brenin. Yr oedd ynddi un-ar-bymtheg o gyflegrau, a digonedd o arfau mân, powdwr, &c. Pe buasai hon, neu ei chyffelyb, wedi tirio yn gynt, buasai ei fuwrhydi wedi ceisio ystormio Hull. Fodd bynag, dechreuodd fi'rochi yn uniongyrchol. A'r cnciliad seneddol eto a ddechreuodd chwyddo yn genllif cryf; yn enwedig o Dŷ yr Arlwyddi. O ba herwydd, oymerodd y Cyffredin eu penderfyniad; gwysiwyd naw o'r arlwyddi enciliedig penaf i ymddangos yn uniongyrchol yn eu lleoedd ; eithr hwy, yn dra ffromllyd, a wrthodasant ymostwng. Yn y fan, anfouodd y Cyffredin Denis Holis, ag attalgwyn {impeachment), yn eu herbyn i Dŷ yr Arlwyddi. Holis, ar y pryd, a daflodd dros amcanion peryglus y brenin a'i blaid i ddifodi y Seneddr, dar- «stwng rhyddid y wladwriaeth, cyfodi, efall- ai, Seneddr arall o'r gorthrymwyr, &c, a hysbysodd eu harlwyddiaethau mai yn awr oedd y pryd i sefyll yn wrol yn yr adwy, ac attal y pla. Ni bu i ungwr, braidd, bleidio y gwrthgiliedigion; ond gwisgodd eu har- lwyddiaeth eu breniuwisgoedd, a dedfrydas- ant hwy i golli byth eu lleoedd yn y Tŷ, pob braint Seneddol, a'u carcharu am yr yspaid penderfynedig gan y Parliament. Ar yr ail o Fehefin, anfouodd y Cyffredin arch- eb, yn cynwys pedwar ar buuitheg o osod- ebau, at ei fawrhydi, â'r rhai y gofynid ei gydsyuiad, os mynid ymheddychiad. Yr oedd yr holl osodebau yn ffurfiedig ar yr egwyddor o gydblethu awdurdod y ddau Dŷ o Seneddr gyda breiniau y goron, yn ol deddf " Archeb yr Iawnderau," megys, fod gweinidogion, a chyfrin-gynghorwyr ei fawr- hydi yn wyr cyfrifadwy i'r Seneddr a'r wìadwriaeth, oddiar bwysigrwydd eu llwon ; cu bod hwy, yn o gystal ag ymgelcddwyr y Cl plant breninol, yn ddewisedig gan ei fawr- hydi drwy gydsyniad Seneddol; y dylai et fawrhydi edrych yn barchus ar ddeddfau a fyddent wedi myned drwy y ddau Dŷ, arwyddo y cyfryw, neu roddi rhesymau eg- lur paham ; fod gan y Seneddr awdurdod (ac y dylid myned at y pwnc yn ddiymaros), yn nghyd a dymuniad ei fawrhydi, i chwilio i, a threfnu yn well, amgylchiadau yr eg- lwys ; fod gan y Seneddr, a hi yn unig, hawl i gospi ei haelodau anufydd ; mai drwy gydsyniad Seneddol y gallai ei fawrhydi gy- fodi milwyr; y dylai ddadgorífori ei giard bresenol, &c. Atebwyd yr archeb yn nac- äol, a hyny gyda'r fl'rom falchaf. A Siarlsa daflodd i'w gwynebau, mai plaid o gywraint ddadleuwyr (cabalists) a bradwyr, oeddynt, yn ymgyfarfod i ddadymchwel deddfau hen a duwfreiniol, ffurfio teyrnffurfiau newyddion, &c; ac mai annheilwng o fri teyrn fel efe, a ddisgynai o'r fath hirlinach freninol, oedd bradychuei deyrnddwyfoliaeth, ac ymdaflu i gyflwr gwasaidd y Doge o Venice.* Wel, nid oedd, erbyn hyn, i'w wneuthur ond taflu ysgrifellau, teyrngríou, archebion, &c, i blautos y barcutan papyr, a dadweinio y cleddyf, miniedig yn barod. Yn uuion- gyrchol, Siarls a anfonodd ei gad-ddirprwy ar hyd a lled y gwledydd, er benthyca arian am wyth y cant, ar wystl y ff'orestau bren- inol; a chasglu meirch, porthiant, gwŷr, ar- fau, &c. Adgofid y bobl o'u rhwymau i'r goron, ofnadwyoldeb teyrnfradwriaeth, &c, a gwelwyd, yn fuan, fod gan ei fawrhydi blaid gref. Yr eglwyswyr, y prif ysgolion, mwyrif y bonedd, y rlian fwyaf o'r gwreng (gŵr-ëang, freeman, freeholder, yw ystyr yr enw yn y fan hon), ag oeddynt belledigion oddiwrth y llys, a ymrestrasant o blaid y brenin. Yr oedd costogrwydd haner-phari- seaidd y Puritaniaid, hefyd, yn gyru pob gŵr balch, Ilawen, afradlaẁn, &c, o du ei * Swyddog etholedig oedd hwn, yn amser Gwer- iniaeth y dref cnwog hono, unwai'tìi, tehyg i Lyw- ydd yr Auierig yn a«r.