Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, Rhif. 457.] HYDREF, 1853. RHYDDID. [Cyf. XXXVI. LLYTHYR XX. CAN Y PARCH- O. MICHAEL, PONTAROCWY. Y creadur yn ocheneidio am ryddid plant Duw." "Ya ydych," meddai y dyn ddoe, " yn cymeryd llawer o drafferth, cost, a phoen gyda phethau fel hyn." " A phleser," meddai Ann, fy merch. " Pa fantais i fyw yn y byd hwn, neu yn nhragywyddojdeb, yw pethach fel yna ?" ebai y dyn. " Dim, Syr," ebwn inau, gan deimlo fy ngwaed yn twymno at fy hobi, " i ddyn o'ch damfwriad chwi, dim; nid oes' 15, na 10, na 5 punt y cant yn deilliaw oddiwrtho ;—ac am dragywyddoldeb, gwell i un o'ch tymher chwi ochelyd myned i'r wlad hono, am nad oes yno fantais elw diswta (guicí return), fel yn y byd hwn; dim onâ myfyrio ar bethau a fu raewn miloedd o hen oesoedd ar y ddaear—wedi myned heibio; ac, efallai, fydoedd ereill—byth, byth, byth." A chan droi ar fy sawdl, gadewais y dyn, yr wyf yn dirgel gredu, yn erfyn ar y Bôd tragywyddol i'w waredu ef rhag byth fyned i'r fatb le a thragywyddoldeb. Pan welodd Siarls, druan, y miloedd Buckiaid yn derchafu eu penau brigog oddi- amgylch Castell Windsor, a nertholdeb y Seneddr yn diogelu y " pum aelod cyhudd- edig," yn nghyd a'r Arlwydd Kimbolton, efe, yn Üed ffrochog, a dynodd ei gyhuddiad yn ol; eithr y ddau Dŷ a anfonasant ato, na fynent ryw chwarae felly, ond am iddo fyned yn y blaen gyda'r cyhuddiad. Yntau a gynygiodd faddeuant rhad ; eithr y Sen- eddr a'i rhoddodd ar ddeall, raai lol oedd sôn am bardwn cyn iddo brofi ei bwnc. Ionawr I2fed, 1642, ymledodd y newydd fod y brenin wedi awdurdodi Cyrnol Lands- ford, a'r siwmp-chwylydd, yr Arlwydd Dig- by, ac ereill, i grynhoi milwyr yn Nghing- fiton-ar-Dafwys, man lle yr oedd arfdy swydd Surrey. Gorchymynodd y Seneddr i'r siryddion a'r ynadon eu gwasgaru drwy gymbortb y cartreflu, a diogelu yr arfdy. Anfonwyd yr un gorchymyn i bob man 55 arall; ffôdd yr Arlwydd Digby dros y môr, a charcharwyd Lundsford yn y Tŵr. Ar hynyna, cynygiodd y brenin osod dau gant o fiíwyr cartrefol dan arolygiaeth Iarll Lind- say, er diogelu y Seneddr ; ond, gan fod yn ddisylw o'r cynygiad, y Seneddr a ddiogel- odd ei hun, yn ngofal dau gwmni o filwyr y Ddinas, dan olygiaeth y Cyrnol Skippon. Gorchymynwyd hefyd, i Iarll Newport, Meistr y Gyfiegrfa, a Lifftenant y Tŵr, ddi- ogelu y fangre hono, ar dir a dwfr, rhag tros- glwyddo arfau o hono ; a sefydlwyd pwyllgor i ddyfeisio y ffordd oreu er diogelu y deyrnas. Pan oedd pethau fel yna ar danio, daeth y Dirprwy Ysgotaidd yn mlaen i gynyg cyf- lafareddu rhwng ei fawrhydi a'r Seneddr. Siarls a ysgrifenodd atynt, am iddynt ofalu am eu gorchwyl eu hunain, apheidio ymyrid â'i ymgipris personol ef a'i Sencddr. Ónd y Seneddr a bfenderfynasant, ac a anfonasant Syr Philip Stapleton i fyuegi eu bod hwy yn derbyn eu cynygiad, gyda'r diolchgarwch gwresocaf. Y canlyniad fu, anfon dwy fil a haner o filwyr Ysgotaidd i gymhorth y Pro- testaniaid i ddarostwng gwrthryfel yr Iwerdd- on. 'Gweithred groes i deimladau ei fawr- hydi oedd hon yna ; canys, gan fod Protest- aniaid y wlad hono yn gymaint Puritaniaid â gwyr Prydain, yr oedd Siarls yn ceisio rhwystro yn mhob ffordd i Brotestaniaid fyned yno; ac yn cefnogi Pabyddion y ddwy wlad i fyned drosodd, er cynorthwyo y fyddin wrthryfelgar, yr hon a ymgyfenwai, erbyn hyn, yn fyddin y Frenines, ac a ym- ffrostient mai eu hamcan oedd, amddiffyn crefydd ei mawrhydi, a diogelu breintiau y brcnin yn erbyn Seneddr Buritanaidd Lloegr. Yr oedd ei fawrhydi hefyd wedi awdurdodi yr Arlwydd Digby, ar ei ffoedigaeth, i gyfodi cymhortb tramor; er ei fod, ar yr un pryd, yn ymwenieitho i'r Seneddr, os crynhöent eu cwynion gwladwriaethol i un cyfangwyn, y byddai iddo ef eu symud yn ddioedi. Ond yr oedd llygaid a chlustiau y Seneddr yn rhy