Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Hnir. 454.] GORPHENAF, 1853. R H Y D DID. LLYTHYR XVIII. , CAN Y PARCH. O. MICHAEL. [Cyf. XXXVI. " Sut yr oedd hi yn Ysgotland ar y pryd y soniasocli ara dano ?" raedd y darllenydd ymofyngar. O ! yr oeddynt yn myned yn mlaen nerth pen, calon, a braich yno. Ar yr ail o Fehefin, ymgynullodd Seneddr y Cyfamodwyr, heb ofyn i'r awdurdod frenin- ol; a dechreuodd daenu teyrngr'ion drwy Ysgotland a Lloegr, y rhai oedd yn cael llawer iawn rawy o sylw nag eiddo_ ei Fawr- hydi. Yr oeddynt wedi dechreu adgasglu eu byddin er mis Mawrth ; yr oedd y swydd- ogion milwraidd, y rhai oeddynt wedi myned i'r Cyfandir ar ol heddwch Berwic, wedi dychwelyd, ac wedi cymeryd eu lleoedd yn y fyddin, a Leslie wedi ei wneuthur yn faes- lywydd ; fel, erbyn hyn, yr oeddynt, nid yn unig yn alluog i amddiffyn eu hunain, ond i wneuthur yr ymosodiad cyntaf. Yr oeddynt wedi- sefydlu pwyllgor parhaol i arolygu yr holl gadgyrch ; ac wedi penderfynu fod deg- wm yr holl ardrethion, a'r ugeinfed geiniog o bob llog, i fyned at gynal y rhyfel. Dech- reuasant yr ymosodiad drwy warchae ar gastell Edinburgh ; a chan fod Ruthven, ìlywydd y castell, yn dàl yn ystyfnig, Leslie a adawodd ofal y gwarchae i swyddogion ereill, ac a ddechreuodd ei daith fuddugol tua Lloegr—cleddyf yn un llaw, ac archeb y breiniau Ysgotaidd yn y llaw arall. Yr oedd Siarls wedi anfon yr Arlwydd Conwey, llyw. ydd y gwyr meirch, gyda byddin o wyr traed a gwyr meirch, i wrthwynebu Leslie ; ac efe a wersyllodd rhwng yr afonydd Tweed a'r Tyne yn mis Gorphenaf. Dechreuodd Siarls ei daith tua Chaerefrog ar yr 20fed o Awst; ac yr oedd ei fyddin yn ugain mil o nifer, yn nghyd a thri ugain o gyflegrau ; eithr er ei chryfder ymddangosiadol, yr oedd yn llawn o anfoddlonrwydd mewnol. Cyhoeddodd Siarls ei hun yn orlüyddwr (generatìssimo) yr holl fyddin ; fel y gallai, yn ol y ffurf wriogaethol, alw holl arlwyddi y deyrnas yn nghyd i'w gynorthwyo i ddarostwng y gwrth- ryfelwyr. Cynygiwyd llywyddiaeth y fydd- in, dan y brenin, i Northumberland ; eithr efe a gymerodd arno fod yn glaf, a dewis- iwyd Strafford. Anfonodd y brenin deyrn- 37 gri allan, yn cyhoeddi yr Ysgotiaid ýn d#yrnfradwyr, a phob un a gymerai eu plaid; ond ar yr un pryd, yn mynegi maddeuant iddynt os edifarhaent, a thyngu ufydd-dod o hyny allan. Gŵtìpy gwyddai Strafford nad oedd wiw i fyddin afrosgo ac anfoddlawn y brenin ymosod ar yr Ysgotiaid selog a medr- us, efe a orchymynodd i Conwey gilio dros y Tyne, a gadael y tir rhwug y ddwy afon (ÿT'weed a'rTyne) i Leslie, a'i wrthsefyllyn Newburn. Ond yr .oedd hi yn rhyddiwedd- ar i chwareu mwgwd ymguddio felly, canŷs yr oedd Leslie ar ei warthaf fel " barcut ar gyw," a bu yn rhaid i filwyr y brenin éi»; throedio hi oddiyno cyn braidd iddynt wybod pa le yr oeddynt. Leslie a'u hymlidiodd o Newburn i Newcastle, oddiyno i Durham, oddiyno i Darlington, oddiyno i Northalier- ton, ac oddiyno i Gaerefrog, lle yr oedd y brenin a Strafford, yr hwn oedd glaf o'r gy- malwst. Gellid meddwl, wrth ddarllen yr hanes, fod gwyr Lloegr yn taflu eu harfuu, ac yn ffoi dan regu o Haen yr Ysgotiaid, yn ail i'r Siartiaid yn ffoi o Gasnewydd-ar-Wysg yn niwedd y flwyddyn 1839. A Leslie a ddarostyngodd y pedair .swydd ogleddol o Loegr a'u holl drefydd, cddieitbr Berwic, mewn ychydig ddyddiau, ac heb golli ugain gwr o'i fyddin. Gwersyllodd yr Y'sgotiaid ar lenydd yr afon Tees, gan adae! i'w dyfr- oedd lifo rhyngddynt a Chaerefrog, am nad oedd gan yr Ysgotyn gochelgar onid ymddir- ied gwan i hynawsedd Siarls. Dechreuwyd cyflafareddu ^ yrYsgotiaid a anfonasant yr Arlwydd Lanarc gj-da'u harcheb at y brenin ar yr 8fed o Fedi. Ymddangosai Siarls yn hynod addfwyn yn ei atebion, ond holai Strafford ara ymwared o'r Iwerddon, neu ryw le arall, ar yr un pryd. Eithr ofer oedd y dysgwyliad ; yr oedd yr holl deyrnas yn llawn berw ac anfoddlonrwydd. Daetlj/ archeb oddiwrth ddeuddeg o'r arlwyddi mwyaf eu dylanwad yn dymuno ar ei Fawr- hydi alw y Seneddr yn nghyd. Gwyr swydd Gaerefrog, ar y rhai y pwysai y fyddin ar y pryd, a ddymunasent yr un peth ; a daeth archeb o Lundain, wedi ci harwyddo çan