Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. RtiiF. 453.] MEHEFIN, 1853. [Cyf. XXXVI. PB.B6ETH AR FARWOLAETH Y PARCH. JOHN S. IIUGHES, MOTJNT PLEASANT, ABERTAWY. CAN Y PARCH. DAVID EVANS, YORK PLACE* •" Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc cf." Saum xcvii., 2. Mau o'r pwys mwyaf i bob un a deimla un- rhyw ddyddordeb yn nygwyddiadau ac am- gylchiadau ei fodoliaeth ei hun, i ffurfio barn addas a chywir am Ragluniaeth y Duw An- íeidrol, a'i gwahanol oruchwyliaethau. Gwna y wybodaeth hon waredu ei feddwl rhag amryw ofnau a phetrusdod—cyfrana iddo egwyddorion barn a doethineb, ac agora ffynonellau diyspydd o gysur a dyddanwch, ffrydiau pa rai a'i llona ac a'i canlyna trwy bob rhan oMymdaith farwol. Rhai dynion a broffesant grediniaeth yn modoldeb Duw fel Crëwr Hollalluog ; ond gwadant ei arolyg- iaeth wastadol o'r hy$ a grèodd fel Cynal- iwr a Goruwch-lywrẄ holl-ddoeth a thru- garog. Dychymygant iddo ffurfio cyfan- soddiad naturyn y fath fodd, fel agi wneuthur cyfraniadau olynol o'i rym a'i ddylanwad er «i gynaliaeth yn beth tiiangenrhaid—iddo sefydlu deddfau yn y bydoedd sylweddol a moesol, trwy nerth diddarfod pa rai y gweithreda pob peth gyda chysoudeba di- ysgogrwydd diflin, heb byth alw am gyf- ryngiad neillduol, neu sylw parhaus yr Hwn a'u gwnaeth. Ond nid oes eisieu unrhyw -ddoethbwyllder rhyfeddol er canfod gwagder ac afresytnoldeb y fath athrawiaeth. Mae y syniad o greadigaeth hunan-gynaliol mor groes i hyffo-rddiadau rheswm ac addysg- iadau athroniaeth ag ydynt yn wrthwynebol i dystiolaethau «glur gwirionedd ysbrydol- edig. Un o'r syniadau mwyaf hyfryd a dyddorawl a all y meddwl dynol byth ei wrteithio a'i goleddu ydyw, ei gysylltiad di- dranc â'r Duw Goi-ucbel—y Bòd -cyntaf, doethaf, a daionusaf. Nis gall y drych- feddwl o fod gwendid, anwybodaeth, tlodi, a jnarwoldeb yn dàl perthynas anysguradwy â ♦ y Bregeth hon a draddodwrd vn nghnpcl York Place, Abertuwy, ar y I8fed o Fehe&n, 1Î4Ì. 31 nerth hollalluog, gwybodaeth ddideifyn, llawnder didrai, a bywyd diddiwedd, lai nù gorlethu â'i fawredd bob ysbryd meddyigar, a'i ddarswyno â'i felusder. Mae yn han- fodol idd ein heddwch prosenol, yn gystal ag idd ein dedwyddwch dyfodol, i fod yn fedd- ianol ar grcdiniaeth ansigladwy, nid yn unig yn modoldeb y Duw tragywyddol, eithr hefyd yn ei ärolygiaeth ddidor dros orch- wylion daearol, yn nghyd a'i sylw gwyliad- wrus o'i anwyliaid. Pan y gwna rhai ym- drechu cyfyngu teyrnfraint yr Hollalluog, ac y gwna ereill lafurio er ei ddangos fel ed- rychwr anystyriol ar yr hyn a gymer le yn ei greadigaeth, fel pe yr ewyllysient amddi- fadu dyn o bob peth cyfaddasedig er lloni tristwch a thawelu adloesion bodoliaeth, gwnawn ni, frodyr, ymdrechu gosod ymddir- ied digyffro yn y cynilun raawreddog hwnw ag sydd bcb amser yn bresenol i'r Meddwl dwyfol—yr hwn gynllun a gofleiclia holl oesau amrywiedig amser, ac a ymestyn yn mlaen i'r tragywyddoldeb pell. Yn mhîith y gwahanol gyfnewidiadau a gymerant le yn feunyddiol, a'r trallodion a'r anffodau a fygythiant ein dyddiau dyfodol, nid oes dim a geidw ein meddyliau mewn cyflwr o daw- elwch digynhwrf, a thangnefedd diderfysg, ond crediniaeth ddiysgog fod ein holl achos- ion dan gyfarwyddyd doethineb ddigyfeiliorn, ac o dan lywyddiaeth a threfniant y Duw trugarog, yr hwn«yddyn symud yn mlaen mewn ardderchogrwydd tawelog, ac arafwcîi mawreddig, tuag at orpheniad ei ddybenion gorfawr ac haelionus. Gwir, fod llawer o anhawsderau a dyryswch yn arweddiad Rhagluniaeth yr Iôr yn bresenol, nas gallwn eu symud na'u dehongli; oblegid u Yr Ar- glwydd sydd a'i Iwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef." Nis gallwn fesur gorddyfnder ei aua-