Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. ^ont îùttertoortb, a'r £fon í ba un e taflrotjtí lluüto csgurn aî&tcitff. WICLIFF. GAN Y PARCH. D. MORGAN, BLAENAFON. " Then the Swift conveyed his ashes into Avon; Avon into Severn ; Severn into the narrow seas; they ìnto the main ocean. And thus the ashes of WicUlitl'c are the etnblem of his doctrine, which was dispersed the world over."—A. Fullee. Yn mhen tair blynedd a deugain wedi claddu rhan farwol Wicliff, yn nghangell ei eglwys, cafodd trjgolion Lutterworth fod yn llygad- dystion o ysbryd dialgar a chreulawn yr Eg- Iwys Babaidd tuag at goffadwriaeth athraw parchusaf eu tadau—enw yr hwn oedd mor lioffus yn mhlith lliaws o deuluoedd yn y dref, fel y dysgent eu plant i'w sillebu a'i seinio, megys household-word—golygfa hy- nod iddynt hwy, a braidd anghredadwy i ninau. Cynghor Constance, ar ol ymchwil- iad manwl i olygiadau y Diwygiwr, ac wedi condemnio pump a deugain o'i ddaliadau, a farnasant fod periglor Lutterworth wedi byw a marw yn hereticiad penboeth ac anufydd. Dyfarnwyd ei gorff felly i gael ei anmharchu yn y modd mwyaf cyhoeddus ;—ei ddad- gladdu, a'i daflu allan i'r domen. Yn mhen tua thair blynedd ar ddeg wedi hyn, gosod- wyd y penderfyniad hwn mewn gweithred- iad. Anfonodd Richard Fleming, Esgob Lincoln, swyddwr neillduol i gyflawni y pen- derfyniad : llosgwyd esgyrn Wicliff, a thafl- wyd ei ludw i'r Swift, afon sydd yn pasio yn agos i'r dref. Gyda golwg ar hyn y dywed- odd yr enwog A. Fuller, megys y gwelir uchod, " Yna y Swift a gariodd ei ludw ef 25 i'r Afon, yr Afon i'r Severn, y Severn i'r cul-foroedd, a hwythau i'r prif-fôr. Ac felly y mae lludw Wicliff yn ddarlun o'i athraw- iaeth, yr hon a wasgarwyd dros yr holl fyd." Y mae traddodiad eto yn nodi allan y fan, yn mha un y cyflawnwyd y weithred eiddil- aidd ac aneffeithiol hon. Cyhoeddwyd a chredid, wedi hyn, yn dra chyffredinol, fod amryw wyrthiau wedi cael eu cyflawni ar y pryd, fel arwyddion o'r anfoddlonrwydd Dwyfol i'r weithred. Nid ydynt o werth i'w gosod ar dudalenau Seren Gomer, gan nad oes sail dda i gredu gwirionedd yr hanes^. Dyna gymmaint oedd yn ngallu yr Eg- Iwyswyr, druain, i'w wneuthur, er gwarth- ruddo enw y Diwygiwr, yn nghyd a gosod rhwystrau ar ffordd lledaeniad ei athrawiaeth ef; eithr ni wnaeth y weithred blentynaidd a dall-bleidiol hon oud,'rhoddi mwy o gy- hoeddusrwydd i egwyddorion Wicliff, ac ail- enyn tân rhyfel rhwng gwirionedd a chyfeil- iornadau, a rhwng rhyddid a thrais crefyddol. Yn mlaen yr aeth egwyddorion Wicliffyn ngwyneb pob rhwystrau, fel y Uahw mawr, nes gorchudcìio yr holl dir, gan gynyddu fwy fwy yn raddol flwyddyn ar ol blwyddyn, hyd nes y daeth yn ryferthwy mawr, yn yr hwa