Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 451. EBRILL, 1853. Cyf. XXXVI. PREGETH AIsTGLADDOL Y PARCH. D. RHYS STEPHEN. GAN Y PARCH. D. EVANS, Y0RK PLACE, ABERTAWY. " Canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.—Ioají XIV. 19. Mae hanesyddiaeth wedi cofnodi ar ei thu- dalenau anfarwol, lu o enwogion a ymwelas- ant yn achlysurol â'r byd llygredig hwn, ac a fendithiasaut eu rhyw tra y trigasant yn çu plith. Ond yn mysg yr holl enwau clod- fawr a addurnant goflyfrau amser, ni welir un yn deilwng o'i gyffelybu ag enw Iesu, " Cyfaill pechaduriaid." Yn ymyl ei deg- wch, ei ddaioni, ei fawredd, a'i hynodrwydd, gwywa pob gogoniant daearol—difiana pob rhinwedd ddynol—dihoena pob urddasol- rwydd meidrol, a sudda o'r golwg i eigion anfodoldeb bob rhyfeddod amserol. Yr oedd pob peth a berthynai i'r Iesu yn hynod o fawreddog. Edrychwn arno yn Nwyfoliaeth ei berson ; fel y cyfryw, meddai ar fawr- wychder digymhar. Syllwn ar ei gymeriad swyddol fel Canolwr rhwng nefoedd a daear ; yn gystal â'i waith cyfryngol, yn gwneuthur 'tawn dros bechod, a thrwy hyny, yn dwyn i heddwc.h a chymod ofyniadau yr orsedd Ddwyfol ac iachawdwriaeth plant marwoldeb—yn hyn saif yn dra-dyrchaf- edig, uwchlaw y penaf o drìgianyddion y ddaear, a'r gogoneddusaf o feidrolion y nef. Fel mab dyn, meddai ar bob mawredd moesol a meddyliol ag oedd yn ddichonadwy i ddynoliaeth feddianu. Meddai ar ddeall- twriaeth ëang jn ei chyrhaeddiadau, ac eg- lur yn ei hamgyffrediad;—barn nas gallai dim ei gwyro ;—penderfyniad nas gallai dim ei siglo ;—gwyliadwriaeth nas gallai dim ei buan-synu. Trwy hyn ni ddarfu i un dyg- wyddiad erioed ei ddal yn anmharod. Yr oedd bob amser yn gydradd, os nid yn uwch na galwedigaethau ei amgylchiadau ! bydd- ed y cyfryw mor annysgwyliadwy a phoenus ag y byddent. Ei symudiadau bob amser oeddynt arafaidd a mawreddog. Ymdebyg» olent i gylchdröadau y bodau nefol, pa rai ydyut bob amser yn gyson a thawel, pa mor urw a thymhestlog bynag fyddo y nefoedd islaw iddynt. Yn mhlith yr amrywiol ara« lygiadau a gajvn o fawredd moesol ein Gwar- 19 edwr, nid oes nemawr ag ydynt fwy cyffrous na'r cyfryw a ganfyddwn yn y bennod o ha un y detholasom ein testun. Dadlenant ei enaid toddedig a gwronaidd ;—dangosant y dewrder mwyaf gorwraidd, yn blethedig â'r tynerwch mwyaf caruaidd;—y penderfyniad mwyaf diysgog, yn wauedig â'r teimíadau mwyaf tosturiol a mwynaidd. Ymddangosa yr ymddyddanion hyn o'i eiddo, pan ya ymyl y storom frawychus ag oedd ar ymdori ar ei ben, yn debyg i ddysgleirdeb pelydrog yr haul, yn amgylchynedig gan gymylau du- on; a phan ar neidio yn ei fachludiad i freichiau cymylau duach fyth, pa rai ydynt yn orlwythedig gan fellt, taranau, a'r tym- hestloedd mwyaf aruthrol. Pe gosodid un- rhyw greadur meidrol yn y fath sefyllfa, pa mor alluog bynag ei feddwl, a pha mor dir- ion ac hynaws bynag ei galon, teflid ei enaid. i gyflwr o aflonyddwch, braw, a therfysg anfeistroladwy ; a byddai yn rhy awyddus i ddianc o afaelion ei ddyoddefiadau ei hun i deimlo tuedd, nac i estyn llaw, er tawelu tristwch, a lloni meddyliau ereill. Ond yr Iesu, er ei fod yn berffaith adnabyddus o rwymedigaethau echryslawn, a chaulyniadau brawychol ei sefyllfa ei hun—er y teimlai bwysigrwydd y baich a orweddai ar ei fyn- wes—er y profai chwerwder y cwpan a es- tynid iddo i'w yfed—er y canfyddai fod yn ei ymyl bwysautrymach, gwpan chwerwach, a storom mwy erwinog, eto meddianai ei hun. Sobrwydd a deyrnasai yn ei fynwes ; pwyllder a eisteddai ar orsedd ei galon, ac a ysgwydai ei deyrnwialen dros holl ymherod- raeth y meddwl, a thalaethau y teimlad. Er y metha geiriau osod allan awchlymder ei 'Sdyoddefiadau, anngherddolder ei boen, a gorddwysder ei dristwch, eto ni ddangosa y radd leiaf o betrusdod beth i wneuthur. Y llwybr a ymddengys yn arw, ac yn daenedig gan rwystrau ac anhawsderau fyrdd, ond -. gydag anŵyrogrwydd yr haul yn ei gylch- daith, gwasga yn niluen. Dangosa gymaint