Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOMER. Riîif. 150. MAWRTH, 1853. Cyf. XXXVI. (Eaüatr miúi% fin rjr fym y btt farfo. WIC LIF F. CAN Y PAR.CH. D. MORCAN, BLAENAFON. Yn 'y darn o'r blaen, dilynasom y Dinygiwr hyd eisefydliad yn Lutterwortb. Feloffeir- iad, yr oedd yn enwogam ei astudrwj'dd, ei lafur, a'i ofal diflino am yr eneidiau oeddynt tan ei fugeiliaetb; enillodd radd dda, a pbarcb dau-ddyblyg yn mhlith ei blwyfolion, fel gweinidog da i Iesu Grist. Meddylir yn lled gyffredin, fod golwg Chaucer, yn ei ddarlun- iad o'r offeiriad plwyfol da, ar Wicliff, a'r modd y cyflawnai efe ei alwedigaeth. Y mae'n sicr fod Chaucer yn ffafriol i blaid Duc Lan- caster, ac yn tueddu at olygiadau Wicliff. Arddangosir Wicliff yn myned ar hyd a lled y wlad, wedi ymwisgo mewn g\vn hir o freth- yn, gan bregethu yn mha le bynag y gallai gael, neu wneuthur cyfleusdra, yn debyg i'r lesu mawr, yr hwn a aeth oddiamgylch gan wneuthur daioni. Dealler, fod jtregethu, yr amser hwn, yn mron myned allan o arferiad ; ni chlywid pregethu gan offeiriaid cyffredin, ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn. Ychydig oflynyddau cynsefydliad Wicliff yn Lutterworth, y gwnaeth Archesgob Pecham achwyniad am fod y gwaith o bregethu wedi ei roddi i fyny, braidd yn hollol, ac y cynyg- 13 iodd at effeithio diwygiad. Tynodd allan list o bynciau i'w hesbonio, fel cwrs o ddysg bulpudaidd ; megys, y deg gorchymyn, yr erthyglau ffydd, y saith rhinwedd benaf, y saith pecbod marwol, &c. Gerchymynid i bob offeiriad i bregetbu bedair gwaith yn y flwyddyn i'w blwyfolion: os oedd hyn yn ddiwygiad, y mae'n rhaid fod pregethu yn beth anjighyffredin cywilyddus o'r blaeu. Nid oedd offeiriaid yr amser hwn amgengtceisio7i cyflog, haid o fugeiìiaid drwg, gormesol, ac ysglyfaethus oeddynt, fel y dywed y Sais, 1' They cared more for the fleece than the flock." Eithr pregethai Wicliff, er mwyn aehub eneidiau, gyda difrifoldeb ac onest- rwydd apostolaidd, gan gael ei gymhell gan gariad yr hwn a fufarw dros ddyn ; cyflawnai ranau cyffredin ei swydd, megys y rhanau pwysicaf; gwelid ef yn y tŷ wrth wely y çlaf, neu yn nhŷ y galarus. Gwasgarai beratógl Crist trwy ei ymweliadau a'i ymddyddanion cyffredin, fel yn ei gyhoeddus gyflawniadau. Ymdrechai gyflawni y weinidogaeth a dder- byniodd gan yr Arglwydd. Y mae amryw o'i bregethau efar gael ynbresenol, ynllaw