Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Riiif. 449, CHWEFROR, 1853. Cyf. XXXVI. RHYDDID. LLYTIIYR XIV. C A N Y PARCH. OWEN MICHAEL. " V crcadur yn ocheneidio am ryddid plant Duw." An yr 20fed o Ionawr, 1G29, ymgyfarfu y Seneddr ohiriedig mewn tymher gyffrous annghyffredin ; o herwydd, drwy gylafarydd- iaetii ddichell-ddrwg Mr. Walter Montague (Pabydd o galon) gyda llŷs Ffrainc ; ac an- wroldeb iarll Lindsey, y cadlywydd penod- edig yn lle Buckingham, fod Rochelle wedi ei cholli, ;;c agos i bumtheng mil o Brotes- taniaid wedi eu uewynu yn y gwarcbae. Yr oedd y brenin, yn nhymor y gohiriad, wedi chwareu yr andras ag " Archeb yr lawnderau :" drwy, yn lle ei argraffu, yn ol y penderfyniad Seneddol, a'i enw a'i ateb oìaf wrtho, a'i daenu felly yn niblith y werin, ei argraffu yn gysyllticdig â'r atebiad dros ysgwyddi/7ae».<j/', yn nghyd â'i áraeth chwerw a theyrn-falch wrth ohirio y Seneddr.* Ac nid yn unig hynyna, eithr yr ydoedd wedi ceisio cyfodi cyllid y llongau hefyd, drwy ci awdurdod ei hun ; ac wedi carcharu amryw bersonau yn ol ei fympwy ei hun, a'i gyfrin- gynghor, yr hyn oedd yn liollol groes i'r " Archeb." Nis gallasai, wrth gwrs, y Cyffredin gael ysglyfaeth brasach i ymosod arno ; a hwy a aethant at y gorchwyl o ddif- rif. Anfonasant ain argraffydd y brenin, a gwneuthant iddo egluro anffawd yr argraff- iad. Ac efe a fynegodd mai yn ol y gor- chymyn brcninol yr ydoedd wedi gwneud pobpeth. Achwynai marsiandwr o'r enw Mr. Rolles, un o aelodau y Seneddr, fod swyddogion tolldŷ y môr wedi atafaelu ei eiddo, ain na thalai y doll ofynedig gan- ddynt, pan yr ocdd yn foddlon i dalu yn ol gofynion y gyfraith. Pethau fel hyn, yn nghyd â llawer o'r fath, a yrasant y Cyff- redin yn gynddeiriog; a Selden, Littleton, Syr John Eliot, Syr Thoinas PhUlips, &c. a lefarasant yn groew yn erbyn y fath deyrn- drais. Galwent am fesurau er galw y tros- eddwyr i gyfrif, a'u plygu o dan y gosh bri- odol. Pan welodd y brenin eu bod yn myn- ed yn nilaen gyda'r fath ffyrnigrwydd, efe * Gwel Llythyr o'r hlaen. a anfonodd oi'chymyn iddynt ymattal ar y pwnc hyd ddau o'r gloch dranoeth, pan y galwai ei fawrhydi y ddau DC ger ei fron i'r gwledd-dŷ yn Whitehalh Yn ei anerchiad, dranoeth, dangosai ei fawrhydi fod y Cyffredin wedi clwyfo ei deimladau beilchion ; canys, ar draul eu darostyngiad hwy, efe a ddyrchafai yr ar- lwyddi megys gradd o fii yn y wladwriaeth, yu nesaf i'r goron ; ac fel y cyfryw, yr unig dystìon rhwng y teyrn a'r deiîiaid. Dy- wedodd wrth y Cyffredin mai nid oddiar hawl noeth y goron yr ydoedd wedi cyfodi toli y llongau yn eu habsenoldeb, eithr yn hytrach oddiar ymddiried yn eu nhatur dda, y buasent yn tuebu y cyfryw doll iddo am ei oes, yn ol hen arfer, mor gynted ag y caft'- ent amser cyfaddas. Ac nad ydoedd ef yn bawdd i'w gyffroi, onide y buasai eu pen- derfynìad nos Fercher diweddaf yn ddigon i beri liyny, drwy yr hwn yr ymddangosent megys swyddogion chwilysol yn chwilio am fai, ac nid yn condemnio trosedd wedi y cyf- lawniad o hono ; eithr er fod eu geiriau yn ymddangos megys yn chwilysol, eu bym- ddygiadau a ddangosent bethau gwahanol, sef, na chwilysant ymddygiadau dynion, hyd oni ddelai achwyniadau yn cu herbyn. Ond y gwir am y Cyffredin ocdd, eu bod yn penderfynu ffureta allan ymddygiadau y fàth ddynion a Laud, esgobion, cynghorwyr, a gweinidogion, y rhai a ormesent ar eu cyd- wybodau a'u meddianau. Ac am y llong- doll, gwyddent mai peth diweddar, mewn cymhariaeth felly, ydoedd ei duebu i'r bren- in am ei oes—ac nid oeddynt yn meddwl ei duebu am gymaint a blwyddyn, liyd oni welent gyfnewidiad yn uhymhcr ei fawrhydi, a chael sicrwydd am eu hiawnderau. Yr oedd gan y Tŷ Puritanaidd faterpwys- ig arall i ofalu am dano, sef eu rhyddid crefyddol. Yr oedd y brenin wedi ymddir- ied Uywodraeth crefydd yn hollol i Laud a Neile, esgob Caerwynt. Ac yr oedd y ddau hyn yn Arminiaid i'r eithaf, o ran eu cred