Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 448. IONAWR, 1853. Cyf. XXXVI. "Egliop aaítîiH on làtttciteorth. fo«í'"«*»-""' WICLIFF. CAN Y PARCH. D. MORCAN, BLAENAFON. " Fame's lasting reprister Shall leave liis name enrolled as great as those Who at l'hilippi for their country fell." Lines to the Memory of A, MarvclU Nid ocs yr un ran o Loegr yn fwy cyfoethcg mewn dygwyddiadau hanesyddol, o bwys yn ngolwg yr henafíaethydd, na'r swyddi am- dirol (Midland Counties). Er nad ocs cerf- lun na chofgolofn yn dynodi'r manau a hyn- odwyd gan ddewrder a duwioldeb ein tadau yn ymladd o blaid rhyddid a gwirionedd, y mae y lleoedd yn gysegredig. Swyddi Buckingham, lluntingdon, Northampton, a Leicester, a ddygant amgylchiadau idd ein meddwl, nid llai dyddorawl nag oedd Pla- tea, Marathon, a Thermopyltc yn mhlith y Groegiaid. Cymerwn daith yn hresenol gyda'r dar- llenydd i'r olaf o'r siroedd a nodwyd, ac i dref nid anenwog, a eiwir Lutterworth. Yr ydym yma yn nghanolbarth Lloegr. Nid pell oddiyma yw Leicester, lle yr arfogodd Ilhisiard III. ynddo erbyn brwydr Bosworth 73 —brwydr a wraredodd y wlad odditan ormes- wr creulawn, a derfynodd "rhyfeloedd y rhosynau," ac a ddechreuodd oes (era) new- ydd yn ein gwlad. Yn yr un dref y bu farw Cardinal Wolsey, pan yr oedd Protestan- iaeth yn cael ei arwain gan Anne Boleyn, am yr amser hwnw yn trechu, a'r Cardinal yn sefyll ar ffordd ei feistr. Yuo ìiefyd yr arbedwyd bywyd John Bunyan, pan drwy ddygwyddiad y gosodwyd un o'i gyd-filwyr yn ei le i wylied dros nos, yr hwn a gyfar- fyddodd â'i farwolaeth cyn y boreu ; felly y cadwyd bywyd yr hwn, wedi hyny, oedd i fod yn awdwr y llyfr mwyaf poblogaidd yn y byd ond y Beibl. Nid pell o Lutterworth, sef, mewn pentref o'r enw Thureaston, y ganwyd Hugh Latimer. Y tu arall i'r dref y mae y pentref Naseby, enwog am y frwydr yn mha un y dangosodd Cromwell ei aUu-