Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRA MOR, TRA HEB DDUW, HEB 3Böúm SEREN GOMER, DYDD MERCHER, TACHWEDD 3, 1819. [Prìs Tair Ceiniog.~\ DARLUNIAD O'R ADDEWIDTON DWYFOL. 2 Pedr i. 4. Trwy yr hyn y rhoddwyd i nì addewidion muicr iawn a gwerthfawr. Gtwelodd Duw fod yn dda, yn ei drugaredd gyfoethog a'i dda- ioni, ymhob datguddiad a rodd- odd i feibion dynion, nid yn unig i osod o'u blaen eu dyledswydd a'u rhwymau i ufudd-dod yn y goleuni egluraf, fel effaith ei aw- durdod oruchel arnynt; ond he- íyd anogaethau i gydymffurfio â hwynt o ewyllys, trwy addaw iddynt bob peth angenrheidiol i'w gwneuthur yn ddedwydd. Felly, gydâ'r priodoldeb mwyaf, y gelwir y gair Trysorfcír Adde- widton. Y mae Pedr, pan yn llefaru wrth y rhai a dderbyn- iasant yr efengyl, trwy yr hon y dygwyd hwynt i adnabod yr hwn au galwodd i ogoniant a rhin- wedd, yn dwyn geiriau y testun fel anogaeth iddynt yn eu taith Gristianogol, ac i feührin yn- RHIFYN XXII, 5 ddyntfwy o ysbry.d cydymffurfiad â'r Arglwydd Iesu. Mae yn wir- ionedd diamheuol fod Duw wedi rhoddi amrywiol o addewidion yn mhob amlygiad a roddodd o hono ei hun, mewn crediniaeth o'r rhai y bu yr hen dduwiolion fyw a marw ; ond wedi dyfodiad Crist fe'u cadarnhawyd, a chwanegwyd llawer atynt, fel ag y mae sylfaen gadarn cysur i'r saint ymhob am- gylchiad. Sylwn ar yr addewid- ion fel y canlyn:— I. Gelwir hwynt uddemdion mawr iawn ar y golygiadau can- lynol: 1. Oblegid lliosogrwydd eu rhifedi. Nid yn hawdd y gellir darllen un rhan o'r gwir- ionedd dwyfol heb gyfarfod â rhyw addewid werthfawr ynddo, wedi ei haddasu at wahanol am- gylchiadau. Pan syrthiodd dyn, a myned yn elyn i Dduw, ac yn agored i gosp dragywyddol, gor- uchwyliaeth gras a thrugaredd a esgorodd ar addewid o Waredwr LLYFR II.