Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRA MOR, TRA HEB DDUW, HEB üUtnn SEREN GOMER. DYDD MERCHER, MEHEFIN 30, 1819. [Prìs Tair Ceiniog.'] DOLÜR Y SABATH. 1 mae clefyd, ebe Doctor Easy, yn yr amser hyn, yn rhŷ gyffre- din yn ein cymydogaeth, ac yr ydys yn methu cael un hanes o hóno yn y Uyfrau goreu ag sydd yn traethu ar feddyginiaeth; mi a wnaf gan hyny fy ngoreu i roddi ychydig o hysbysiaeth am dano. Fod y clefyd, am yr hwn yr ydym yn dywedyd, yn un o'r rhyw ddyspeidiol (intermitting) sydd eglur; ac ymhob un o'r cyflyrau ag sydd wedi dyfod dan fy sylw i, y mae y claf yn cael ei daroyn ffyrnig gan ryw drymder o ddolur, yr hwn sydd yn dych- welyd bob seithfed diwrnod. Fe allai y byddid yn meddwl ei fod yn sawru o goelgrefydd i'w ddy- wedyd, ae eto y mae yn wirion- eddol, ac am hyny ni ddylid ei adael i fyned heibio, heb wneu- thur sylw arno, fod y trymder dolur hyn yn dychwelyd ar bob dydd yr Arglwydd, ac o her- vydd hyny y mae y clefyd yn RHIFYN XIII. ' cael ei alw yn ddolur y Sábath^ ac nid ydyw y gymdeithas fe- ddygol yn gwybod am un enw arno, ond Dei Dominici Morbus. A.C o ran ei darawiad cylchynol, y mae rhai yn meddwl ei fod yn rhywogaeth ddigymhar o'r ddur- ton, yn neillduol, am ei fod yn cydfyned i ryw radd bell gan oerfel, er nad ydwyf fi yn canfod y cryndod ag sydd yn gyffredin yn arwyddo y dolur hwnw. Yr ydwyf wedi sylwi fod y trymder dolur hyn yn dechreu ar amryw amseroedd, ond yn gyff- redinol ar fore dydd yr Ar- glwydd, ac y mae yn fynych yn taro y claf cyn y byddo ef yn codi o'i wely, ac yn ei wneuthur yn anhueddol iawn i godi hyd nes y byddo hi yn hwyrach nag arferol. Y mae oerfel yn gyntaf i'w ganfod o ddeutu awyr-barth y galon ; a hurtrwydd yn y pen, yr hwn sydd yn syfrdaau yr ym- enydd, yn gyffredin yn ei ganlyn ; ' LLÝFR II,