Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 540. BHAGFJR, 1871. Peis lc. Y MERTHYR IEUANC RHUFEIOTG. PENNOD V. Dydd y gyflafan. MhR oedd yn foreu gogoneddus, ac yr oedd Rhufain yn effro \ drwyddi. Yr oedd yn ddydd-gwyl mawr ac arbenig; I yr heolydd a arwemient i'r Amphitheatre oeddynt yn fyw o bobl; yr oedd dros gant o Gristionogion i gael eu lladd y diwrnod hwnw. Yr pedd pyrth y theatre wedi eu gorlenwi, a'r adeilad fawr oddi fewn yn llawn. Nid oedd ynddo ond un lle gwag—hwnw oedd lle yr ymerawdwr a'i gwmni. Wele'r ymerawdwr yn dod mewn rhwysg,a mawredd. tTchel oedd y bloeddiadau pan gymmerodd efe ei le ar orsedd yr Amphitheatre ; ond yr oedd y lliaws oedd wedi ymgasglu yno yn awchus am yr olygfa oedd i ganlyn. Yn y man gwelir y lliaws yn yr heol yn ymsymmud i'r ochrau i wneyd lle i'r Cristionogion dd'od yn mlaen^ Y maent yn d'od dan ganu, ac O, mor swynol oedd eu canu fel yr ymdònai ar yr awyr dyner. Tynesach, tynerach, ac uwch, uwch, yr ymgodai fel y dynesent yn mlaen; mor bur a soniarus ydoedd, felyr oedd hŷd y nod yr Amphitheatre yn ddystaw, a phob un bron yn dal ei anadl. Daçth yr örymdaith hir ynAmlaen. Y blaenaf oedd hen ŵr yr hwn a bwysai ar fraich geneth fechan tua deuddeg oéd; Yr oedd wedi rhifo mwy na deng. mlynedii