Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. TACHWEDD, 1858. ©3mMM&IDl®^=(0OTmiS OTWTO2).- RHIF. XIX. § 29.—CYNNORTHWYAÎD (AUXILLIARIES). Mewn rhai mathau o frawddegau, ac yn íFurfiad »hai Amserau Berfau, arferir geiriau cynnorthwyol. Mae o'r rhai hyn ddau fath, manigion a chynnorthwy- aid berfol. (jparücles and auxilliary rerbs.) 1. Cynnorthwyaid Manigol. Y rhai hyn yw a, acy, neu yr, ac mewn hen awdwyr, yd ac ydd. Arferir y rhai hyn gyda holl Amserau ag Agweddau y Ferf, os bydd cyfansoddiad y frawddeg yn gofyn am hyny. Gwir y rhestrir y manìgion hyn dan wahanol ranau ymàd- rodd, gan wahanol awdwyr. Rhai a'u rhestrant gyda Bannod, ereill gyda'r Ansoddair, ac ereill gyda'r Modd- air (adterb). Ond nis gallant berthyn i'r uno'r ddau gyntaf; oblegyd geiriau a arferir gydag Enwau yw Bannod ac Ansoddair. Nid Moddeiriau ydynt ych- waith; oblegyd nid ydynt fel Moddair, yn dynodi y modd, na'r amser, na'r lle y cyfíawnir gweithred, yr hyn yw swydd Moddair. Nid ydynt o fawr ddefnydd mewn hysbysu syniadau y meddwl; a gellir yn aml eu hebgor, heb newid dim ar y synwyr, trwy gyfnewid trefn y frawddeg. Yr un peth yw y synwyr yn "wylodd Iesu," ac yn "Iesu a wylodd;" yn "ysgrif- enwyd hyn i'r oes a ddel," ac yn " hyn a ysgrifenwyd i'r oes a ddel." Yr amgylchiad o dan ba un yr arferir y cynnorthwyad a fynychaf, yw, pan y byddo deiiiad