Skip to main content

YR ATHRAW. MEDI, 1858. MAWREDD A DAROSTYNGIAD YR IACHAWDWR. " Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r ffurfafen sydd yn royn- egu gwaith ei ddwylaw ef." " Canys ni chymmerodd efe naturiaeth angylion, eithr had Abraham a gymmerodd efe." Nid oes dim yn fwy annogaethol i ddiolchgarwch duwiol nag ystyried golygfeydd tlysion a mawreddig y bydysawd; ac ond eu hystyried yn y goleuni a daflwyd i ni trwy y dad- guddiad dwyfol, y maent yn sicr o ddenu sylw pob Cristion at yr hwn a'u creodd. Pan oedd Augustine yn ymddifyru ar degwch y greadigaeth, yr oedd yn cael ei lenwi â'r fath feddwl parchus a mawreddus am ei Chreawdwr, fel nas gallai ganfod dim ond ol ei law ef ar bob peth yr edrychai arno, ac esgynodd ar hyd yr ysgol hon i ardaloedd y bydoedd fry, ac at ogoniant y pethau anweledig, nes cael ei ysbrydoli â'r ystyriaeth fwyaf o'u tra odidog ragoriaeth, a'i lenwi â'r dymuniadau mwyaf gwresog am eu cyflawn fwynhau, nes oedd bjon a chaeí ei lyncu i fyny yn y dedwyddwch ar yr hwn y myfyriai; a phrin y gwyddai pa un ai yn y corph ai allan o'r corph yr oedd. Mae cael golwgar Dduw yn ei waith yn sicr o genedlu ysbryd gostyngedig mewn dyn ; ac ond i ddyn gael dyfod yn ymwybodol o hono ei rîun fel creadur rhesymol, cyfrifol, ac ymddibynol ar Dduw, fe'i harweinir i goleddu meddwl mawr am Dduw a'i waith ; ac fe wel ol llaw Duw yn ei waith ; a thrwy hyny fe ddaw i gydnabod Duw fel Creawdwr a Chynnaliwr pob peth ; a thrwy iddo gael golwg ar Dduw fel Cynnaliwr pob peth a greodd, fe wel ei annheilyngdod ei hun yn ngwyneb ei bechod, a chydnebydd ei annheilyngdod o'r un drugaredd o'i law. Cawn y teimlad hwn yn yr hen batriarch mawr ei amynedd gynt: ar ol i'r Arglwydd amlygu ei hun iddo yn y petnau a wnaeth, cawn ei íbd yn cydnabod ei waeledd a'i annheilyngdod ei hun, pryd mae yn dweyd; " Myfi a gly wais â'm clustiau son am danat, ond yn awr fy llygaid a'th welodd di; am byny mae yn ffiaidd genyf fi fy hun, ac yr wyf ya