Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. GORPHENAF, 1858. RHIF. XVI. § 22.—TEITHI BERF. Nid oes fawr o gytundeb yn y darnodiadau a roddir 'O Ferf. Rhai a ddywedant mai Rhanymadrodd a ddyn- oda y syniad o weithredu a goddef ydyw. Ond y mae y darnodiad hwn yn rhy gyfyng, yn cau alian o fod yn ferfau lawer o eiriau nad allant fod yn ddim ond berfau: megys, bod, bodoli, hanfodi, gjrphwys, peidio, tyc. Y mae Edeyrn Dafod Aur, yn rhoddi y darnodiad cyfeiliornus hwn, er cymmaint a godir arno gan Ab Ithel. Dyma ei eir- iau;—" Perwyddiad sef Berfyw pob gair, neu beth a arwyddoccao gwneuthur, neu Beiriad o ba ddyn, neu beth, neu haniad, y bo'r peri bynnag ai o, neu du ag at unrhyw ddyn, neu beth, neu aniad, sef yw hynny pob gair a arwyddoccao gwncuthur, neu ddioddefa wneler." Os felly y mae yn bod, nid yw y geiriau a nodwyd uchod yn ferfau, oblegyd nid ydynt yn arwyddocâu gwneuthur na ddioddef. Ereill a gyfeiliornant trwy wneuthur rhif a pherson yn hanfodol i ferf. Damweiniau (accidents) ac nid han- fodion (essentials) berf yw y rhai hyn. Os amgen, nid yw yr hyn a elwir y Modd Annherfynol a'r Rhangym- meriad yn ferfau o gwbl, nac yn perthyn i ferfau, canys nid yw y rhai hyn yn cynnwys un arwyddocàd o rif a pherson. Gellir dywedyd bodoli* llefaru, ysgrifenu, am.