Skip to main content

YR ATHRAW. EBRILL, 1858. RHIF. XIII. § 12. FOD BANNOD YN RHANYMADRODD. Wrth fannod y golygir y gair y neu yr, a arferir o íiaen enwau a rhai rhagenwau. Yr ydym yn rhoddi y flaenoriaeth i fannod ar ragenw, nid am ei fod yn fwy pwysig, ond am ei fod yn elfen hanfodol yn nghyfan- soddiad rhai rhagenwau; megys, yr hwn, yr hon, y rhai hyn, &c. Traethir arno o flaen y Ferf, am mai i enwau a rhagenwau y perthyna. Y prif ranau ymadrodd, fel y nodwyd amryw weithiau, a da fyddai i'r efrydydd ddal ar hyn, yw Enw a Berf; ond gan mai geiriau a arferir gydag enwau yw ansoddair a bannod, a gair a arferir yn lle enw yw rhagenw, priodol yw traethu arnynt o flaen y Ferf. Dyga y rhanau israddol ereill, sef moddair, ardodiad, a chyssylltiad, fynychaf, berthynas â'r Ferf, ac am hyny, gadewir hwy nes y byddis wedi traethu ar y Ferf. Nid pawb a ganiatânt fod Bannod yn rhanymadrodd gwahanredol; a rhestrir ef gan rai gyda rhagenwau, a chan ereill gyda'r ansoddair. Rhestrir bannod gyda rhagenwau, mae'n debyg; am y rheswm nad oes ban- nod mewn rhai ieithoedd, megys y Lladin. Yn yr iaith hon, pan fyddo rhyw bwyslais yn ofynol er mwyn nodi rhyw berson neu wrthddrych oddiwrth bob person neu