Skip to main content

YR ATHRAW. CHWEFROR, 1858. 0ÄAHIÎttiÎL©l©o»»©OTSL3B3 OTWTO©. RHIF. XI. jjtsoimdaiibl. § 10.—GRADDAU CYMHAROL. Perthyna graddau cymharol i ansoddeiriau, yr hyn ni pherthyn i enwau. Nis gall pethau wahaniaethu o ran bodolaeth ; os gwahaniaethant hefyd, yn eu priod- oleddau neu eu hansoddau y gwahaniaethant. Oblegyd hyny nis gall graddau cymharol berthyn i enwau, oblegyd geiriau yn sefyll àm bethau yw enwau. Nis gellir priodoli mwy o fodolaeth i graig nag i gareg. Rhaid i beth fod neu beidio bod; nis gall fod graddau yma. Nid yw dyn mawr yn bodoli yn fwy na dyn bychan ; os yw yn fwy rhywbeth, mwy tal, mawr, a chryf ydyw. Am hyny, fel y dywed Aristotle, " nid yw enwau yn caniatâu mwy a Wa*." Ond os na all y naill ddyn feddu mwy o fodolaeth na'r llall, gall fod yn fwy tal, llydan, neu gryf na'r llall; hyny yw, gall fod graddau yn eu priodoleddau ; ae am hyny, gall fod graddau yn y geiriau a safant am y prìòdeleddau hyny. Gall un dyn fod yn gryf, ond gall un afâll fpd mor gryf ag yntau; gall un arall fod yn fwy cryf na'r'ua.qhonynt, ond dichon nad y diweddaf yw y dyn mwyaf crýYs^dd i'w gael. I osod allan y graddau hyn, perthyn i an- soddeiriau bedair gradd cymharol; sef yr ansoddair yn ei ffurf syml, a'r tair ffurf a elwir yn briodol yn raddau