Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhip611. TACHWEDD, 1877. Pris lc. PRYDFERTHWCH ANIAN. II. ANIAN YN EI PHRYDFEETÍIWCH GWENIADOE. "AE yr holl bcthau a greodd Duw yn drefnus ac ar- dderchog yr olwg arnynt. Megys ag mai ffrwyth Dwyfol allu yw bodolaeth y rhai hyn, felly hefyd ffrwyth Dwyfol ddoethineb yw eu prydferthwch. Mae pob peth fel aelod yn nghorph mawr y byd, ac yn meddu rhyw harddwch neillduol, ac oll yn un yn cydgyfranu eu gogoniant i addurno y cwbl. Y mae y fath undeb rhwng y pethau hyn, fel y mae eu llinyn wedi myned trwy yr holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd y byd. Mae yr haul yn ei yrfa oesawl ar bob eiliad yn dangos ei brydferthwch pelydrawl; felly hefyd mae y ser, fel y gellir dywedyd gyda Dafydd, " Y nefoedd sydd yn dad- gan gogoniant Duw, a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef. Dydcl i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i noa a ddengys wybodaeth." Er manwl chwilio y cread, nid oes yma ddim nad oes anghen am dano, ac nad ydyw yn arddang- 03 prydferthwch addurnawl. Y mae yn wir fod llawer o. ddynion yn cyrchu o wahanol fanau, ac o wahanol wledydd, i'r arddangosiadau a gedwir yma a thraw, er mwyn cael gweled cywreinrwydd celfyddyd. Ond pa le y gwelwyd celfyddyd wedi dyfod i fyny â natur? Nid ydyw yr arlunwyr a'r cerfwyi gorcu, o ddyddiau Apelles hyd yn awr, ond prin amcanu at debygoli i natur. Mae yn wir fod celfyddyd ya brydferth, ond mae anian yn tra rhagori. Pwy glywodd son,