Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 608. AWST, 1877. Pris lc. DYLEDSWYDD CREFYDDWYR TUAG AT YR YSGOL SABBATHOL. Nid ydyw yr ysgol Sabbathol yn sefydliad ysgrythyrol, ond y mae dysgu ereill yn orchymyn ysgrythyrol. Dywed Solomon, " Hyfforddia blentyn yn mhen ei fTordd; a phan heneiddio, nid ymedy â hi." (Diar. xxii. 6.) Nid hyfforddia dy blentyn a ddywedir, ond "hyfforddia blentyn;" nid oes gwahaniaeth pa blentyn. Y mae y ffaith ei fod yn blentyn yn ddigon er codi ynom ymroad i'w ddysgu. Gorchymyn diweddaf yr Arglwydd Iesu oedd, "Ewch gan hyny a dysgwch yr holl Genedloedd." (Mat. xxviii. 19.) Heb ymyraeth yn bresennol â'r lliaws cyfeiriadau ag sydd yn y Beibl yn annog rhieni i addysgu eu plant, gwna y geiriau a ddyfynwyd y tro er dangos ei bod yn ddyledswydd ar grefyddwyr, pa un a ydynt yn rhieni plant ai nad ydynt, i wneyd eu goreu i addysgu pawb, yn neillduol y dô ieuanc sydd yn codi. Moddion at ddysgu pethau crefyddol yn neillduol yw yr ysgol Sul, a thrwy hyny y cyfyngir moddion addysg yr ysgol Sul i addysg Feiblaidd a chrefyddol yn unig; am hyny y mae dyledswydd crefyddwyr tuag ati yn fwy. Cyfrenir addysg yn rhad genym yn yr ysgol Sul. Pe buasem yn ei rhoddi allan i feistr, fel y gwneir â'r ysgol ddyddiol, ni íyddai dyledswydd crefyddwyr tuag ati mor uniongyrchol; ond gan ei bod yn agored i bawb i roddi a derbyn addysg ar eu goreu, a chan mai ar wirfoddolrwydd yr