Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 606. MBHEFIN, 18/7. Pris lc. NODWEDDAU NEILLDUOL CYMMERIAD TIMOTHEUS.* Timotueus. Ystyr yr enw anwyl hwn ydyw anrhyd- eddwr Duw. Y mae gwahanol farnau o barthed i'w dref enedigol. Dywed rhai dysgedigion raai yn Lystra y ganwyd ef, ereill a farnant mai yn Derbe. Os yn Lystra, yr oedd mewn anfantais fawr i fyw yn grefyddol, gan mai tref baganaidd ydoedd. Nid oedd ynddi gymmaint ag un synagog er meithrin a dwyn i fyny drigolion y dref yn ngwirioneddau gair yr Ar- glwydd: ac oni bai am ei fam Eunice, a'i nain Lois, y rhai oeddynt Ilebreësau duwiol ac ymroddgar, diammheu na bu- asai i'n gwrthddryeh unrhyw hyfforddiant yn fwy nag ereill o blant Lystra. Mae Lystra, fel amryw o drefydd enwog y Beibl, wedi ei llwyr golli oddiar wyneb y ddaear. Cenedloedd oedd ei thrigolion gan mwyaf. Groegwr ydoedd Timotheu» o du ei dad, ac Iuddew o du ei fam. Ni adawyd gan yr un o'r haneswyr boreuol unrhyw grybwylliad am enw ei dad ; ac oni bai am lyfr yr Actau, ni wybuasid mai Groegwr oedd. Credir, gan fod yr holl haneswyr a'r oraclau Dwyfol yn ddystaw o barthed i'w dad, ei fod wedi marw tra yr oedd Timotheus yn ei fabandod. Yr oedd Timotheus o ran ei gorph yn ddaros- tyngedig i fynych wendid, ond mewn gras a doniau yr oedd .* Buddýgol yn nghyfarfod Nadolig, Caersalem, OaerynSrfon.