Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif G02. CHWEFROR, 1877. Pris lc. IESU GRIST YN DWEYD EI HANES. Os edrych y darllenydd ieuanc i Diar. viii., cuiíf weled fod Iesu Grist yno yn dweyd ei hanes cyn iddo ddyfod i'r byd hwn i'w waredu. Docthineb sydd yn siarad trwy yr oll o'r bennod hùno. Y mae yn llefaru, nid fel priodoledd, eithr fel person, ac nid yw y person hwnw neb amgen na Mab Duw, Gwaredwr dyn. Yn y bennod siarada ain dano ei hun fel un teilwng o sylw gan ddynion, am fod awdurdod a nerth yn yr hyn oll y mae yn ei lefaru. Y mae cyfoeth ac anrhydedd i'w cael gydag ef, ond dcrbyn ei ddysg ac ufyddhau iddo. Siarada am dano ei hun fcl doethineb Duw, ac felly yn deilwng o sylw ac ufydd-dod gan ddynion. Y mae Iesu Grist yn wahanol i bawb fu yn y byd crioed, o herwydd y mae yn gallu dweyd ei hanes cyn iddo ddyfod i'r ddaear. Nid oes ditn yn fwy dydd- orol genym na gwrando ar ddyn doeth a duwiol yn dweyd ei hanes yn nhaith yr anial; ond y mae yn annhraethol mwy difyr genym wrando arlesu mawr yndweyd hanes ei orchest- ion cyn dyfod i wisgo natur dyn. Yr oedd Iesu Grist yn gallu galw sylw'r byd at ei waith a'i fywyd cyn iddo ddyfod i'r byd hwn. Onid yw hyn yn ífynnonell cysur a dyddanwch i'w ganlynwyr, fod ganddynt Waredwr sydd wedi cyflawni rhyf- eddodau dirif cyn iddo ddyfod i'r byd i wneyd dim diostynt hwy? Os gwnaeth ef gymmaint o orchestion mawrion cya dyfód i'r byd, nid rhyfedd iddo wneyd cymmaint dros ddyn wedi iddo ddyfod i'r ddaear. Yn awr, ddarllenydd hoff, gad i ni wrando arno yn dweyd ei hanes.