Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 601. IONAWR, 1877. Pbis lc. YR ATHRAW AT El DDARLLENWYR. Gan fod blwyddyn arall wedi gwawrio, nid anmhriodol i ni gael ychydig ymddyddan â'n gilydd ar a fu, y sydd, ac a ddaw. Mae y fìwyddyn 1876 wedi marw yn llwyr, a'r fiwyddyn 1377 wedi codi oddiar lwch ei bedd. Pwy o honom a fydd byw i weled dechreu blwyddyn arallr Gofyned pob darllenydd hyn iddo ei hun yn ddifriibl, a gadawed i ddwysder y gofyniad gario ei ddylanwad ar ei galon a'i fuchedd; yna gellir dysgwyl i'r fìwyddyn newydd fod yn fìwyddyn newydd dda iddo. Mae y flwyddyn sydd wedi terfynu wedi bod yn un bwysig ar lawer o ystyiiaethau. Mae hi wedi cario ei dylanwad ar bob un o honom; y gofyniad pwysig yw, a ydywhi wedi ein gadael yn well, neu yn waeth : yn fwy parod i fyned i'r byd lle nad oes cyfrif amser ynddo, neu yn fwy anmharod? Adol- ygwn ein bywyd ar hyd y flwyddyn, a gadawn i'r adolygiad ennyn ynomyniaphenderfyniad, trwy gymhorth gras, i dreulio yr amser sydd yn ol fel y dymunem ei fod wedi ei dreulio pan fyddom yn cefnu ar amser. Mae y fiwyddyn 1876, wedi gadael ei hol ar ddeiliaid yr Athraw, yn ddarllenwyr, gohebwyr, a dosbarthwyr. Mae llawer o'r rhai hyny wedi huno yn nghorph y flwyddyn. Gobeithio fod llawer o'i ddarllenwyr wedi eu "troi o dywyll- wch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw," ac fod yr Athra.w wedi bod â llaw offerynol yn y gwaith o eífeithio y cyfuewid- iad graslawn hwn.