Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 598. HYDREF, 1876. Peis lc. Y MIS. GAN Y PARCH. H. WILLIAMS, LLANILLTYD FABDREP. 1. Yr enw. Dywed Dr. Pugh mai llygriad o'r gair Hyddfref yw Hydref. Yn unol â hyn dywed Caerfallwch, ac ereill, fod Hydref, enw y mis, yn gyfansoddedig o'r ddau air Hydd, ewig, danas,—a brefu, fel y gwna y ddanas am y bwch y tymhor hwn o'r flwyddyn. Yr oedd y creaduriaid hyn yn gyffredin yn yr hen amser, ac felly eu hàrferion yn wybyddus i bawb; a rhoddwyd enw y mis oddiwrth yr amgylchiad a nodwyd, yr hyn ydoedd brif amgylchiad y tymhor yma o'r fiwyddyn. Yr enw Seis'nig, October, sydd ddeilliedig o octo —wyth, am mai hwn ydoedd yr wythfed fis yn yr hen flwyddyn Rufeinaidd, yr hon a ddechreuai yn Mawrth. Erbyn hyn, nid priodol yr enw, gan mai y ddegfed ac tíid jx wythfed fis ydyw. Y Sacsoniaid a'i galwant yn Wyn Monat, mis y gwin. 2. Gwyliau ac ymprydiau. Hydref laf, Remigius Esgob. Mae hon yn rhestri gwyliau Eglwysi Rhufain a Lloegr. Esgob Rheims yn Ffrainc ydoedd Remigius. Efe fu yn offeryn i addysgu Clovis, brenin Ffrainc, yn egwyddorion y grefydd Gristionogol, ac a'i bedyddiodd trwy drochiad. Ceir darlun o'i fedydd yn Dr. Coat's Archaiology of Baptism. Hwn oedd y brenin Cristionogol cyntaf yn Ffrainc. Troedigaeth Cloyis fu yn achlysur i roi y teitlau Ei Uchelaf Frenin Críst- ionogol, a Mab Hynafyr Eglwys, i freninoedd Ffraine. 6§d, St.