Skip to main content

YR ATHRAW. Rhif 597. MEDI, 1876. Peis lc. Y MIS. GAN Y PARCH. H. WILLIAMS, LLANILLTYD FARDREF. 1. Yr enw. Y mae Medi, enw y mis, yn ateb y tymhor ; ac fel hyn rhoddodd yr hynafiaid yr enw oedd yn cyfateb i brif amgylchiad y mis, sef tori i lawr neu fedi yr ỳd. Gair cyfan- sawdd y w Sejìtember; enw Seis'nig yn tarddu o'r Llatin Septem, saith, a ber, fel lis yr un iaith yn enwau y misoedd ereill, megys Aprilis, Ebrill, &c. Y mae yr un rheol i'w chyfaddasu at enwau Seis'nig y tri mis sydd yn dilyn. Gwelir nad yw yr enw yn briodol yn ol fel y rhenir y fiwyddyn yn bresennol, gan mai y nawfed mis ac nid y seithfed y w. 2. Gwyliau ac ymprydiau. Dygwyddai amryw o'r gwyliau Iuddewig yn y mis hwn. Medi 4ydd, Gwyl yr Udgyrn (Lef. xxiii. 24, &c), yr hon oedd yn parhau saith niwrnod. 8fed, Cyssegriad Teml Solomon, yr hon a barhaodd bedwar diwrnod ar ddeg. (1 Bren. yiii. 35.) lOfed, Dydd y Cymmod. Yr oedd hon yn parhau o un dechreunos hyd y dechreunos nesaf. (Lef. xxiii. 26, &c.) 15fed, Gwyl y Pebyll, neu gasgliad i ddiddosrwydd ffrwythau y tir, pan yr oeddynt i fyw am saith niwrnod mewn pebyll, ac i offrymu amryw aberthau. (Lef. xxiii. 33—44.) Yn y naill neu y llall o restri gwyliau eglwysi Rhufain a Lloegr, ceir y gwyliau canlynol.—Medi laf, JEgid- ius. Ceir amryw mewn hanesiaeth eglwysig yn dwyn yr enw hwn. Y mae yn debyg mai Atheniad ydoedd hwn, yn byw yn yr wythfed ganrif, o dan deyrnasiad yr ymerawdwr Tiber-